08/11/2011

Myth y "rhyfel yn erbyn y Nadolig"

Fe soniais yn y sylwadau ar waelod y blogiad blaenorol bod rhai Cristnogion yn mwynhau teimlo fel merthyrod sy'n cael eu herlyn. Persecution complex, ys dywed y Sais.

Enghraifft glasurol arall o'r duedd honno yw'r ddefod flynyddol o gwyno am ymosodiadau seciwlar ar "wir ysbryd y Nadolig" a lol tebyg. Tra mae rhai pobl yn ystyried ymddangosiad cyntaf yr hysbyseb Coca Cola hwnnw gyda'r lorïau fel dechrau swyddogol y cyfnod Nadoligaidd, gwrando allan am y swnian pathetig cyntaf am "Winterval" a "happy holidays" fyddaf i. Yr eiliad rwy'n clywed y gwichian cyntaf am y cynllwyn mawr seciwlar i ddinistrio gwyl bwysicaf Cristnogaeth*, dyna pryd rwy'n sylweddoli bod angen i mi ddechrau siopa am anrhegion. Ac mae'n digwydd yn gynharach bob blwyddyn!

Y myth mwyaf styfnig yw hwnnw am "Winterval" cyngor Birmingham, a ddechreuodd ym 1998. Mae'n rhyfeddol sut y bu i benderfyniad mor ddi-nod ac ymarferol gael ei gamddehongli gymaint. O'r diwedd, mae'r Daily Mail (y papur euocaf, er bod mwy neu lai pob papur newydd wedi lledaenu'r celwydd ar rhyw bwynt) wedi cyhoeddi cywiriad a syrthio ar eu bai. Wel, mae'n gywiriad digon llipa mewn gwirionedd ond mae'n well na dim. Mae'r erthygl yma'n esbnonio'r cefndir.

_________________

*Wrth gwrs mae'r wyl a elwir heddiw'n Nadolig yn gymysgfa gyfoethog a bler o bob math o draddodiadau gwahanol. Mae'n debyg mai lleiafrif yw'r elfennau Cristnogol ynddi beth bynnag. Yn fwy na hynny, mae'r pwyslais mawr a roddir ar y Nadolig gan gymaint o Gristnogion yn ychydig o ddirgelwch. Mae stori'r Pasg yn fwy arwyddocaol o lawer i'm golwg i. Rhywbeth i'w wneud â Iesu'n cael ei groeshoelio am guddio'r wyau siocled i gyd.

4 comments:

  1. Dwi'n cael fy hun yn cytuno gyda llawer o gynnwys y blog yn ddiweddar! Amwni gan fod anffyddwyr a phobol sy'n (trio) dilyn Iesu go-iawn yn gytun ar un peth sef fod ffwndamentaliaeth yn dra gwirion.

    ReplyDelete
  2. Cefais i fy magu mewn teulu Cristnogol ac fe wnaeth mam a dad bwynt o'r cychwyn cyntaf o beidio ag annog y syniad fod Sion Corn yn bod. Wrth gwrs nawr fod gen i fy mhlant fy hun rydw i'n gwybod beth yw 'gwir bwrpas y Nadolig'... defnyddio Sion Corn a'i bresantau fel breib/bygythiad i sicrhau fod plant yn bihafio! Ho ho ho...

    ReplyDelete
  3. Rwy'n eithaf hoffi'r syniad o ddweud hyn wrth fy mhlant i (nad ydynt yn bodoli eto): "dydi Sion Corn ddim yn bodoli. Dyweda wrth dy ffrindiau". Byddai hynny'n eithaf doniol.

    Mae'r traddodiad o roi'r clôd i gyd i rhyw ddyn tew diarth barfog dychmygol am yr holl anrhegion rydych wedi'u prynu er mwyn gwneud i'ch plant wenu yn un rhyfedd. Byddwn i'n eithaf penderfynol o wneud yn siwr bod y diawliaid bach yn ymwybodol mai Mam a Dad sydd angen eu diolch!

    Nid yw'r Nadolig yn golygu rhyw lawer i mi, fel anffyddiwr, er fy mod yn ei "ddathlu" fel pawb arall trwy gymryd rhan yn y ddefod o roi a derbyn anrhegion a bwyta twrci ac yn y blaen. Nid bob dydd y mae'n dderbyniol i yfed alcohol gyda'ch brecwast, wedi'r cyfan. Er nad ydwyf yn Scrooge o bell ffordd, nid wyf chwaith yn un o'r rheiny sy'n cyffroi'n lân am y peth. Wedi dweud hynny, mae pobl yn dweud eich bod yn dod i werthfawrogi'r ŵyl unwaith eto ar ôl i chi gael plant eich hunain. Rwy'n derbyn bod hynny bron yn sicr yn wir. Mae cyffro plantos yn ddigon heintus. Yn ôl y sôn.

    ReplyDelete