17/03/2012

Rhai geiriau am fuddugoliaeth Leanne Wood

Rwy'n hynod falch bod Leanne Wood wedi llwyddo yn ei hymgyrch i gael ei hethol fel arweinydd newydd Plaid Cymru. Hi gafodd fy mhleidlais gyntaf a hynny oherwydd argyhoeddiad ei bod yn amser dechrau pennod newydd. Rwy'n tueddu i deimlo bydd llyfrau hanes y dyfodol yn garedicach i Blaid Cymru'r degawd diwethaf ac i Ieuan Wyn Jones nag y mae'r canfyddiad cyffredinol presennol, ond mae datblygiadau yn yr Alban yn enwedig yn golygu bod angen dechrau annog ac arwain yn hytrach na chwarae'n saff. Mae llawer o sylwebyddion wedi gwneud y pwyntiau amlwg i gyd yn well nag y gallaf i, ond mae ambell bwynt rwy'n credu sy'n werth eu codi yn sgil cyffro ddoe.

Y cyntaf yw fy mod yn gobeithio y bydd hyn yn gymorth i ladd myth styfnig am gefnogwyr "traddodiadol" Plaid Cymru, sef bod y fro Gymraeg yn orlawn o "geidwadwyr g-fach diwylliannol". Daeth cefnogaeth Leanne o bob cornel o'r wlad, ac fe enillodd yn braf mewn rhannau helaeth o'r Gymru Gymraeg wledig. Mae'r celwydd yma'n un defnyddiol iawn i rai o'r pleidiau eraill, ond dylai'r ffaith bod cymaint o'r Pleidwyr traddodiadol yma wedi pleidleisio dros wleidydd mor ddi-gyfaddawd o'r asgell chwith roi'r farwol i'r fath lol. Mae'r myth yn anwybyddu'n llwyr y ffaith bod llawer o'r gorllewin Cymraeg yr un mor ôl-ddiwydiannol â Chymoedd™ y de-ddwyrain. Hyd yn oed wedyn, mae rhai ceidwadwyr c-fach go iawn fel yr Hen Rech Flin wedi cefnogi Leanne Wood oherwydd ei chenedlaetholdeb di-wyro a di-gyfaddawd.

Felly, mae'r naratif y mae'r pleidiau eraill wedi dechrau ceisio'i lunio'n barod, sef bod Wood am ei chael yn anodd dal gafael ar y cadarnleoedd os am geisio ennill tir newydd yn y cymoedd, yn un cyfeiliornus. Mae'r cadarnleodd hynny'n gefnogol iddi'n barod, a hynny oherwydd bod ei chefnogaeth i'r iaith Gymraeg ac i'r syniad o annibyniaeth i Gymru'n gadarnach nag yn achos unrhyw aelod arall o'r Cynulliad, fwy neu lai.

Yn ail, bydd yn ddifyr gweld pa strategaethau eraill bydd y Blaid Lafur yn eu defnyddio yn eu herbyn. Mae'r ysgrif yma ar flog Leighton Andrews yn un digon deallus a diddorol, ond erys y ffaith bod ei blaid am ei chael yn anodd ymosod ar safbwyntiau asgell chwith arweinydd newydd Plaid Cymru, oherwydd canlyniad hynny fydd tynnu sylw at y ffordd y mae Llafur wedi hen fradychu'r traddodiad hwnnw. Tric Llafur ers Blair yw meddianu'r tir canol tra'n parhau i siarad fel plaid y chwith radical. Byddai beirniadu Wood am fod yn aelod go iawn o'r chwith yn amlygu'r celwydd.

Y trydydd pwynt yw'r ffaith hyfryd bod arweinwyr Plaid Cymru bellach yn fenywod. Leanne Wood yw'r arweinydd wrth gwrs, ond hefyd mae Jill Evans yn lywydd, Helen Mary Jones yn gadeirydd a Rhuanedd Richards yn brif weithredwraig. Mae hynny'n fendigedig ar ôl wyth degawd o'r Party of Males ac rwy'n croesawu'r sefyllfa bresennol yn fawr iawn. Mae Helen Mary wedi awgrymu Elin Jones fel dirprwy-arweinydd a byddai hynny'n ddewis clodwiw iawn. Rwy'n digwydd credu bod Llyr Huws Gruffydd yn opsiwn amgen rhagorol hefyd, ond byddai unrhyw un o'r ddau yn foddhaol.

Mae awgrym yn y sylwadau ar waelod yr erthygl yna bod y diffyg pidlan yn rhengoedd blaen y Blaid bellach am fod yn destun pryder i ambell ddyn sy'n tueddu i gymryd eu safle breintiedig yn ganiataol (gweler sylw "Hirben"). Bydd yn ddifyr gweld a fydd gan fisogynistiaeth ran flaenllaw i'w chwarae yng ngwleidyddiaeth Cymru o hyn ymlaen. O'm rhan i, rwy'n falch bod criw nad ydynt yn ddynion am gael cymryd yr awennau am unwaith. Dyma un reswm arall pam mae arweinyddiaeth Wood am fod mor ddiddorol a ffresh.

2 comments:

  1. C mawr plis!C mawr Cenedlaethol a C mawr Ceidwadol!

    ReplyDelete
  2. Dwi'n hoffi Leanne am ei diffuantrwydd ond gweld pethau'n gwahanol. http://bratiaith.blogspot.co.uk/

    ReplyDelete