Mae Tony Nicklinson wedi'i barlysu bron yn gyfan gwbl, a'i unig fodd o gyfathrebu yw gyda'i lygaid a chyda cymorth cyfrifiadur. Nid oes nam ar ei feddwl o gwbl, fodd bynnag. Dyma enghraifft arswydus o locked-in syndrome; y gwir yw bod Mr Nicklinson yn garcharor yn ei gorff ei hun. Mae'r sefyllfa'n annioddefol iddo, ac mae wedi hen benderfynu nad ydyw'n dymuno byw fel hyn ragor.
Yn anffodus, daeth yr Uchel Lys yn Llundain i'r casgliad gwarthus nad oes gan Mr Nicklinson yr hawl i dderbyn cymorth i ladd ei hun. Oherwydd ei gyflwr, nid oes modd iddo gyflawni hunan-laddiad trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol (er iddo ddatgan mai gwrthod bwyd fydd y cam nesaf os yw'r apêl yn aflwyddiannus), felly byddai angen pobl eraill i weithredu mewn rhyw ffordd i'w helpu i rhoi terfyn ar ei hunllef. Yn ôl y llys, fodd bynnag, y wladwriaeth sydd â rheolaeth dros ei gorff; nid Mr Nicklinson ei hun. Hynny yw, rhaid iddo aros yn garcharor yn ei gorff methedig.
Wrth wylio'r clip yma ar y newyddion neithiwr, rhaid cyfaddef daeth deigryn i'r llygad. Ni allaf deall o gwbl sut y cyrhaeddwyd penderfyniad mor greulon ac anfaddeuol. Rwyf wedi trafod yr hawl i farw o'r blaen, gan roi llawer o'r dadleuon perthnasol. Yn fy marn i, mae diffygion difrifol ym mhob dadl yn erbyn caniatáu'r hawl i farw. Rwy'n sicr bod hwn yn un o'r materion hynny lle fydd pobl yn edrych yn ôl arnom ymhen canrif, gan ddychryn bod modd i'n cymdeithas fod mor gïaidd a didrugaredd.
No comments:
Post a Comment