Christianity, if false, is of no importance and, if true, is of infinite importance. The one thing it cannot be is moderately important.Dyma un o'r achosion prin hynny lle rwyf yn cytuno 100% â Mr Lewis ar fater diwinyddol (mae'r dyn yn gyfrifol am lawer o lol fel arall). Wrth gwrs, fel anffyddiwr rwyf o'r farn bod Cristnogaeth wedi'i seilio ar gelwydd llwyr, ac o'r herwydd ni ddylai fod yn arwyddocaol o gwbl. Ond mae'r dyfyniad uchod yn gywir: petai credoau Cristnogol yn wir, dyna fyddai'r peth pwysicaf yn y byd. Wedi'r cyfan, calon Cristnogaeth yw'r grêd bod yna endid goruwchnaturiol sydd yn gyfrifol am greu'r bydysawd a phopeth ynddo, sy'n ein gwylio drwy'r amser, ac sy'n mynnu ein bod yn credu ynddo. Yn fwy na hynny, fe haerir ei bod yn ddyletswydd arnom i garu'r endid yma a byw ein bywyd yn unol â chanllawiau'r Beibl. Mae pa unai nefoedd ynteu uffern yw ein tynged ar ôl marw yn ddibynnol ar ein hufudd-dod.
Mae llawer o ansoddeiriau i ddisgrifio honiadau o'r fath, ond nid yw "cymhedrol" nac "ysgafn" na "di-bwys" yn eu plith. Petai hyn i gyd yn wir, yna hyd yn oed heb ystyried y ffaith bod yr endid yma'n bygwth ein taflu i uffern hyd dragwyddoldeb os nad ydym yn ei fodloni, gwirionedd Cristnogaeth fyddai'r ffaith fwyaf arwyddocaol a fyddai'n bosibl ei dychmygu. Ni fyddai unrhyw ffaith arall yn dod yn agos; byddai'n ateb i'r holl gwestiynau mawr ynghylch ein bodolaeth a'n pwrpas mewn bywyd.
O ystyried hyn, mae bodolaeth Cristnogion cymhedrol neu apathetig yn ddirgelwch i mi braidd. Ni allaf ddeall sut mae modd derbyn bodolaeth duw o'r fath heb i'r cwbl fod yn greiddiol i'r ffordd rydych yn byw eich bywyd a'n gweld y byd. Yn hyn o beth, mae dadl gref bod credoau Cristnogion sy'n byw a bod eu ffydd yn llawer mwy cyson a chydlynol nag yn achos y Cristnogion diwylliannol hynny sydd efallai'n mynychu capel rhyw unwaith y mis ond nad ydynt yn meddwl am y peth o gwbl weddill yr amser.
Wrth gwrs, dylanwad enfawr y credoau hyn ac arwyddocâd yr honiadau a wneir yw'r holl reswm ei bod mor bwysig gwneud y pwynt eu bod i gyd wedi'u seilio ar ofergoelion di-sylwedd. Mae honiadau eithriadol yn erfyn am dystiolaeth eithriadol, wedi'r cyfan, ac nid oes golwg o'r fath beth. Mae cwestiynau mawr ynghylch y bydysawd yn rai hynod bwysig, ac mae ymchwilwyr wrth'n ceisio darganfod atebion iddynt. Nid ydym yn gwybod y cyfan eto, ac efallai na ddaw'r dydd hwnnw o gwbl, ond nid yw hynny'n reswm o gwbl i gonsurio ffug-"atebion" di-sail er mwyn llenwi unrhyw wacter yn ein dealltwriaeth. Dim ond twyllo ein hunain yw hynny.
Mae dyfyniad CS Lewis yn ddigon gwir fel ag y mae, ond byddai'n well byth gallu gorffen y frawddeg ar ôl y seithfed gair.
