O'r holl bethau a ddywedir gan rai o'r ochr arall yn y frwydr yn erbyn crefydd, nid oes llawer yn fy mlino fwy na'r honiad bod cristnogaeth yn dioddef rhyw erledigaeth erchyll yn ein cymdeithas.
Mae'r canfyddiad hwnnw'n chwerthinllyd yn y wlad yma, a dyma brawf ardderchog er mwyn ei herio. Deg cwestiwn sydd yma, gyda'r unig ddau ateb posibl i bob un. Y tro nesaf y clywch rhywun yn cwyno bod eu rhyddid crefyddol yn cael ei sathru o dan draed gan ryw fwystfil chwedlonol o'r enw 'Seciwlariaeth Filwriaethus', cyfeiriwch hwy i'r dudalen yna. Cristion (gweinidog, yn wir) yw'r awdur, ac mae hi wedi deall bod seciwlariaeth yn bwysig er mwyn gwarchod hawliau crefyddol yn ogystal â'r di-grefyddol.
Blydi hel Dyl, ti'n brysur heddiw.
ReplyDeleteGwneud fyny am y ffaith fy mod i wedi bod braidd yn segur ers bron tair wythnos!
ReplyDeleteHoffi'r prawf - da iawn!
ReplyDeleteDoniol iawn! A ydwyt yn dal i guro dy wraig?
ReplyDeleteNid oes unrhyw beth yn ddoniol na loaded am y cwestiynau. Maent yn addas ar gyfer bron pob honiad o ormes tuag at grefydd yn y wlad yma. Os oes gen ti gŵyn dilys, gadewch i ni ei glywed ar bob cyfrif.
ReplyDeleteMae'n amlwg nad ydwyt yn ddeall pwynt y cwestiwn a ydwyt yn dal i guro dy wraig? Yr unig atebion a ganiateir yw ydwyf neu nac ydwyf; ni chaniateir atebion megis yr wyf yn di-briod neu nid ydwyf erioed wedi curo fy ngwraig. O ateb "ydwyf" yr wyt yn cydnabod dy fod yn curo dy wraig; o ateb "nac ydwyf" yr wyt yn ddweud dy fod wedi rhoi'r gorau i dy arfer o guro dy wraig!
ReplyDeleteMae'r erthygl yr wyt yn cyfeirio ati yn cynnig dau ddewis imi, o ddewis ateb A – dyna brawf bod fy marn am grefydd yn gachu a Ho! Ho! Ho! - yn fy nyblau O ddewis ateb - B dyna brawf arall bod fy sylwadau am grefydd yn gachu hefyd.
Fy atebion i i'r cwestiynau yn dy brawf ardderchog yw Ch, Dd, Ff a rhywle rhwng Ng a Ph!
Rwy'n deall y math yna o gwestiwn yn berffaith iawn, diolch yn fawr. Ond nid dyna a geir yn y prawf o gwbl. Nid oes ots am dy statws priodasol personol: mae'r prawf yn gofyn i ti roi dy hun yn esgidiau rhywun sy'n gwneud un o'r deg cŵyn.
ReplyDeleteGo brin y bydd unrhyw un yn hapus i ateb B, ond tough. Yn achos unrhyw un yn y wlad yma sy'n cwyno bod eu rhyddid crefyddol o dan fygythiad, mae bron iawn yn sicr mai ateb B sy'n berthnasol.
Oni bai bod gennyt enghreifftiau hypothetig o atebion Ch, Dd ac Ff. Gadewch i ni eu clywed.