Ac mae'n anodd penderfynu pa ymateb sydd orau: chwerthin, neu ddychryn a chwilio'n frysiog am blaned arall i ddianc iddi. Mae 'na fywgraffiad gwych o Michele Bachmann yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Rolling Stone. Mae'n werth darllen y cyfan.
Mae hi'n wleidydd eithafol o Minnesotta, sydd wedi datgan ei bod yn bwriadu ymgeisio i fod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr i herio Obama yn yr etholiad flwyddyn nesaf. Mae hi'n gwbl boncyrs. Mae'n aelod balch a gwallgof o'r Dde Gristnogol, a'n fwy na hynny mae'n coleddu pob math o syniadau dwl am bob math o conspiracy theories.
Dw i'n argyhoeddedig bellach bod perygl anferth mai hi fydd yr ymgeisydd. Yr unig ddau difrifol arall yn y ras yw Mitt Romney a Tim Pawlenty. Dau ddyn gwyn canol oed digon diflas; bydd y ddau yma'n brwydro am gefnogaeth yr un bobl, gan hollti'r bleidlais mwy "cymhedrol" (os oes y fath beth yn bodoli o fewn y blaid bellach) gan adael cyfle gwych i Bachmann sleifio i mewn a bachu'r ymgeisyddiaeth. Mae'r ffaith nad yw Sarah Palin yn mynd i ymgeisio (yn fy marn i doedd y peth byth yn fwriad ganddi, ond mae'r peth yn amlwg erbyn hyn) yn ei gadael hi fel yr unig fagnet ar gyfer pleidleisiau'r Dde Gristnogol baranoid (sy'n leiafrif, gwir, ond lleiafrif tanbaid ac eithriadol o frwdfrydig os dim byd arall). Caiff gymorth hefyd gan y ffaith ei bod yn boblogaidd iawn yn Iowa (sydd ddrws nesaf i Minnesotta), y dalaith gyntaf i bleidleisio dros ymgeisydd. Bydd hoelion wyth ei phlaid yn benderfynol o'i hatal, gan eu bod nhw'n gwybod yn iawn nad oes ganddi obaith mul o guro Obama. Ond mae'r Tea Party wedi'u mopio'n lân â hi, ac o ystyried cyn waned yw gweddill yr ymgeiswyr posibl, dydi llwyddiant ddim yn annhebygol.
Fel oeddwn i'n dweud, does ganddi fawr ddim gobaith o gipio'r Ty Gwyn ( oni bai bod yr economi'n mynd i'r diawl yn llwyr rhwng rwan a Thachwedd 2012). Dw i'n siwr y byddai Obama wrth ei fodd petai'n ei gwynebu hi fel gwrthwynebyd. Ond petai hynny'n digwydd, byddai'n ddifyr gweld effaith hynny ar wleidyddiaeth fewnol ei phlaid. Byddai crasfa (sy'n debygol) yn gallu golygu pen llanw ar fudiad y Tea Party a symudiad ei phlaid yn gyffredinol i'r dde eithafol. Ar y llaw arall, gall ei hymgeisyddiaeth gael yr effaith o galedu'r symudiad cyffredinol i'r dde a gwneud shifft pellach byth yn bosibl. Mae'n gwbl rhyfeddol faint mae'r Gweriniaethwyr wedi symud yn ideolegol; mae hyd yn oed George W Bush yn ymddangos yn gymhedrol wrth ei gymharu â naratifau presennol y blaid.
Darllenwch yr erthygl. Mae'n hawdd ei hanwybyddu, neu bwyntio bys a chwerthin, a dweud ei bod yn rhy wallgof i fod yn fygythiad. Ond mae ganddi siawns ryfeddol o dda o fod yn un o ddau ymgeisydd ar gyfer y swydd rymusaf ar y ddaear. Mae'n anodd canfod y geiriau weithiau.
No comments:
Post a Comment