17/11/2016

Andrea Wulf: The Invention Of Nature

Nid wyf yn un am arwyr, ond mae Alexander von Humboldt (1769 - 1859), y gwyddonydd a'r anturiaethwr, yn dod yn agos iawn. Cefais flas arbennig ar fywgraffiad Andrea Wulf, The Invention Of Nature, sy'n adrodd hanes ei grwydro a'i enwogrwydd anferth yn ei ddydd.

Teg iawn yw dweud mai Humboldt ddyfeisiodd ecoleg fel maes, ac felly'r cysyniad modern o natur: ei obsesiwn mawr oedd astudio'r byd cyfanwaith, gyda phob rhan ohono mewn perthynas ddeinamig â'i gilydd.. Roedd yn bolymath rhyfeddol, ac eisiau dysgu popeth am bopeth.

Uchafbwynt ei fywyd oedd crwydro De America rhwng 1799 ac 1804. Ymysg campau eraill, ef oedd y cyntaf i gadarnhau bod yr afonydd Amazon ac Orinoco wedi'u cysylltu trwy gyfrwng y canal  naturiol Casiquiare, ac i ddringo llosgfynydd Chimborazo bron i'r copa. Mae'r rhannau hyn o'r llyfr yn enwedig yn darllen fel stori antur, ac roedd yn anodd ei roi i lawr.

Roedd brwdfrydedd Humboldt ynghylch gwyddoniaeth yn ddigon i ennyn ein hedmygedd, ond roeddwn yn hapus dros ben i ddysgu pa mor flaengar oedd ei wleidyddiaeth hefyd. Er i'w daith i Dde America gael ei hariannu gan Sbaen, cefnogodd Simon Bolivar ac ymdrechion hwnnw i ennill annibyniaeth i wledydd y cyfandir. Yn ogystal, er iddo ymweld ag America a chwrdd ag Thomas Jefferson, roedd yn danbaid yn erbyn caethwasiaeth. Roedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd.

Nid oedd yn anffyddiwr (roedd anffyddwyr go iawn yn greaduriaid hynod brin ar y pryd), ond roedd yn ddrwgdybus iawn o grefydd draddodiadol. Deistiaeth yw'r label orau ar gyfer ei ddaliadau diwinyddol, fwy na thebyg. Bu cryn gynnwrf pan gyhoeddodd ei gampwaith Kosmos gan nad oedd, er yn trafod natur y bydysawd, yn crybwyll Duw o gwbl. Yn hynny o beth, fe wnaeth gymwynas enfawr trwy normaleiddio'r arfer o drafod natur heb yr angen i grybwyll bodau goruwchnaturiol. A dweud y gwir, buaswn wedi gwerthfawrogi mwy o drafod yn y llyfr am agweddau Humboldt tuag at grefydd a duw, a'r ymateb iddo gan yr eglwys.

Nid oes amheuaeth ynghylch dylanwad Humboldt: mae'r rhestr o lefydd, anifeiliaid a nodweddion daearyddol sydd wedi'u henwi ar ei ôl yn anferth. Y peth od yw ei fod, er yn un o bobl enwocaf y blaned erbyn diwedd ei oes, wedi mynd braidd yn angof yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gobaith Wulf wrth ysgrifennu'r llyfr oedd cywiro hynny, ac rwy'n credu ei bod wedi llwyddo.

1 comment: