09/04/2015

Wel, dyna ddiwedd ar fy ngyrfa wleidyddol cyn dechrau

Yn dilyn y ffrae wirion ynghylch erthygl o 2001 o eiddo Mike Parker, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, dyma ddau ddarn ardderchog, y naill gan Jasmine Donahaye a'r llall gan Vaughan Roderick. Mae cwyno parhaus am wleidyddion proffesiynol, sydd wedi mynd i weithio i'w pleidiau gwleidyddol yn syth o'r coleg. Ond ar yr un pryd, mae rhywun wedi tyrchu a dewis a dethol geiriau a ysgrifennodd Parker ddegawd a mwy cyn iddo roi cynnig ar wleidydda, a'u defnyddio er mwyn ceisio tanseilio'i ymgyrch. Nid af i fanylion; maent eisoes yn hysbys, fwy na thebyg, i ddarllenwyr y blog hwn. Mae'r helynt wedi amlygu, fodd bynnag, na fyddai gennyf fawr o obaith petawn, yn hypothetig, yn ceisio dilyn trywydd tebyg.

Anghofiwn am funud y buaswn yn gwneud gwleidydd crap beth bynnag. Nid oes gennyf y gallu na'r dyhead i gamu i'r maes hwnnw. Dychmygwn, serch popeth, fy mod yn rhoi cynnig arni. Trwy ysgrifennu'r blog yma - hobi, wedi'r cyfan - buaswn wedi gwneud pethau'n bur hawdd i'm gwrthwynebwyr. Dyma fi'n dadlau o blaid cyfreithloni llosgach, er enghraifft (buaswn yn ystyried sefyll etholiad dim ond er mwyn mwynhau comedi'r ffrae wleidyddol swreal a fyddai'n deillio o hynny!). Rwy'n 'casáu'r Pab a'i grefydd' ('cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant', cofiwch!). A dyma fi'n dweud mai 'teg fyddai fy ngalw'n wrth-islamaidd'. Mae'n sicr bod llawer iawn mwy, a'r cyfan ar un wefan fach gyfleus. Heb sôn am Twitter (neu Faes-E, sydd efallai'n farwol i ddarpar-yrfaoedd gwleidyddol cenhedlaeth gyfan o Gymry anaeddfed!). Rydym eisoes wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd i un o ymgeiswyr 20 oed yr SNP, sy'n defnyddio'r un cyfrif Twitter ag yn ei harddegau, sy'n golygu bod sylwadau dwl ac phlentynnaidd a wnaeth tra'n ifanc iawn bellach yn ei niweidio'n wleidyddol.

Mae natur disgwrs wleidyddol fodern yn ddidrugaredd. Nid oes lle i nuance. Hyd yn oed pan mae rhywun fel Mike Parker yn gwneud pwynt gwrth-hiliaeth syml ac amlwg, mae modd troi'r geiriau hynny ben i waered ac awgrymu ei fod wedi dweud y gwrthwyneb. Yn achos yr ychydig enghreifftiau uchod, buasai'n anodd i mi'u hegluro'n ddigonol mewn cyd-destun ymgyrch etholiadol danllyd, er fy mod yn gyndyn eu bod yn gyfiawn.

Buasai f'ymgyrch ar ben fwy neu lai cyn iddi ddechrau, felly. Ni fyddai hynny'n golled fawr, fel y dywedais. Ond mae'n debygol bod yna bobl mwy dawnus o lawer mewn sefyllfaoedd tebyg. Rydym am fod yn dlotach ein byd os ydym am gloi'r rhain allan o'n gwleidyddiaeth am iddynt feiddio, mewn bywyd cynharach, ysgrifennu rhywbeth beiddgar. Neu, yn wir, sgribls byrbwyll angof rhywun ifanc.

No comments:

Post a Comment