13/10/2011

Gweinidog yn gwrthwynebu hoywon!

Nid oes unrhyw beth fel Mardi Gras i ddod â thwpsod rhagarnllyd afiach i'r amlwg.

Fe gafwyd un digon llwyddiannus ar faes Sioe Môn ym mis Ebrill mae'n debyg, ac mae'r gweinidog Philip Evans o Fiwmares wedi datgan ei fod o'r farn na ddylid cynnal un flwyddyn nesaf. Fel petai ei farn ar y mater o dragwyddol bwys.

Fel mae'n digwydd, rwy'n cofio mai'r unig ffordd y bu i mi glywed am y digwyddiad yn gynharach eleni oedd oherwydd bod cwpl o ffwndamentalwyr lleol, a llond dwrn o nytars eithafol Christian Voice a oedd wedi teithio i fyny o'r de, wedi protestio'n ei erbyn. Mae condemniad gan ffyliaid crefyddol yn gyhoeddusrwydd gwych; byddwn i'n awgrymu bod trefnwyr yr ŵyl yn defnyddio sylwadau'r twpsod yma ar eu deunydd marchnata. Yn yr un modd, rwy'n siwr eu bod yn ddigon bodlon bod sylwadau dwl Mr Evans wedi dod â mwy o sylw i Fardi Gras Gogledd Cymru, hyd yn oed os nad yw'r nesaf yn cael ei chynnal am chwe mis arall.

Mae'n eithaf doniol felly bod Mr Evans yn adnodd PR digon defnyddiol i'r union beth y mae'n ceisio'i danseilio a'i wrthwynebu. Mae'n ddigon priodol chwerthin am ei ben. Ond mae angen tynnu sylw difrifol at un darn yn benodol, oherwydd mae ei eiriau'n eithriadol o nawddoglyd ac ymosodol-oddefol.
Wrth sôn am yr ŵyl y flwyddyn nesaf, fe ddywedodd Philip Evans o weinidogaeth Oasis ym Miwmares wrth Golwg360 eu bod nhw, fel Cristnogion efengylaidd, yn credu bod “cyfunrywioldeb yn bechod.”

“Rydw i wedi siarad gyda gwahanol bobl sydd yn y gymuned hoyw yn ogystal â rhai oedd yn arfer bod yn rhan o’r gymuned ond sydd wedi dod yn Gristnogion,” meddai.

“Dw i ar ddeall nad yw’r mwyafrif ohonynt eisiau bod yn hoyw. Mae llawer ohonynt wedi dioddef oherwydd eu bod wedi delio â llawer o gasineb, eu bod yn teimlo’n wahanol ac weithiau mae pobl eraill wedi’u herlid.
Mae'n bur amlwg nad yw'r bobl hoyw y mae Mr Evans yn dod ar eu traws yn gynrychiadol. Wrth gwrs bod y llond llaw o hoywon y mae'r gweinidog wedi siarad â hwy yn tueddu i fod yn rhai sydd, am ba bynnag reswm, wedi cael tröedigaeth Gristnogol ac sydd bellach yn ceisio gwadu ac atal eu cyfunrywioldeb. Dyna'r math o gylchoedd rhyfedd y mae eithafwyr crefyddol yn troi ynddynt. "Ar ddeall nad yw’r mwyafrif ohonynt eisiau bod yn hoyw"? Mewn difri calon. Ymddengys na dalodd y gweinidog lawer o sylw i'r hyn a oedd yn mynd ymlaen o'i gwmpas pan aeth i brotestio nôl ym mis Ebrill. Os yw Mardi Gras yn dangos unrhyw beth, mae'n dangos bod dathlu'r ffaith bod hoywon yn hoyw yn llawer iawn o hwyl.

Fodd bynnag, mae'r frawddeg olaf yna mor haerllug mae'n amhosibl peidio â gwylltio. Mae'n ffugio empatheiddio â phobl gyfunrywiol gan eu bod yn aml yn destun casineb a'n dioddef anffafriaeth a rhagfarn, gan anwybyddu'r ffaith amlwg mai pobl fel ef ei hun yw'r union rai sy'n gyfrifol am yr erlyn hwnnw yn y lle cyntaf! Anhygoel.

Casineb pur, wedi'i lapio mewn gwên gwrtais a ffug-gydymdeimlad. Y math gwaethaf o gasineb, a dweud y gwir. Afiach. Byddai'n werth mynd i'r Mardi Gras yn unswydd er mwyn codi bys ar y pric hunan-gyfiawn yma.

