Felly mae Catalwnia wedi mynd amdani a datgan ei hannibyniaeth o'r diwedd, yn dilyn y refferendwm ddechrau'r mis. Wrth gwrs, datgan y peth yw'r rhan hawdd. Ar yr un pryd, mae Sbaen wedi cadarnhau ei bwriad i ddiddymu llywodraeth Catalwnia. Dyma pam rwyf wedi bod yn eithaf pesimistig ynghylch gobeithion Catalwnia ers dechrau'r broses; mater o gael ei chydnabod gan wledydd eraill Ewrop fydd hyn i gyd yn y bôn, a'r gwir yw nad oes gan y rhan fwyaf o'r rheiny lawer o gymhelliad i fynd yn groes i Sbaen yn hynny o beth. Rwy'n amau mai prif obaith y Catalanwyr yw ymateb cïaidd arall gan lywodraeth Rajoy, fyddai wedyn yn cadarnhau yn llygaid y byd mai gan Gatalwnia mae'r tir uchel moesol.
Y prif gŵyn yn erbyn beth sy'n digwydd yw bod y refferendwm yn anghyfreithlon. Mae hynny'n wir; ni roddodd Sbaen ei sêl bendith iddo. Ond mae hefyd yn wir bod cyfansoddiad Sbaen - dogfen a luniwyd ym 1978 fel cyfaddawd ar ôl claddu Franco - yn gwahardd hyd yn oed y posibilrwydd o'r fath beth. Mae'r syniad o annibyniaeth i 'ranbarthau' Sbaen felly'n dead end cyfansoddiadol. Gellid newid y cyfansoddiad, ond pa obaith oedd i Gatalwnia gyflawni hynny ar ei phen ei hun, â Sbaen ei hun mor gadarn yn erbyn y fath syniad?
Mae hyn yn codi cwestiynau dyrys ynghylch beth yn union yw cyfraith. Mae galw rhywbeth yn 'anghyfreithlon', fel petai hynny'n ddechrau a diwedd ar y ddadl, yn ddi-ystyr. Wedi'r cyfan, holl bwrpas gwleidydda yw newid cyfreithiau, ac mae hynny'n digwydd yn ddyddiol ledled y byd. Nid mewn ystafelloedd pwyllgor diflas yn unig y mae'r broses honno'n digwydd, chwaith. Elfennau hollbwysig eraill yw pwysau gwleidyddol gan ymgyrchwyr, gan gynnwys protestiadau a dulliau anghyfansoddiadol. Roedd llawer o weithredoedd Gandhi, Martin Luther King Jr a Nelson Mandela yn anghyfreithlon, ond yn foesol gywir.
Mae Sbaen ei hun yn deall hyn i gyd, yn dawel bach. Os mai mater syml oedd diystyru'r refferendwm ar sail ei hanghyfreithlondeb, pam mynd i'r drafferth o geisio'i atal a defnyddio trais yn erbyn y pleidleisiwyr?
Daeth bron pob gwlad yn y byd i fodolaeth trwy ddulliau 'anghyfreithlon'. Pan ddywedodd y Taoiseach Leo Varadkar na fyddai'n cydnabod canlyniad refferendwm Catalwnia, a'i fod yn 'parchu llysoedd a chyfansoddiad Sbaen', f'ymateb cyntaf oedd mynd i chwilio am faint o barch a ddangosodd tuag at gyfraith a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig (fel yr oeddent ym 1916) ar achlysur canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg y llynedd. Ni chefais fy siomi (blas: "As we stand here today, we bow our heads in respect to honour the men
and women who fought here at this location in 1916. We acknowledge their
courage and their ideals and we promise to try and complete their
mission"). Yn yr un modd, pan gwynodd Guy Verhofstadt, cyn-brif weinidog Gwlad Belg, bod y refferendwm yn annemocrataid, fe gymerodd dair eiliad i mi ganfod disgrifiad gwefan swyddogol ei wlad ei hun o sut y daeth honno i fodolaeth. Ac roedd y rheiny'n chwyldroadau arfog! Ai'r awgrym fan hyn yw y byddai gan y mudiad annibyniaeth yng Nghatalwnia fwy o hygrededd petaent yn chwifio gynnau?
A bod yn onest, ni ddylai ymateb arweinwyr eraill Ewrop fod yn destun syndod. I raddau helaeth, nid oes ganddynt ddewis ond mynegi cefnogaeth i'r status quo. Ond nid yw'n gwneud rhyw lawer o synnwyr i sôn am gyfreithlondeb wrth drafod annibyniaeth mewn gwirionedd. Cyn i wlad ennill ei hannibyniaeth, mae'r syniad yn swnio'n rhyfedd hyd yn oed i'r ymgychwyr eu hunain. Ond unwaith daw'r cydnabyddiaeth, uno drachefn yw'r syniad od. Rwy'n gobeithio'n fawr y caiff Catalwnia ei chroesawu gan y byd ehangach yn y pen draw, ond, os yw hynny am ddigwydd o gwbl, gall gymryd misoedd. Grym moesol a phragmatiaeth wleidyddol fydd yn dyngedfennol, nid darn o bapur a ysgrifennwyd bedwar degawd yn ôl.
No comments:
Post a Comment