20/02/2019

Shamima Begum

Mae'r cwestiwn ynghylch beth i'w wneud â Shamima Begum yn un digon dyrys. Roedd teithio i Syria er mwyn ymuno â'r Wladwriaeth Islamaidd yn beth twp ac ofnadwy i'w wneud, pymtheg oed neu beidio. Fe ddylai fod rhyw fath o oblygiadau cyfreithiol i hynny. Ond beth bynnag yw'r union ateb i'r cwestiwn, dylai adlewyrchu'r ffaith mai plentyn oedd hi ar y pryd. Cael ei brainwasho er mwyn i ddyn tipyn hŷn na hi gael manteisio arni'n rhywiol wnaeth hi yn y pen draw.

Yr un peth sy'n gwbl sicr yw na ddylai fod wedi colli ei dinasyddiaeth Brydeinig. Mae'r penderfyniad wir wedi fy nychryn. Prydeines yw hi, wedi'i geni a'i magu yn Lloegr. Nid oes ganddi ddinasyddiaeth Bangladeshi, nac unrhyw wlad arall, felly mae hyn wedi'i gadael yn gwbl ddi-wladwriaeth.

Nid oes modd gorbwysleisio pa mor frawychus yw'r cynsail sy'n cael ei osod wrth ddiddymu dinasyddiaeth Prydeinwyr fel hyn. Ni ddylai dinasyddiaeth ("yr hawl i gael hawliau", chwedl Hannah Arendt) fod yn amodol, o dan unrhyw amgylchiadau. Mae hynny'n enwedig o wir pan mae rheswm i bryderu bod y ffaith bod rhieni Begum o wlad arall yn wreiddiol wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad. Mewn difrif, a fyddai hyn wedi digwydd i rywun fel fi petawn i, am ba bynnag, reswm, wedi gwneud yr un peth â hi? Dyma greu dau gategori o ddinesydd, i bob pwrpas. Ni ddylai unrhyw un orfod byw â'r pryder bod modd i'w gwlad eu hamddifadu o bob hawl sydd ganddynt yn y byd, boed hynny ar sail hil, ideoleg neu weithred, ond dyna'n union mae Sajid Javid newydd ei wneud.

Prydain yw gwlad Shamima Begum. Nid cyfrifoldeb unrhyw wlad arall mohoni. Os gwir y syniad y byddai Begum yn fygythiad i'r cyhoedd petai'n cael rhwydd hynt i ddychwelyd adref a cherdded strydoedd Prydain, yna cyfrifoldeb Prydain yw delio â hynny. Mae'n anfoesol i Brydain ddisgwyl i wlad arall, nad oes ganddi unrhyw gysylltiad â Begum, ysgwyddo'r baich. Yn hytrach na pharchu cyfraith a threfn a hawliau dynol, fel mae Prydain yn honni gwneud, mae ei llywodraeth newydd ymwrthod â'r gwerthoedd hynny yn y modd mwyaf llwfr.

Y gwir yw mai stynt gan Ysgrifennydd Cartref â'i fryd ar ddyrchafiad yw hyn. Mae'r ffaith bod cefnogwyr plaid lywodraethol y Deyrnas Gyfunol yn debygol o fod yn hapus â'i benderfyniad yn adrodd cyfrolau am yr hinsawdd wleidyddol hyll sydd ohoni.

No comments:

Post a Comment