Un pwnc fyddwn i'n hoffi gweld Dylan yn mynd i'r afael ag ef ar y blog yma ydi mater ffydd. Yn ol fy nealltwriaeth i o'r Beibl y prawf er mwyn i rhywun gael ei ystyried yn Gristnion yw credu yn Iesu ac ymroi dy fywyd iddo ef. Ond pam dewis 'ffydd' fel prawf? Mae'n ymddangos i mi fod ffydd wedi ei ddewis fel prawf oherwydd nad yw Duw yn bodoli, a mai dyna'r dewis amlwg dan yr amgylchiadau hynny. Does dim tystiolaeth ac felly y prawf mawr yw credu er gwaetha'r diffyg tystiolaeth.Mae hynny'n berffaith wir. Ystyr ffydd yn y cyd-destun yma yw credu rhywbeth heb dystiolaeth. Weithiau, hyd yn oed, fel y dywedodd Mark Twain (er na fyddai unrhyw un sy'n ei arddel yn cyfaddef y peth), "faith is believing what you know ain't so". Os oes tystiolaeth o blaid rhyw gysyniad arbennig, nid oes angen bod â ffydd ynddo, oherwydd mae rhesymeg yn dangos ei fod yn wir beth bynnag. Yn ôl Cristnogaeth, fodd bynnag, ffydd yw un o'r rhinweddau pennaf, os nad yr un pwysicaf un. Mae yna duedd syrffedus ymysg rhai anffyddwyr, hyd yn oed, i ganmol y cysyniad o ffydd hyd yn oed os nad ydynt yn ei arddel eu hunain. Y syniad yw bod parhau i fod â ffydd mewn rhywbeth er gwaethaf tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn arwydd o gryfder, urddas a theyrngarwch, fel petai'n fater o lwyddo mewn her. Er enghraifft, mae rhai Cristnogion sy'n dehongli Genesis yn gwbl llythrennol a'n credu bod y byd yn 6,000 blwydd oed yn esbonio bodolaeth ffosilau deinosoriaid trwy haeru bod duw wedi'u gosod yno'n fwriadol er mwyn rhoi eu ffydd ar brawf. Yn wir, mae'n debyg bod ffydd llawer o Gristnogion yn caledu ac ymstyfnigo wrth i dystiolaeth sy'n gwrthddweud eu credoau ddod i'r amlwg. Mae hynny'n syfrdanol. Mae'n ddigon posibl mai'r elfen yna o her yw'r prif reswm pam fod y cysyniad mor bwysig mewn Cristnogaeth:y Cristion gorau yw'r un â'r ffydd gryfaf, a gellir mesur cryfder ffydd trwy ystyried faint o gymnasteg deallusol sy'n rhaid ei gyflawni er mwyn cysoni'r ffydd honno â'r byd o'n cwmpas sy'n llawn tystiolaeth gwrthwynebus.
Mae'n agwedd niweidiol tu hwnt. Ys dywedodd yr athronydd Cymreig Bertrand Russell: "where there is evidence, no one speaks of 'faith'. We do not speak of faith that two and two are four or that the earth is round. We only speak of faith when we wish to substitute emotion for evidence". Mae'n beryglus a ffôl seilio'ch dealltwriaeth o'r byd ar yr hyn rydych yn dymuno iddo fod yn hytrach nag ar yr hyn ydyw mewn gwirionedd.
Mae ail hanner sylw Ifan yn llai eglur i mi, yn anffodus:
O ystyried fod y gallu i gredu mewn pethau er gwaetha'r diffyg tystiolaeth yn amrywio yn fawr iawn o berson i berson, pam ddim dewis prawf tecach er mwyn cael mynediad i'r Nefoedd? E.e. petai Duw yn weud wrtha'i, 'Os wyt ti'n fodlon cerdded o Land's End i John O' Groats fe gei di fod yn Gristnion', fe fyddwn i'n fodlon iawn gwneud, gan wybod fod Duw yn bodoli a bod tasg penodol sydd angen ei gyflawni er mwyn cael bod gydag Ef. Ond yn lle hynny mae'n gwneud y gorau i guddio ei fodolaeth yn y lle cyntaf, gan greu prawf digon 'random' yn fy nhyb i.Nid wyf yn siwr pam y dylai rhywun ufuddhau duw a fyddai'n gofyn iddynt wneud hynny heb roi rheswm digonol. Pam ddylai'r duw yma fynnu'r fath beth gennym? Gan siarad ar fy rhan fy hun, petawn yn derbyn y cyfarwyddyd duwiol uchod byddai f'ymateb yn un digon blin a chrintachlyd; byddwn yn teimlo bod y duw yma'n chwarae o gwmpas â mi a'n fy ngorfodi i efelychu Hercules dim ond er mwyn bodloni ei ego ef ei hun.
Yn fwy na hynny, nid yw'n gwneud synnwyr i gynnig bod duw'n ystyried tasg fel yr uchod fel gorchymyn amgen yn hytrach na mynnu ein bod yn arddel ffydd ynddo. Mae angen credu yn nuw yn y lle cyntaf er mwyn cymryd ei gyfarwyddiadau o ddifrif, wedi'r cyfan. Nid oes modd i dduw ofyn i ni wneud unrhyw beth heb ein bod yn credu ynddo gyntaf, felly mae'n naturiol mai'r ffydd ei hun sydd bwysicaf, am wn i.
