21/04/2012

"Nid wyf yn berson crefyddol, rwy'n gristion"

Rwyf wedi bod yn ceisio deall y cofnod yma gan Rhys ers iddo'i gyhoeddi rhyw bythefnos yn ôl. Rwyf wedi clywed pethau tebyg i hyn o'r blaen: cristnogion sy'n ceisio ymbellhau oddi wrth yr hyn a elwir yn "grefydd" ac sy'n gwadu arddel y fath beth anwaraidd, gan ddweud eu bod yn hytrach yn "dilyn Iesu Grist". Gwelwn y broblem amlwg gyda hyn pan mae Rhys yn ceisio diffinio'i dermau:
Y gwahaniaeth technegol/diwinyddol rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw bod a wnelo crefydd ac ymgais dyn i gyrraedd duw tra bod a wnelo Cristnogaeth a Duw, trwy ei gariad, yn cyrraedd at ddyn. Mae hyn yn ddigon clir a hawdd i’w ddeall.
Y drafferth wrth gwrs yw'r dybiaeth bod yna dduw'n bodoli'n y lle cyntaf. Gan mai creadigaeth dychymyg pobl yw'r cymeriad a adwaenir fel "Duw", nid yw'r ail ddiffiniad yn gwneud synnwyr.

Mae diffiniad "crefydd" yn un digon goddrychol wrth gwrs, ond tybiaf bod yna rai elfennau creiddiol. Mae ffydd mewn rhyw fath o dduw neu fôd goruwchnaturiol yn un nodwedd gyffredin. Nid yw pob crefydd o reidrwydd yn cynnwys hyn (bwdhaeth, er enghraifft) ond go brin bod yna unrhyw system ffydd sy'n cynnwys duw neu dduwiau nad ydynt yn grefyddau.

Mae Rhys yn anghytuno â sectau neu fersiynau eraill o'r grefydd gristnogol, boed am resymau strwythurol, sefydliadol neu ddiwinyddol. Ond nid yw hawlio wedyn bod ei fersiwn ef yn codi uwch ben lefel "crefydd" yn dal dŵr. Mae ei ymagwedd ef â "duw" yn wahanol, mae'n wir, ond dim ond yn yr un modd ag y mae pob sect neu athrawiaeth ddiwinyddol yn wahanol i bob un arall.

Rhannaf ddiffyg amynedd Rhys gyda "christnogaeth ddiwylliannol" (heblaw'r canu pedwar llais, sy'n rhywbeth i ddiolch amdano):
Dyna yw Cristnogaeth y Beibl beth bynnag; ond y realiti ydy fod Cristnogion dros y canrifoedd wedi llurgunio’r syniad am ddiwylliant a dyma wnaeth y diwylliant capelyddol Cymraeg. Aeth ein ffydd Gristnogol yn grefydd ddiwylliannol. Cymylwyd y linell rhwng ffydd a diwylliant i’r graddau fod crefydd gyda’i gynodiadau negyddol wedi dal gafael. Nid “Cristnogaeth” ym meddwl y Cymry bellach yw ffydd syml ddi-ffuant yn Iesu ond “Cristnogaeth” yw’r grefydd Gymreig gyda’r trimings i gyd: Cwlt y Pregethwr (rhagrithiol mwy na thebyg), y gymanfa ganu, teyrn yr Organ, canu pedwar llais, dyngarwch arwynebol, adeilad nid pobl, traddodiadaeth nid traddodiad.
Y broblem, fodd bynnag, yw nad yw'n amlwg i mi sut y mae crefydd Rhys yn wahanol yn hyn o beth. Hynny yw, mae'n bosibl mai elfennau gwahanol sy'n bwysig iddo, ac rwy'n fodlon derbyn er lles dadl eu bod yn "well" na'r hyn a geir mewn fersiynau eraill o'r ffydd, ond elfennau crefyddol ydynt o hyd. Nid oes osgoi hynny, ac ymgais od ac aflwyddiannus i hollti blew yw gwadu bod yn berson crefyddol tra'n parhau i gredu bod mab i dduw wedi marw dros ein pechodau cyn cael ei atgyfodi. Y rheswm y mae pobl yn ymateb i'r honiad yna gyda dryswch yw oherwydd ei fod yn ddryslyd. Y cwbl ydyw mewn gwirionedd yw ffordd arall o wneud yr hen haeriad blinedig hwnnw mai eich ffydd chi yw'r un gwir ffydd.

Serch hynny, mae'n galonogol ei fod yn cytuno nad yw crefydd yn beth da.

7 comments:

  1. Gan nad wyt yn credu ym modolaeth Duw, pa syndod sydd nad wyt yn dallt gwahaniaeth barn rhwng credinwyr?

    ReplyDelete
  2. Mae gwahaniaeth mawr rhwng methu deall ac anghytuno. Fel cyn-gristion rwy'n deall yn iawn, ond rwy'n meddwl taw dim ond chwarae gyda geiriau y maent.

    Os ydynt yn credu mewn bodau goruwchnaturiol, os ydynt yn addoli duw, os ydynt yn cynnal defodau megis bwyta cig a gwaed eu duw yn symbolaidd, a dathlu gwyliau blynyddol, yna crefydd sydd ganddynt, nad perthynas.

    ReplyDelete
  3. Mae gwahaniaeth mawr rhwng methu deall ac anghytuno. Fel cyn-gristion rwy'n deall yn iawn, ond rwy'n meddwl taw dim ond chwarae gyda geiriau y maent.

    Os ydynt yn credu mewn bodau goruwchnaturiol, os ydynt yn addoli duw, os ydynt yn cynnal defodau megis bwyta cig a gwaed eu duw yn symbolaidd, a dathlu gwyliau blynyddol, yna crefydd sydd ganddynt, nad perthynas.

    ReplyDelete
  4. Mae dweud nad wyf yn deall yn ffordd gwrtais o awgrymu nad yw'r safbwynt rwy'n cyfeirio ato'n gwneud synnwyr.

    ReplyDelete
  5. Sylw dan din ac anhaeddiannol, Dylan. Y pwynt amlwg yw dy fod ti'n credu bod pob safbwynt crefyddol yr un mor bisâr a'u gilydd, pwynt Rhys yw bod yna gwahaniaeth rhwng ei agwedd crefyddol ef ag agwedd crefyddol eraill; i ail adrodd gan nad wyt yn credu ym modolaeth Duw, pa syndod sydd nad wyt yn dallt gwahaniaeth barn rhwng credinwyr?

    Ac ers pa bryd yr wyf fi wedi dechrau gwneud sylwadau mewn ffordd gwrtais yma – sôn am gabledd!

    ReplyDelete
  6. Wrth gwrs bod gwahaniaethau rhwng ac o fewn gwahanol grefyddau. Mae hynny'n amlwg ac rwy'n gwneud y pwynt fy hun uchod. Yr unig broblem yma yw'r honiad bod modd i unrhyw un fersiwn o ffydd grefyddol fod cymaint yn fwy goleuedig na'r lleill nes ei bod yn annheg ei anharddu â'r label "crefydd".

    Mae yna amryw o resymau pam mae ffydd Rhys yn "well" na ffydd Stephen Green, dyweder, ond crefydd ydyw o hyd. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddadleuol. Nid wyf chwaith yn siwr pa mor llythrennol yr oedd Rhys yn golygu'r hyn a ddywedodd, ond penderfynais beidio gadael iddo gael getaway gyda gwadu bod yn berson crefyddol tra'n credu ac arddel cymaint o'r nodweddion sy'n diffinio'r union beth hwnnw.

    ReplyDelete