25/04/2012

Blwyddyn o Anffyddiaeth

Rwyf newydd sylweddoli bod blwyddyn wedi mynd heibio ers geni'r blog yma. Mae amser wedi hedfan. Gan gynnwys yr un yma, rwyf wedi cyhoeddi 93 cofnod. Mae hynny bron yn ddau yr wythnos, ac nid yw hynny'n rhy ddrwg am wn i, er bod lle i wella.

Yn ôl Blogger, rwyf wedi cael 12,209 o hits yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n arbennig o gwbl - mae Blogmenai'n gallu denu hynny mewn ambell fis - ond am flwyddyn gyntaf blog Cymraeg rwy'n ddigon bodlon. Beth bynnag, ac er ei fod yn cliché, er fy mwyn fy hun rwy'n ysgrifennu'n bennaf. Yn hynny o beth, rwy'n teimlo fy mod yn cael cryn dipyn mwy o hwyl arni bellach nag oeddwn ar y dechrau; o ddarllen yn ôl, mae ambell gofnod cynnar yn weddol drwsgl. Fel byddai rhywun yn disgwyl, mae pethau fel hyn yn dod yn haws gydag amser.

Diolch yn fawr i unrhyw un sy'n darllen, a'n enwedig i bawb sy'n gadael sylwadau.

9 comments:

  1. Dal ati, a diolch i ti hefyd am greu blog mor ddifyr a darllenadwy.

    ReplyDelete
  2. Diolch. Ar ôl rhoi tro aflwyddiannus ar ddal ati gyda blog blaenorol, rwy'n falch bod hwn bellach wedi dod yn fater o arfer. Mae'n help canolbwyntio ar faes penodol hefyd. Mae'n rhyfeddol cymaint sydd i'w ddweud am y ffaith nad yw rhywbeth yn bodoli.

    ReplyDelete
  3. Bob tro'n werth ei ddarllen - llongyfarchiadau!

    Ioan

    ReplyDelete
  4. Llongyfarchiadau Dylan. Wastad yn mwynhau darllen Anffyddiaeth, er mod i ddim yn cytuno â ti bob tro. Bwysig iawn bod y pethau yma yn cael eu trafod mewn ffordd rhesymol, ac yn aml ti wedi ngorfodi edrych ar fy agweddau fy hunan a phenderfynnu beth ydw i'n ei feddwl ar ryw pwynt.

    ReplyDelete
  5. Diolch! O ran diddordeb, beth wyt wedi anghytuno ag o? Byddai'n ddifyr clywed.

    ReplyDelete
  6. Blog gwych! Yr unig beth rhwystredig ydi fyd mod i'n aml eisiau ymateb ond yn cytuno'n llwyr â beth a ysgrifenwyd! Felly dim lot i'w ychwanegu ond 'clywch, clywch'.

    ReplyDelete
  7. Pen-blwydd hapus iawn i dy flog, er nad ydym yn cytuno'n aml mae'n braf cael trafod, dadlau hyd yn oed gwylltio a'n gilydd o bryd i'w gilydd, a gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

    ReplyDelete