18/12/2018

Gadael heb gytundeb

Brexit yw'r broses wleidyddol ryfeddaf i mi ei chofio erioed, ac efallai mai'r peth iachaf i ni gyd fyddai i ni roi'r gorau i geisio gwneud synnwyr o beth sy'n digwydd. Er bod pob diwrnod unigol yn draed moch, fodd bynnag, mae'n dechrau ymddangos mai dau ganlyniad mwyaf tebygol hyn i gyd fydd naill ai ail refferendwm neu adael heb gytundeb o gwbl. Rwy'n teimlo erbyn hyn mai'r ail sydd fwyaf tebygol.

Rwyf wedi teimlo ers peth amser bod y posibilrwydd o adael heb gytundeb yn uwch nag a werthfawrogwyd. Y ddadl fwyaf cyffredin yn erbyn y posibilrwydd hwnnw oedd - ac yw - na fuasen 'nhw' yn caniatáu i'r fath beth ddigwydd oherwydd byddai'r goblygiadau mor drychinebus. Hanner-wir yw'r ddadl honno: mi fyddai gadael heb gytundeb yn drychinebus, byddai. Ond fy mantra i yn ddiweddar yw nad yw'r ffaith bod rhywbeth yn sicr o fod yn drychinebus yn golygu na allai ddigwydd. 

Mae'r gwadu hwn yn f'atgoffa o gyndynrwydd pobl ym misoedd cynnar 2016 i dderbyn y tebygolrwydd y byddai Donald Trump yn cipio enwebiad arlywyddol y Gweriniaethwyr, hyd yn oed wrth i bob arolwg barn ei roi'n gadarn ar y blaen ac wrth iddo ennill talaith ar ôl talaith ("ond mae'n rhaid y bydden nhw'n canfod ffordd o'i rwystro"). Mae yna reddf gyffredin, lled grefyddol, i fyw mewn gobaith bod yna griw o oedolion yn cuddio'n rhywle'n barod i gamu mewn ar y funud olaf i roi trefn ar bethau. Nagoes, ysywaeth.

Y gwir amdani yw bod y posibiladau Brexitaidd eraill yn edwino. Mae'n edrych yn hynod annhebygol y bydd modd i'r cytundeb a wnaethpwyd â'r UE basio Tŷ'r Cyffredin, hyd yn oed o ohirio'r bleidlais nes 14 Ionawr. Ac er gwaethaf honiadau dwl y Brexitwyr, nid oes modd ei ddiwygio. Nid yw'r UE yn debygol o fod yn fodlon ymestyn Erthygl 50 chwaith oni bai eu bod yn gweld bod rheswm adeiladol dros wneud.

Yr ateb callaf erbyn hyn, wrth gwrs, fyddai cynnal ail refferendwm. Rwy'n dweud hynny er fy mod yn llugoer tuag at refferenda yn gyffredinol, ac rwyf wedi bod yn enwedig o ddrwgdybus o'r syniad o ail-adrodd yr un a gafwyd ym Mehefin 2016. Er mai pleidleisio i aros wnes i, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod llawer o'r ymgyrchwyr ar f'ochr i yn mynd ar fy nerfau (gyda'r anffyddiwr amlwg AC Grayling a'i hashnodau rif y gwlith yn arbennig o euog). Ond gan nad oes gan y Brexitwyr unrhyw beth adeiladol i'w gynnig, a chan fod ystyr 'Brexit' wedi caledu'n syfrdanol ers y refferendwm cyntaf, rwy'n credu mai gofyn i'r cyhoedd yn uniongyrchol unwaith eto yw'r unig opsiwn cyfrifol sydd gennym yn weddill.
Byddai'r rhan fwyaf o'r 52% a bleidleisiodd i adael yn 2016 yn gwylltio'n gacwn, wrth reswm, ond y gwir plaen amdani yw nad oes datrysiad yn bodoli nad yw'n mynd i gynddeiriogi miliynau o bobl. Bydd llanast dim ots pa drywydd a ddewiswn, felly waeth i ni ddewis yr un lleiaf dwl.

(Hefyd, o safbwynt cenedlaetholgar, rwy'n hyderus y byddai Cymru, y tro hwn, o drwch blewyn neu beidio, yn pleidleisio'n wahanol i Loegr, a byddai hynny ynddo'i hun yn gaffaeliad anferthol i'r mudiad cenedlaethol).

Wrth gwrs, er mwyn cael ail refferndwm byddai angen yr ewyllys wleidyddol yn Llundain i'w gyhoeddi. Nid yw May na Corbyn (y ddau ohonynt yn saff fel arweinwyr eu pleidiau am y tro) yn cefnogi'r syniad, felly nid wyf yn obeithiol. Sy'n ein gadael â dim cytundeb. Mae bron pawb yn gwrthwynebu'r posibilrwydd hwnnw hefyd, wrth gwrs, ond gall hynny fod yn amherthnasol. Dim cytundeb yw'r default. Er mwyn ei osgoi, rhaid i ddatrysiad penodol arall gael sêl bendith y Senedd. Nid oes arwydd y bydd hynny'n digwydd, felly er mai un o'r ychydig bethau y mae mwyafrif mawr o aelodau seneddol yn cytuno yn ei gylch yw y byddai gadael heb gytudeb yn drychineb, rwy'n credu mai dyna'r union ganlyniad mwyaf tebygol. Mae'r llywodraeth yn paratoi'n agored ar gyfer hynny erbyn hyn, a nid blyff mohono.

1 comment:

  1. Diolch. Dyna dipyn o synnwyr dwi'n credi. Ond May saff yn ei swydd? Yn wirionedd, wedi cyrraedd pen ei ffordd??

    ReplyDelete