9 comments:

  1. Ych pych. (Mae'r ail ddolen wedi'i dorri, gyda'r llaw.)

    ReplyDelete
  2. Wedi trwsio!

    Roeddwn i'n rhy flin i'w deipio'n gywir y tro cyntaf, mae'n rhaid. Ych pych yn wir.

    Petawn i'n gyfunrywiol a'n ymgyrchydd o blaid hawliau ayyb, efallai byddwn yn ceisio trefnu bod criw anferth o hoywon yn teithio i eglwys y twpsyn yma er mwyn mwynhau mass kiss-in, tebyg i hyn

    ReplyDelete
  3. Dw i'n amharod i roi dolen i'r Daily Mail, ond des i o hyd i'r stori yma am Stephen Green, arweinydd y grwp Christian Voice.

    http://www.dailymail.co.uk/news/article-1351585/Stephen-Green-rails-immorality-voice-Christian-Britan-private-wife-beater-says-partner.html

    ReplyDelete
  4. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  5. Diolch am y sylwadau! Mae dy Gymraeg di'n dda iawn RedGreenInBlue; dim rheswm o gwbl yn y byd i ymddiheuro! Ti'n berffaith gywir bod sylwadau'r gweinidog yn arddangos diffyg hunan-ymwybyddiaeth uffernol. Mae "cydymdeimlo" â phobl cyfunrywiol am eu bod yn gorfod "delio â llawer o gasineb" tra'n mynegi'r union gasineb hwnnw yn yr un gwynt yn, wel, anhygoel.

    Cneifiwr: diolch am f'atgoffa o'r stori yna am Stephen Green. Er tegwch iddo, fodd bynnag, mae modd dadlau mai dim ond dilyn ei Feibl fel Cristion bach da ydoedd. Mae'r llyfr hwnnw'n ddigon clir ar rôl y wraig mewn priodas, wedi'r cyfan. Llythyr Paul i'r Effesiaid:

    5:22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.

    5:23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.

    5:24 Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.


    "Ym mhob peth"! Yn enwedig pan mae'r gŵr angen... "rhyddhad". Nid oes ots os nad yw'r wraig yn y mood. Ei dyletswydd yw gorwedd yn ôl, gadael iddo fodloni'i hun, a meddwl am Gymru. Ufuddhau, ufuddhau, ufuddhau, fel gwraig fach dda.

    ReplyDelete
  6. oh. Roedd dy sylw yno pan ddechreuais ysgrifennu! Pam wyt ti wedi'i ddileu?

    ReplyDelete
  7. (Wps, do'n i ddim yn bwriadu dileu fy sylw i! Dyma fo)

    Gwelais i hefyd y stori hon ar Golwg360, ac dw i'n cytuno yn llwyr bod y sylwadau Philip Evans yn rhyfedd, y paragraff trydydd yn enwedig. Mae'n glir bod gynno fo ddim cliw, a dim - erm - "hunan-ymwybyddiaeth" (os ydi hynny'n gair go-iawn. "Self-awareness" o'n i'n trio dweud). Ynglŷn â Christian Voice, maen nhw'n tu hwnt i obaith. Dw i'n methu dallt sut maen nhw'n medru cyfiawnhau eu gwrthwynebiad nhw i gymaint o'r pethau sydd gwneud ein cymdeithas ni'n wâr (yn weddol). Oes ganddyn nhw ddylanwad yng Nghymru o gwbl?

    (Gyda llaw, dw i eisiau dweud diolch am dy flog di - mae'n ddiddorol iawn! Dw i'n anffyddiwr sy'n dysgu'r Gymraeg, ac o'n i'n chwilio am wefannau am faterion cyfoes, gwleidyddiaeth ayyb i'w darllen am ymarfer - yn ogystal â chadw'n gyfoes, wrth gwrs! - felly dw i wrth fy modd i ddarganfod anffyddwyr Cymraeg ar y we! Rŵan mae'n bosib i mi gael "fix" iaith ac anghrefydd yn yr un lle. Diolch yn fawr - ac esgusoda fy 'sgwennu fi…

    ReplyDelete
  8. Sori Dylan, o'n i wedi sgwennu sylw ar flog arall o'n i eisiau ei ddileu. Wedi dewis y sylw anghywir i'w ddileu achos mod i'n coginio ar yr un bryd a do'n i ddim yn gwilio yn ofalus!

    ReplyDelete
  9. Haha, dim problem. Diolch am dy sylwadau caredig hefyd!

    ReplyDelete