Roeddwn ar y Post Cyntaf bore 'ma, yn trafod yr arfer o weddïo yn ystod gwasanaethau ysgol (mewn ymateb i'r adroddiad yma). Mae'r darn perthnasol yn dechrau ar ôl 1:43:40.
Nid yn unig y mae'n gyfreithiol i ysgolion y wladwriaeth arwain eu disgyblion mewn gweddi orfodol, ond mae'n anghyfreithlon iddynt beidio gwneud hynny. Mae'n sefyllfa ryfedd ac mae'n hen bryd i ni ddiddymu'r fath arferiad hen-ffasiwn a dwl.
Fel y dywedais yn yr eitem, nid lle'r wladwriaeth yw gorfodi crefydd ar bobl, yn enwedig gan fod plant ysgol yn rhy ifanc i fod wedi gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch eu daliadau diwinyddol. Fe geisiodd fy ngwrthwynebydd ddadlau nad 'gorfodi' mo hyn, a bod yr arferiad hyd yn oed yn 'gynhwysol', ond go brin y byddai mor barod i amddiffyn y sefyllfa bresennol petai pob un o'r gweddïau'n rai Hindŵaidd, dyweder. Mater o freinio a hyrwyddo un crefydd benodol yw hyn mewn gwirionedd, a'r unig beth synhwyrol i'r wladwriaeth ei wneud yw cadw draw o'r math yna o beth yn llwyr.
Roeddwn wedi bwriadu dweud llawer mwy, a dweud y gwir. Yn benodol, mae'n biti nad oedd amser i mi egluro fy mod yn daer o blaid gwersi addysg grefyddol. Hynny yw, mae gorfodi'r disbyblion i gymryd rhan mewn defod grefyddol yn anfoesol, ond mae'n bwysig eu dysgu am grefyddau'r byd, er fy mod, fel anffyddiwr, yn eu hystyried i gyd yn wirion. Mae pobl yn credu pob math o bethau, a dylid sicrhau bod plant yn deall hynny. Os rywbeth, mae'n bosibl fy mod yn gryfach o blaid hynny nag y mae llawer o Gristnogion, efallai oherwydd bod deall bod llawer iawn o grefyddau gwahanol yn bodoli yn gallu arwain yn ei dro at y sylweddoliad nad yw'r un ohonynt yn fwy arbennig na'r llall; mae'n fwy tebygol eu bod i gyd yn anghywir na bod un yn unig yn wir ar draul y gweddill.
Ond dywedaf eto y dylid gwahardd eu gorfodi i addoli. Dyma achos lle dylid efelychu UDA. Er bod y wlad honno'n fwy crefyddol na Phrydain a Chymru, mae'r wladwriaeth yn fwy seciwlar o lawer. Mae'r hyn sy'n ofyniad cyfreithiol ar ochr yma'r Iwerydd yn erbyn y gyfraith yn America. Yn wir, mae'n mynd yn groes i gymal cyntaf un eu cyfansoddiad. Mae pob croeso i'r disgyblion weddïo yn eu hamser eu hunain, wrth gwrs, cyn belled nad ydynt yn tarfu ar unrhyw un arall neu ar y gwersi.
Nid mater o ryddid rhag crefydd yn unig mo hyn, ond o ryddid crefyddol hefyd. Mae'r hawl i arddel eich ffydd eich hunain yn golygu'r hawl i ddewis peidio arddel ffydd arall. Gwahardd cyd-addoli mewn ysgolion yw'r unig fodd o sicrhau tegwch i bawb, o bob ffydd yn ogystal â'r di-ffydd.
Cytuno 100% efo ti dan hyn, a hynny fel Cristion o argyhoeddiad. Mae legacy Christendom yn wael i bawb. Gwael i anffyddwyr sudd am osgoi Cristnogaeth. Gwael i Gristnogion sy'n ceisio dangos mae ffydd fyw yw Cristnogaeth nid rhywbeth wedi orfodi gan y wladwriaeth.
ReplyDeleteYn hollol. Diolch Rhys!
ReplyDeleteCytuno gyda dileu'r weithred o addoliad bob dydd mewn ysgolion cymunedol. Ddylen nhw barhau mewn ysgolion eglwysig. Y pethau yn fwy lletchwith gyda'r gwyliau fel Cynhaeaf, Nadolig a Phasg, serch hynny. Maen nhw'n dal i fod yn ddathliadau crefyddol, a mi fyddai'n well gennyf gael gwared â'r cyfan na'u troi nhw yn ddathliadau seciwlar.
ReplyDeleteDiolch! A dweud y gwir, mae ysgolion ffydd yn gysyniad problematig dros ben yn fy marn i. Petawn yn cael y dewis, buaswn yn eu diddymu'n gyfan gwbl. Ond mater arall yw hynny!
ReplyDeleteBuaswn hefyd yn dadlau mai gŵyl seciwlar yw'r Nadolig beth bynnag. Nid gŵyl Gristnogol a seciwlareiddwyd yn lled ddiweddar, ond gŵyl na fu erioed yn Gristnogol yn y lle cyntaf. Ond mater arall yw hynny hefyd!