Cofio Harold Camping? Ef a broffwydodd mai 6pm (amser arfordir dwyreiniol UDA, sef 11pm fan hyn) ar 21 Mai eleni fyddai dechrau'r diwedd, sef y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dychwelyd a bydd Cristnogion da fel ef yn cael esgyn i'r nefoedd. Tynged y gweddill ohonom fyddai cael ein gadael ar ôl am rai misoedd wrth i'r byd ddarfod yn araf o'n cwmpas trwy gyfrwng daeargrynfeydd, ffrwydriadau llosgfynyddol a phob math o bethau diddorol eraill, cyn i ni syrthio i uffern am dragwyddoldeb (mae rhai Cristnogion fel petaent yn cael pleser gorfoleddus wrth ffantaseiddio am inffideliaid yn profi dioddefaint di-drugaredd; torture porn o'r math mwyaf amrwd yw'r cysyniad o uffern). Yn anffodus iddo, ni chymerodd y bydysawd fawr o sylw o'i broffwydoliaeth, a chafwyd gwawr ar fore 22 Mai fel ym mhob bore arall. Yn wir, rydym yma o hyd! Hwre!
Wrth reswm, ni all proffwyd mor fawreddog gyfaddef ei fod yn hollol anghywir (er iddo wneud yr un broffwydoliaeth yn union yn ôl ym 1988 a 1994). Yn hytrach, fe fynnodd bod "dechrau'r diwedd" wedi digwydd ar 21 Mai wedi'r cwbl, ond nad oedd yr effeithiau i'w gweld. Yn lle dadfeilio'n raddol tros gyfnod o fisoedd, roedd y cyfan am ddod i ben ar yr un pryd bum mis yn ddiweddarach mewn un finale fawreddog, heb unrhyw fath o crescendo. Dyma ni, felly: mae'r cloc bron â gorffen ticio. 11pm heno fydd yr eiliad olaf. Gafaelwch yn dynn.
Rwy'n edrych ymlaen i glywed ei esgusodion bore 'fory.
Dw i ddim yn meddwl bydd e'n rhoi esgusodion y tro yma. Yn hytrach, rwy'n disgwyl iddo fe guddio o unrhyw sylw.
ReplyDeleteRwyt ti'n iawn. Nid oedd hanner cymaint o sylw wedi'i roi i'r dyddiad yma chwaith; fe gafodd pawb wneud digon o hwyl am ei ben nôl ym mis Mai.
ReplyDeleteSerch hynny, rhaid i mi wenu pan mae Cristnogion prif ffrwd yn ei ddilorni neu'n ceisio ymbellhau oddi wrtho a'i broffwydoliaethau. Mae pob Cristion, am wn i, yn credu y daw ail ddyfodiad Crist rhyw ddydd, a bod yr apocalypse i ddilyn ei ymddangosiad. Mae hynny'n boncyrs, wrth gwrs, ond mae'n rhagrithiol protestio nad yw Camping yn gynrychiadol o Gristnogaeth prif ffrwd "soffistigedig". Y cyfan mae'n gwneud yw mentro cynnig dyddiad penodol ar gyfer digwyddiad sy'n gwbl greiddiol i'r holl ffydd Gristnogol.
Y peth mwya doniol yw, os wyt ti'n darllen efengyl Marc, mae'n gwbl amlwg bod Iesu'n disgwyl i ddiwedd y byd ddod yn ystod bywyd ei ddisgyblion gwreiddiol. Wps! Felly, yn ddiarwybod, mae Camping yn cyflawni'i nod o fod fel Crist drwy methu â phroffwydo diwedd y byd yn iawn :o)
ReplyDelete