Mae William Lane Craig yn greadaethwr digon toreithiog. Mae'n debyg ei fod wedi herio Richard Dawkins (efallai anffyddiwr proffesiynol enwoca'r byd) i ddadlau'n gyhoeddus ag o, a bod hwnnw wedi gwrthod.
Dyma enghraifft glasurol o un o hoff dactegau'r bobl ryfedd hynny sy'n credu mewn rhyw dduw anweledig ond sydd eto'n gwrthod derbyn y dystiolaeth helaeth dros esblygiad biolegol. Does dim syndod, gan ei fod yn dacteg hynod lwyddiannus ac effeithiol. Drwy herio gwyddonwyr (neu unrhyw berson call sy'n meddu ar wir hygrededd) i ddadlau'n gyhoeddus efo nhw, mae nhw'n creu sefyllfa win-win. Os ydi'r gwyddonydd yn gwrthod, yna gellir ei alw'n gachgi (gweler yr erthygl). Ond os caiff y cynnig ei dderbyn, yna mae'r cracpot wedi ennill yn barod trwy rannu llwyfan efo "gwyddonydd go iawn!". Gall wedyn ddwyn peth o hygrededd hwnnw er mwyn ei hun, yn ogystal â denu sylw gan y wasg. "That would look rather good on your CV, not so good on mine", fel mae Dawkins ei hun wedi'i ddweud mewn achosion eraill tebyg (dw i'n credu mai dyfynnu rhywun arall oedd o, ond ta waeth). Mae'r hen ddywediad yn wir. Does dim pwynt dadlau â ffyliaid: byddent yn eich tynnu i lawr i'w lefel nhw a'ch curo gyda phrofiad.
Yn waeth na hynny, mae efengylwyr - yn benodol, y sawl sy'n gwneud bywoliaeth trwy ledaenu ffwndamentaliaeth - fel arfer yn garismataidd tu hwnt. Un o'u rhinweddau prin ydi'u sgiliau siarad cyhoeddus ardderchog. Dyna un maes lle maent yn sicr yn rhagori ar lawer o wyddonwyr. Yn ogystal, dylid cofio'u gallu arwrol i ddenu llond bysus o'u praidd ffyddlon i ddod i gefnogi a llenwi'r gynulleidfa. Dod i weld y Cristion clên yn "rhoi'r gwyddonydd a'i gôt wen yn ei le" fydd y trueiniaid yma, nid pwyso a mesur cryfder y dadleuon a glywir. Fel arfer nid yw'r ornest yn un deg, gan fod angen mwy na dadleuon cywir er mwyn gallu "ennill".
Dyma pam mai'r ddadl lafar ydi'u hoff arf. Maent yn fwy cyndyn i ddadlau'n ysgrifenedig, lle gellir cyfieirio'n uniongyrchol at y dystiolaeth, a lle mae'r tactegau a ddisgrifir isod yn llawer llai effeithiol. Fel y dywedais, y ffotograff ohonyn nhw ar lwyfan yn erbyn gwyddonydd enwog ydi dechrau a diwedd eu buddugoliaeth. Dawkins fwy na neb ydi'r wobr eithaf, ac mae'n siwr bod yr Athro druan yn derbyn dwsinau o heriau o'r fath yn wythnosol; mae'n amhosibl wrth reswm derbyn y cwbl, hyd yn oed pe cytunir ar egwyddor.
Mae'r creadaethwr yn mynd i hawlio "buddugoliaeth" doed a ddelo. Mae ganddynt nifer o dactegau er mwyn creu'r camargraff bod hynny'n wir. Y clasur ydi'r Gish Gallop. Dyma'r grefft (os dyna'r gair) o raffu pob math o wahanol gelwyddau, "dadleuon", honiadau ac ensyniadau amheus rif y gwlith. Po fwyaf y gorau, cyn gynted â phosibl. Afraid dweud bod rhaffu celwydd yn llawer haws na'i gywiro, a'n cymryd ffracsiwn o'r amser. Eiliad yn unig mae'n ei gymryd i fabi chwydu, ond gall gymryd hanner awr i lanhau'r llanast. Mae celwydd hawdd, syml, yn gallu bod yn drawiadol ac effeithiol iawn, yn enwedig pan mae'r gwir yn gofyn am esboniad hirach (a mwy diflas). Dyma pam fod y dyfyniad hwnnw o eiddo Mark Twain o mor wir: "a lie can travel halfway around the world while the truth is putting on its shoes." Mae'n anodd i'r gwyddonydd wybod lle i ddechrau. Beth bynnag, hyd yn oed pe llwyddir i gywiro 99 allan o 100 celwydd, wedi'r ddadl byddai'r ffwndamentalwr yn sicr o bwyntio at yr un sydd ar ôl a gweiddi "aha! doedd dim ateb ganddo i hwnna!"
Dyma pam bod y bobl yma'n ddieithriad yn awyddus i wneud pwnc y drafodaeth mor ben-agored â phosibl. Pe cyfyngir y ddadl i un maes penodol, mae'n anos iddynt ddianc trwy newid y pwnc a chwydu mwy fyth o lanast sy'n gofyn am oriau o lanhau pwyllog.
Mae erthygl y Telegraph yn rhoi'r argraff bod William Lane Craig yn academydd gweddol barchus. Yn wir, o gymharu â llawer o'r cracpotiaid sydd ar yr un ochr ag o o'r ddadl, mae'n siwr ei fod ymysg y lleiaf anneallus. Ond dydi hynny ddim yn dweud llawer (rhybudd: mae'r ddolen yna'n cynnwys fideo o WLC yn mynd trwy'i bethau). Mae ymgais y dyn i fod yn fwy soffistigedig na'i gyd-ffwndamentalwyr yn ofer a chwerthinllyd. Rhaid rhyfeddu ar y gymnasteg meddyliol mae'n rhaid iddo'i gyflawni er mwyn cyfiawnhau ei safbwyntiau. Gweler, gan gyfyngu fy hun i un enghraifft benodol yn unig, y paragraff canlynol o'i eiddo, lle mae'n cyfiawnhau ac esgusodi trais erchyll yr Israeliaid fel y'i disgrifir yn yr Hen Destament:
So whom does God wrong in commanding the destruction of the Canaanites? Not the Canaanite adults, for they were corrupt and deserving of judgement. Not the children, for they inherit eternal life. So who is wronged? Ironically, I think the most difficult part of this whole debate is the apparent wrong done to the Israeli soldiers themselves. Can you imagine what it would be like to have to break into some house and kill a terrified woman and her children? The brutalizing effect on these Israeli soldiers is disturbing.Gwae chi os nad ydi'r geiriau yna'n saethu ias i lawr eich cefn. A hynny, sylwch, ar wefan o'r enw "Reasonable Faith". Os ydi o wir yn credu'r uchod, mae'r dyn yn anghenfil ac mae'n hawdd deall pam fod Dawkins mor awyddus i gadw'i bellter rhagddo. Ych a fi.
Er efallai bod hynny ynddo'i hun yn rhoi mwy o sylw i'r dyn na'i haeddiant, mae rhywun wedi mynd i'r drafferth o greu gwefan yn benodol er mwyn chwalu dadleuon WLC yn ddarnau, ac mae'n werth ei darllen.
No comments:
Post a Comment