Dw i methu cytuno gyda CS Lewis o gwbwl. Dw i ddim yn credu fod Cristnogaeth yn wir ond mae'n amlwg yn bwysig - mae'n greiddiol i hanes ein gwlad, ein cyfandir, y byd. Heb gristnogaeth mae'n anhebydol y bydden ni'n siarad Cymraeg heddiw, ddim hyd yn oed yn defnyddio'r un llythrennau wrth deipio, fe fyddai ein diwylliant yn gwbwl wahanol, mae'n siwr, fe fyddai popeth yn wahanol. Dw i ddim yn dweud y byddai y bodolaeth amgen yma'n well neu'n waeth, ond os yw'n wir ynteu'n gau mae Cristnogaeth wedi effeithio ar weithredoedd dynion ers miloedd o flynyddoedd felly mae'n amlwg yn hynod bwysig. :)
ReplyDeleteMae hynny'n ddigon gwir, ond nid dylanwad Cristnogaeth ar hanes oedd gen i (na CS Lewis) mewn golwg. Nid oes unrhyw un yn amau pwysigrwydd hynny. Yr hyn sydd o dan sylw yw'r goblygiadau ymarferol os yw athrawiaethau creiddiol Cristnogaeth yn wir. Hynny yw, os yw'r duw Cristnogol yn bodoli, a bod hwnnw'n bwriadu ein cosbi os nad ydym yn ei addoli, a bod Cristnogaeth wir yn cynnig yr atebion cywir i gwestiynau mawr a dyrys am y bydysawd ac ein gwreiddiau fel rhywogaeth, yna dyna'r ffeithiau pwysicaf y gallaf eu dychmygu.
ReplyDeleteOherwydd hynny, ni allaf ddeall sut all unrhyw un fod yn hanner-Cristion. Os derbyn yr honiadau sylfaenol yna o gwbl, yr unig beth synhwyrol i'w wneud yw bod yn Gristion llawn a brwdfrydig, ac ymroi popeth i'r ffydd. Mae'r holl beth i weld yn all or nothing i mi.
Yn yr un ffordd ag yr wyt ti'n hollol argyhoeddedig mod i'n anghywir ac yn ffôl i gredu a dilyn Iesu rydw i hefyd yn tristhau dy fod yn gwbl gaedig i'r posibilrwydd hyd yn oed fod Iesu yn Dduw sydd eisiau i ni ei ddilyn. Fodd bynnag mae'r dyfyniad gan CS Lewis a pheth o gynnwys y blog yma yn peri, dwi'n meddwl, i'r ddau ohonom fod yn nes at ein gilydd yn athronyddol nag y galla i fod at Gristnogion nominal. Mae Iesu yn sôn am y perygl o 'gloffi rhwng dau feddwl' - y syniad tu ôl i'r her yna yw fod dyn yn dod i gredu yn y diwedd (yn hytrach na chaledu calon yn llwyr) yn lle pendilio'n ddi-ben-draw. Fodd bynnag dwi'n medru edmygu annffyddiaeth gref yn fwy na chrefydd hanner pan. Wsti beth Dylan, rydym ni'n cytuno ar rhywbeth!
ReplyDeleteUn peth i'w nodi efallai, rwy ti Dylan yn sôn am "athrawiaethau creiddiol Cristnogaeth" ac wedyn yn esbonio mae'r hyn ydyw ydy: "os yw'r duw Cristnogol yn bodoli, a bod hwnnw'n bwriadu ein cosbi os nad ydym yn ei addoli, a bod Cristnogaeth wir yn cynnig yr atebion cywir i gwestiynau mawr a dyrys am y bydysawd ac ein gwreiddiau fel rhywogaeth." Dydy'r crynhoad yna o "athrawiaethau creiddiol Cristnogaeth" ddim yn gwneud chwarae teg a Christnogaeth. Efallai ei fod yn ddehongliad posib o fathau o grefydd gyffredinol theistaidd ond mae'r grynhoad sy'n bell iawn o'r Efengyl Gristnogol.
Y "threat" o gosb sy'n ei wneud yn all or nothing yn ôl dy ddehongliad di. Ond y gobaith sy'n ei wneud yn all or nothing yn ôl fy nehongliad i.
