Asia Bibi yw'r Cristion o Bacistan a gafodd ei dedfrydu i farwolaeth yn 2010 ar ôl honiadau hanner-pan iddi gableddu'n erbyn y proffwyd Mohammed. Cafwyd y newyddion da (ac annisgwyl) rai dyddiau yn ôl y bydd yn cael ei rhyddhau. Yn anffodus, bu protestio ffyrnig yn erbyn y penderfyniad, ac fe benderfynodd y llywodraeth bod angen dod i gytundeb gyda'r protestwyr. O ganlyniad, un o amodau ei rhyddhau fydd ei gwahardd rhag gadael y wlad.
Mae hyn yn frawychus. Mae nifer o bobl sydd wedi'i hamddiffyn yn gyhoeddus eisoes wedi cael eu llofruddio; yn syml iawn, mae ei rhwystro rhag dianc yn golygu y bydd hi ei hun yn cael ei lladd yn hywr neu'n hwyrach. Mae'n amhosibl ei dychmygu'n llwyddo i ffoi rhag yr holl eithafwyr sydd am ei gwaed am gyfnod arbennig o hir. Bydd angen iddi fod yn lwcus bob dydd; dim ond unwaith y bydd angen i'r mob fod yn llwyddiannus. Is-gontractio'r dienyddio yw hyn, i bob pwrpas, nid cyfiawnder.
Mae'r cyhuddiad o gabledd yn ei herbyn yn swnio'n ddwl o ddi-sail. Ond mae tynnu sylw at hynny bron yn methu'r pwynt. Y peth pwysig yw bod cabledd ynddo'i hun yn gysyniad chwerthinllyd. Ni ddylid gwastraffu gormod o amser yn dadlau nad oedd hi, mewn gwirionedd, wedi cableddu, gan fod hynny'n ildio'r syniad bod y fath beth yn bod â chyhuddiad dilys. Dylid diddymu pob deddf gwrth-gabledd ymhob man, ar unwaith.
Mae ei gŵr wedi gofyn am loches i'r teulu ym Mhrydain. Yn anffodus, mae angen iddynt adael Pacistan cyn ceisio lloches. Rwy'n gobeithio'n arw y byddent yn llwyddo i ddianc, rywsut, ac y cânt groeso yn rhywle lle nad yw torfeydd treisgar ffwndamentalaidd yn gallu erlid unrhyw un nad ydynt yn rhannu eu credoau twp a ffiaidd.
No comments:
Post a Comment