24/04/2011

Does gan neb yr hawl i beidio cael eu pechu

Yn ddiweddar, digwyddodd rhywbeth brawychus.

Fe losgodd Sion Owens, ymgeisydd i'r BNP yn etholiadau'r Cynulliad, gopi o'r Corán.

(Dw i heb gyrraedd y darn brawychus eto, gyda llaw)

Y peth brawychus, gwirioneddol erchyll, ydi hyn: cafodd ei arestio am y peth. Gan yr heddlu go iawn. Am losgi talp o bapur.

Yn anffodus, mae gan Brydain gyfreithiau hurt ynglyn â phethau annelwig fel "casineb" ac osgoi "pechu" pobl. Rwan, yn ogystal â bod yn anffyddiwr, dw i'n dipyn o burydd pan mae'n dod i hawliau barn, a'r hawl i fynegi'r farn honno. Dw i'n ystyried arestio rhywun am fynegi barn yn beth gwbl atgas, a gwallgof, a pheryglus.

Dyma sut y dylai pethau fod: cyn belled mai fo oedd berchen y talp o bapur, ac nad oedd wedi peryglu unrhyw un neu eiddo unrhyw un arall, dylai allu gwneud beth bynnag ddiawl y mynna efo fo. Mae'r dyn yn amlwg yn dwp ac anghynnes (a hynny trwy ddiffiniad, o ystyried ei fod yn aelod o'r BNP), ond ni ddylai hynny fod yn fater i'r gyfraith. Does gan neb yr hawl i rwystro pobl rhag gwneud neu ddweud pethau maent yn anghytuno ag o.

Wrth reswm, mae rhai Mwslemiaid yn anhapus ag o a'n protestio yn ei erbyn (er, dw i'n hapus i nodi bod y mwyafrif llethol o'r Mwslemiaid lleol yn condemnio'r protestwyr). Ac wrth gwrs, mae hawl ganddyn nhw i wneud hynny. Mae ganddynt hefyd yr hawl i fynegi eu barn y dylai gael ei garcharu. Ond mae nhw'n anghywir. Mae'r erthy(g)l yma o'r New Statesman yn gwbl anghywir hefyd.

Mae'n debyg bod yr heddlu'n parhau i ymchwilio (beth ddiawl sydd yna i'w ymchwilio?), ac am wn i nid ydi hi'n debygol iawn y caiff ei garcharu yn y pen draw. Ond ni ddylai'r mater fod unrhyw beth i'w wneud â'r heddlu yn y lle cyntaf.

Dw i'n teimlo'n eithriadol o gryf am hyn. Bron iawn yn ddigon cryf i fynd allan i brynu copi rhad o'r Corán a'i losgi fy hun (hwyrach dylwn edrych yn The Works neu'n rhywle; mae unrhyw beth dros bunt yn llawer gormod) dim ond er mwyn mynnu'r hawl ddamcaniaethol i allu gwneud pe byddwn eisiau.

Bron iawn. Dw i'n rhy ddiog.

2 comments:

  1. Dwi di byw dan garreg ma raid, achos dwi rioed di clwad am y sdori yma ond...

    onid yw'r pwrpas a'r rheswm tu ôl y llosgi yn fwy allweddol na'r llosgi ei hun? Dydi llosgi darn o bapur yn deud dim, cytuno, ond os ydio'n llosgi er mwyn gwneud pwynt? Er mwyn cythruddo? Onid ydi huna yn wahanol?

    Ai dyno!

    ReplyDelete
  2. haia!

    nadi, dydi o ddim. Dw i ddim yn cwestiynnu'r ffaith bod y dyn yn nob sy'n mynd allan o'i ffordd i wylltio pobl. Ond yn llygaid y gyfraith, dylai hynny fod yn amherthnasol. Wedi'r cyfan, sut mae penderfynu be'n union ydi diffiniad gweithred neu ymadrodd sy'n "gwneud pwynt" neu sydd ond wedi'i wneud er mwyn cythruddo?

    Does dim posibl diffinio'r uchod yn benodol; mae meini prawf unrhyw weithred neu ymadrodd sy'n pechu o reidrwydd yn mynd i fod yn hynod o fympwyol ac annelwig. Ond y wladwriaeth fyddai'n diffinio eu hystyr. Er enghraifft, o fewn y cyd-destun Cymraeg, gallaf yn hawdd weld cyfreithiau fel hyn yn cael eu defnyddio i garcharu cenedlaetholwyr Cymraeg sy'n annog, dywed, polisi sy'n ffafrio Cymry sydd am brynu ty yn y fro Gymraeg, neu'n wir unrhyw un sydd, am ba bynnag reswm, yn dymuno llosgi jac yr undeb (gweithred dwp a phlentynaidd, ond un sy'n gymhariaeth hollol deg â'r hyn sydd o dan sylw).

    Y pwynt pwysicaf ydi hyn. O ystyried unrhyw weithred neu ymadrodd, os mai'r hyn sydd fwyaf arwyddocaol ydi'r ymateb mwyaf tebygol gan y rhai sy'n destun y gwawd (er enghraifft, os gwneir rhyw weithred sy'n debygol o bechu Mwslemiaid, a bod siawns go dda y byddai carfan ohonyn nhw'n mynd yn wallgof o'r herwydd) yna rydym yn ildio i fwlis. Cyn belled bod rhywun yn rhywle yn ei gwneud yn ddigon amlwg eu bod yn fodlon protestio'n flin a'n ymosodol yn erbyn unrhyw sarhad, gellir gwneud mynegi'r farn honno'n anghyfreithlon. Y cwbl sydd angen gwneud ydi bygwth mynd yn wyllt oherwydd eich bod wedi'ch ypsétio, ac eich gelynion gaiff eu cosbi. Mae hynny'n ormesol a pheryglus.

    ReplyDelete