Fel "athrawiaethau creiddiol" Cristnogaeth, yr hyn sydd gen i'n bennaf mewn golwg am wn i yw bodolaeth duw "personol" (hynny yw, un sydd yn weithredol ac sy'n poeni amdanom; rwy'n eithrio'r cysyniad o rhyw dduw annelwig a geir mewn, er enghraifft, deistiaeth (duwiaeth?)). Wrth gwrs mae elfennau eraill yn hanfodol mewn Cristnogaeth hefyd (y drindod ac ati) ac mae gwahanol Gristnogion yn siwr o anghytuno am rai eraill eto. Ond nid dyna'r pwynt, ac nid trafod manylion Cristnogaeth oedd fy mwriad. Fy mhwynt yn syml yw bod y credoau a honiadau sydd ynghlwm â Christnogaeth yn "ddweud mawr", ac mai dyna fyddai'r ffeithiau pwysicaf un petaent yn wir.
ReplyDeleteWaeth i mi ddyfynnu Dawkins ddim. "The question of whether there exists a supernatural creator, a God, is one of the most important that we have to answer." Dyna'r cwbl rwyf innau'n ei ddweud hefyd. Byddai'r goblygiadau'n bellgyrhaeddol.
Gyda llaw, nid wyf yn "gwbl gaeëdig i'r posibilrwydd" bod Iesu'n dduw ac ati. Ond nid oes tystiolaeth i gefnogi'r safbwynt yna, ac yn absenoldeb hynny, y peth synhwyrol i mi ei wneud yw cario ymlaen gyda'm bywyd fel pe na bai'n wir. Yn union fel yr wyt ti'n ei wneud yn achos unrhyw dduw arall. Ond mater arall yw hynny wrth gwrs! Rwy'n credu ein bod yn gytûn ar bwnc y cofnod hwn, er ein bod yn dod o ddau gyfeiriad cwbl wahanol, felly hwre hynny!
ReplyDelete"Mae'r holl beth i weld yn all or nothing i mi."
ReplyDeleteMae'n amlwg sut mae hyn i gyd am orffen - Fe fydd Dylan yn 'gweld y golau' ar ol ymweliad meddw gan Angel ar font Twtil ac yn treulio gweddill ei fywyd yn crwydro'r strydoedd yn pregethu'r efengyl.
Yn bersonol, er nad ydw i'n Gristion am y rhesymau y mae Dylan wedi eu amlinellu uchod,dw i'n gwbwl agored i gael fy argyhoeddi fel arall. Fe fyddwn i wrth fy modd petai yna Dduw hollalluog a chyfiawn yn cynnig bywyd tragwyddol i mi- teimlad digon tebyg i ennill y loteri dw i'n tybio! ac fe fyddwn i'n ddigon hapus i fyw fy mywyd o hynny ymlaen yn ol ei air ef. Y catch ydi nad ydw i'n gallu argyhoeddi fy hun i gredu mewn rywbeth sy'n gyfan gwbwl heb unrhyw dystiolaeth i'w gefnogi - yn waeth na hynny mae yna dystiolaeth eithaf cryf i'r gwrthwyneb.
Un pwnc fyddwn i'n hoffi gweld Dylan yn mynd i'r afael ag ef ar y blog yma ydi mater ffydd. Yn ol fy nealltwriaeth i o'r Beibl y prawf er mwyn i rhywun gael ei ystyried yn Gristnion yw credu yn Iesu ac ymroi dy fywyd iddo ef. Ond pam dewis 'ffydd' fel prawf? Mae'n ymddangos i mi fod ffydd wedi ei ddewis fel prawf oherwydd nad yw Duw yn bodoli, a mai dyna'r dewis amlwg dan yr amgylchiadau hynny. Does dim tystiolaeth ac felly y prawf mawr yw credu er gwaetha'r diffyg tystiolaeth. O ystyried fod y gallu i gredu mewn pethau er gwaetha'r diffyg tystiolaeth yn amrywio yn fawr iawn o berson i berson, pam ddim dewis prawf tecach er mwyn cael mynediad i'r Nefoedd? E.e. petai Duw yn weud wrtha'i, 'Os wyt ti'n fodlon cerdded o Land's End i John O' Groats fe gei di fod yn Gristnion', fe fyddwn i'n fodlon iawn gwneud, gan wybod fod Duw yn bodoli a bod tasg penodol sydd angen ei gyflawni er mwyn cael bod gydag Ef. Ond yn lle hynny mae'n gwneud y gorau i guddio ei fodolaeth yn y lle cyntaf, gan greu prawf digon 'random' yn fy nhyb i. :?
