24/08/2013

Chelsea Manning

Mae Chelsea Manning, sydd wedi'i charcharu am 35 blynedd am roi gwybodaeth filwrol gyfrinachol i Wikileaks, yn arwres. Rwy'n mawr hyderu y bydd hanes yn garedicach wrthi na system gyfiawnder bresennol America.

Wrth gwrs, Bradley oedd ei henw cyn ddoe. Er bod ei dyhead i fyw fel menyw wedi bod yn hysbys ers peth amser, mae'r cadarnhad wedi peri i bennau rhai o'i gelynion pennaf ffrwydro mewn dryswch llwyr.

Nid ffwndamentaliaid eithafol yn unig sydd mewn penbleth am y peth chwaith. Roedd adroddiad gwefan newyddion y BBC yn pathetig o ddi-synnwyr: "Bradley Manning, the US soldier who leaked secret US government documents to the Wikileaks website, has announced he wants to live as a woman." Hyd yn oed wrth gydnabod ei dymuniad, mynnir ei galw'n he o hyd. Pan mae hyd yn oed y Daily Mail wedi'i deall hi, dyna arwydd bod angen i rywun o fewn y gorfforaeth edrych eto ar ei style guide. Mae gan Language Log ddarn ardderchog am y gymnasteg ieithyddol a arferwyd gan gymaint o'r cyfryngau er mwyn osgoi parchu dymuniad Manning. Am grynodeb o ymateb diffygiol y wasg, argymhellaf Feministing.

Er bod yr ymgyrch i sicrhau hawliau i bobl hoyw wedi mwynhau cryn lwyddiant yn y degawd diwethaf, dyma amlygu bod tipyn o waith i'w wneud eto er mwyn ennill yr un cydnabyddiaeth a thegwch ar gyfer pobl trawsrywiol. Un o'r ymatebion gwaethaf a welais i ddatganiad Manning yw hwn o eiddo Brendan O'Neill, mochyn o goc oen os bu un erioed. Efallai ei bod yn gamgymeriad rhoi dolen i'r fath lol, ond mae'n ddefnyddiol er mwyn amlygu difrifoldeb yr anwybodaeth sy'n llethu'r "drafodaeth".

Yn syml iawn, nid yw rhyw y corff bob amser yn cyfateb â rhyw'r person. Dyna'n union yw ystyr yr elfen "traws" yn y gair "trawsrywedd": mae rhyw y corff, a hunaniaeth rywiol y person sy'n berchen ar y corff, yn wahanol.

Mae rhyw (sex) a rhywedd (gender) yn gysyniadau hollol wahanol, ac mae'r gwahaniaeth yn hynod bwysig: ganed Manning gydag organnau dyn, felly am chwarter canrif cyntaf ei bywyd roedd hi'n perthyn, yn groes i'w dymuniad, i'r rhyw wrywaidd. Ei rhywedd, ar y llaw arall, ers iddi ddod yn ymwybodol ohono yn ei harddegau, oedd benyw. Yr unig beth a wnaeth Manning ddoe oedd datgan ei dymuniad i gywiro'r anghytgord hwn rhwng ei chorff a'i hunaniaeth rywiol. Er bod twpsod fel Brendan O'Neill, a cheidwadwyr crefyddol, yn mynnu gwasgu poblogaeth gyfan y blaned mewn i ddau focs, a dau focs yn unig, mae'r byd go iawn yn llawer cymlethach na hynny.

No comments:

Post a Comment