Ta waeth, mae ffydd yn beth gwael. Mae'n bosibl awgrymu unrhyw beth heb dystiolaeth a'i gyfiawnhau â ffydd: heb dystiolaeth, nid oes gennym faen prawf gwrthrychol er mwyn gwahaniaethu rhwng "ffydd gywir" a "ffydd anghywir". Mae pob ffydd felly'r un mor ddilys (neu'n gywirach, mor annilys) â'i gilydd. Dyma pam mae cymaint o grefyddau gwahanol yn y byd, a chymaint o sectau gwahanol o fewn y crefyddau hynny. Mae bron pawb yn cydnabod bod seientoleg yn chwerthinllyd, ond yr unig wahaniaeth rhwng y ffydd honno a Christnogaeth yw bod treigl amser yn achos yr olaf yn golygu ei bod wedi ennill ei blwyf ymhlith llawer o bobl. Yr un faint yn union o dystiolaeth sydd o blaid y naill a'r llall mewn gwirionedd, sef dim.
Tystiolaeth a rhesymeg yw'r unig arfau sydd gennym er mwyn darganfod pethau defnyddiol am y byd ac er mwyn gwneud penderfyniadau synhwyrol. Fe fynnodd Martin Luther mai rhesymeg yw gelyn pennaf ffydd, ac mae hynny'n gywir (er mai dadlau yn erbyn rhesymeg oedd bwriad y bwystfil hwnnw!). Mae ffydd yn llesteirio ein gallu i wneud defnydd o dystiolaeth a rhesymeg, gan ein harwain ar gyfeiliorn. Am y rheswm yna, ar y cyd â'r ffaith bod duw'r beibl yn greadur brawychus ar y naw, nid oes unrhyw urddas o gwbl yn perthyn i'r ffydd Gristnogol nac i ffydd yn gyffredinol. Fel y dywed Christopher Hitchens, "what can be asserted without evidence can also be dismissed without evidence".
Clywch, clywch! Fyddi di'n fodlon imi gyfieithu'r blogiad yma i'r Saesneg a'i gyhoeddi ar fy mlog fy hun (gyda chyswllt yn ôl, wrth gwrs)?
ReplyDeleteWrth gwrs! Byddwn i'n falch iawn!
ReplyDeleteDiolch.
ReplyDeleteDyma'r cyfieithiad.
ReplyDeleteDigwydd bod mae na flog ar y pwnc yma yn y Guardian heddiw: http://www.guardian.co.uk/commentisfree/belief/2011/nov/07/understand-my-religion-faith
ReplyDeleteO ran 'ail hanner fy sylw' uchod, dw i ddim wir wedi meddwl ryw lawer am y pwnc dan ystyriaeth. Gan nad ydw i wedi fy argyhoeddi fod duw yn bod yn y lle cyntaf dydw i ddim yn bwriadu colli cwsg yn dyfalu sut un fyddai fo petai o'n bodoli!
Na, ond fe allwn fynegi barn ar y darlun o'r cymeriad a gynigir yn y beibl. Ac mae hwnnw'n fwystfil ac mae'n beth hynod galonogol mai dim ond ffrwyth dychymyg ydyw. Dyna fydd testun fy nghofnod nesaf on un.
ReplyDeleteErthygl ddifyr. Rwy'n eithaf mwynhau cyfres Baggini hyd yma, ar y cyfan.
"Nid wyf yn siwr pam y dylai rhywun ufuddhau duw a fyddai'n gofyn iddynt wneud hynny heb roi rheswm digonol."
ReplyDeleteOs oes gan rywun ffydd yn nuw yn barod, mae'n bosib bod cyflawni tasg anodd yn cynyddu ei ffydd: "Mae'n *rhaid* bod duw yn bodoli - fel arall, pwy oedd yn f'ysbrydoli i i'w wneud?" Mae dweud hyn yn ei alluogi i gyfiawnhau ei gweithredoedd (rhag ofn i'w ffydd ddim yn gryf iawn). Ac wedyn, mae'n dod yn fwy tebygol y bydd o'n gwneud rhywbeth yn fwy anodd (neu fwy wirion). Fel dywedaist ti, mae'n bosib cyfiawnhau unrhyw beth â ffydd - gan gynnwys y ffydd ei hun. Mae'n gylch dieflig, mewn geiriau eraill.
Efallai bod bihafio fel 'na yn fodd "taro bargen" efo duw hefyd: ti'n arddangos dy ffydd yn nuw er mwyn cael gwobrwyo ganddo fo. Mae bargeinio yn ffordd cyffredin i bobl yn delio ag anhawster yn y byd go-iawn, wedi'r cyfan…
Gyda llaw, wnes i drio darllen dy flog ar fy ffôn symudol ddoe, ond mae Vodafone yn meddwl fod o'n anaddas i rai sydd o dan 18 oed! (Oedolyn dw i, ond mae "Content Control" yn fyw ar gyfrif pob cwsmer newydd, mae'n debyg. Cefais i lot o hwyl chwilio am wefannau Cymraeg "naughty" er mwyn profi ei heffeithiolrwydd!)
ReplyDeleteOnd dw i bach yn ddryslyd; dydy dy flog mewn categori "peryglus" yn eu hôl nhw, felly dw i ddim yn dallt beth oedd y problem. Ydy pobl wedi cwyno am gynnwys y blog hwn, neu rywbeth?
Rwy'n cael yr un broblem yn union. A dweud y gwir, mae'n bosibl mai system Content Control Vodafone yw'r dystiolaeth orau sydd gennym o blaid bodolaeth y diafol. Mae'n strach anhygoel i gael gwared â'r peth: am rhyw reswm gwallgof, os ydych yn gofyn i'w ddileu dros y ffôn neu ar y we maent yn mynnu cael manylion cerdyn credyd gennych, a dim ond ychydig ddyddiau yn ôl y derbyniais fy nghyntaf o'r rheiny. Rwy'n 27. Mae'n debyg bod modd gofyn yn un o'u siopau, ond bob tro rwy'n digwydd pigo draw i Fangor rwy'n anghofio. A wel. Am system chwerthinllyd a nawddoglyd.
ReplyDelete