22/02/2015

Ynghylch 'eithafiaeth'

Bu cryn drafod yn ddiweddar am eithafiaeth islamaidd, yn dilyn terfysg ym Mharis, Copenhagen a gogledd Nigeria. Mae hynny'n gwneud synnwyr: mae pobl sy'n fodlon lladd eraill er mwyn ceisio gorfodi pawb arall i ufuddhau rheolau eu crefydd, trwy ddiffiniad, yn eithafwyr. Ond dylem osgoi cyfystyru eithafiaeth a pharodrwydd i ddefnyddio trais. Mae pob terfysgwr yn eithafol, ond nid yw pob eithafwr yn derfysgwr.

Mae hyn yn amlwg yn achos Cristnogaeth. Pan feddyliwn am eithafwyr Cristnogol, nid ydym o reidrwydd yn meddwl am bobl treisgar. Mae rhai Cristnogion ffwndamentalaidd yn ceisio lladd doctoriaid sy'n erthylu, ond eithriadau cymharol brin yw'r rhain. Ar y cyfan, rydym yn hapus i alw Cristnogion adweithiol yn eithafwyr hyd yn oed os nad yw'r syniad o ddefnyddio trais er mwyn cyflawni eu dyheadau'n croesi eu meddyliau.

Nid oes diffiniad clir ar gyfer eithafiaeth, wrth gwrs, a dyna ran o'r broblem. Yng nghyd-destun crefydd, fy nghynnig personol i yw mai 'eithafwyr' yw'r sawl sy'n disgwyl i bawb arall ufuddhau rheolau eu crefydd,  neu sy'n ceisio gorfodi eu crefydd ar eraill. Diffyg amlwg y diffiniad hwn yw'r posibilrwydd bod mwyafrif o fewn cymuned grefyddol yn credu neu'n gwneud hynny. Os mai'r norm yn eu mysg yw bod rheolau eu crefydd yn berthnasol i bobl nad ydynt yn rhannu'r ffydd honno, yna'n amlwg mae'n anodd galw hynny'n 'eithafol'. Os yw bron pawb yn eithafol, cyll y gair ei ystyr. Ond nid yw'n hawdd mesur barn carfannau o bobl fel hyn. Gweler, er enghraifft, arolygon sydd wedi ceisio mesur agwedd mwslemiaid Prydeinig tuag at bobl cyfunrywiol: cymysg yw'r canlyniadau.

Symptom o eithafiaeth yw'r defnydd o drais. Y dyhead i gyfyngu ar hawliau pobl eraill yw gwraidd y broblem. Mae llawer o bobl sydd, er na fuasent yn ystyried defnyddio trais am eiliad, yn arddel safbwyntiau hyll; trwy eu gwireddu, buasent yn cyfyngu ar hawliau pobl. Yn wir, mae'n bosibl i rywun heddychlon fod yn fwy eithafol eu diwinyddiaeth na therfysgwr. Gwahaniaeth methodolegol a strategol yw'r defnydd o drais yn y pen draw. Nid eithafiaeth ynddi'i hun yw'r broblem, ond y pwnc y maent yn eithafol yn ei gylch. Byddai bod yn 'eithafol' o blaid dyneiddiaeth, hawliau cyfartal neu seciwlariaeth yn rinwedd. Nid felly yn achos islamiaeth, yn amlwg.

Er mwyn gweld pam mae'r cyfystyru yma'n broblem, edrychwn yn ôl at yr helynt rai misoedd yn ôl am eithafiaeth islamaidd mewn ysgolion yn Lloegr. Gan fod y ddau gysyniad wedi'u cymysgu ym meddyliau llawer, casgliad cyffredin oedd bod yr ysgolion hyn yn dysgu plant i droi at derfysgaeth. Rhoddodd hyn gyfle hawdd i'r ysgolion wadu'r cyhuddiad o 'eithafiaeth' - na, nid oedd yr athrawon yn pregethu am rinweddau jihad - ac anwybyddu'r ffaith eu bod yn gorfodi'r disgyblion i ddilyn rheolau crefyddol adweithiol. Y perygl yw bod diffinio eithafiaeth islamaidd fel 'trais' yn gwneud i'r safbwyntiau adweithiol eu hunain ymddangos yn llai 'eithafol' mewn cymhariaeth. Os yw arddel safbwyntiau adweithiol, cul a gormesol (ond heb hyrwyddo hynny trwy drais) yn cael ei ystyried yn 'gymhedrol', rydym eisoes wedi colli'r ddadl.

No comments:

Post a Comment