Rwy'n cytuno âg Ifan. Hyd yr ydw i yn deall ystyr y gair, nid cwestiwn o ddewis yw credu rhywbeth neu beidio. Byddai'n amhosib er enghraifft i mi gredu bod y sofa yn y lolfa'n las, achos fy mod i'n gwybod yn iawn ei bod hi'n goch. Mi allwn i ddweud fy mod i'n credu ei bod hi'n las, ond celwydd fyddai hynny. Mae amryw o gristnogion wedi awgrymu i mi y ddyliwn i gredu mewn Duw hyd yn oed heb y dystiolaeth, gan fod y "stakes" fel petai'n rhy uchel i beidio. Does dim ots pa mor uchel yw'r "stakes"; mae'n amhosib credu rhywbeth 'mond oherwydd eich bod chi eisiau gwneud. Pe baech chi'n cynnig £1m i mi gredu bod y sofa'n las, a bygwrth cymryd fy holl eiddio petawn i ddim, ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth.
ReplyDeleteDydw i ddim yn gwrthod y posibilrwydd fod y sofa'n las - mae'n bosib bod rhywun wedi dod i fewn heb yn wybod i mi, a'i baentio, neu ei gyfnewid am sofa newydd. Ond does gen i ddim reswm o gwbwl i gredu bod hynny wedi digwydd.
Diolch, Adam, rwyt ti wedi llwyddo i esbonio'n well na fi fy nheimladau ar y pwnc! Fe wna'i gofio dy drosiad 'lliwgar' at y dyfodol.
ReplyDeleteIfan: "Fe fyddwn i wrth fy modd petai yna Dduw hollalluog a chyfiawn yn cynnig bywyd tragwyddol i mi- teimlad digon tebyg i ennill y loteri dw i'n tybio! ac fe fyddwn i'n ddigon hapus i fyw fy mywyd o hynny ymlaen yn ol ei air ef."
ReplyDeleteI'r gwrthwyneb, mae'r cysyniad Cristnogol o dduw yn un brawychus yn fy marn i. Yn wir, fe hanner-ystyriais alw'r blog yma'n "Gwrthffyddiaeth" yn hytrach nag "Anffyddiaeth", oherwydd rwy'n falch nad oes tystiolaeth o blaid bodolaeth y duw yma. Mae hyn yn bwnc ar gyfer blogiad gwahanol, ac roeddwn eisoes yn bwriadu trafod y mater rhyw dro fel mae'n digwydd. Yn fuan.
Felly hefyd am natur ffydd. Nid yw ffydd yn rhinwedd o gwbl. Mae Cristnogaeth yn annog pobl i arddel eu ffydd er gwaethaf unrhyw dystiolaeth sy'n dangos y gwrthwyneb; yn wir, mae'n ymddangos i mi bod ffydd llawer yn cryfhau ac ymstyfnigo wrth i fwy o dystiolaeth sy'n ei gwrthddweud ddod i'r amlwg. Mae'n ffordd gwbl anhygoel o feddwl, ac yn fy marn i mae'n niweidiol. Eto, cewch ddisgwyl blogiad ar wahân am hyn.
Rwy'n falch i gael rhywun yn gofyn i mi drafod pethau fel hyn. Rwyf wedi bwriadu gwneud ers y dechrau, ond mae'n anodd ysgrifennu amdanynt heb rhyw sbardun neu ei gilydd. Mae'n hawdd trafod pethau gwirion mae eithafwyr crefyddol wedi'u dweud yn y newyddion, ond mae'n bryd erbyn hyn i mi fynd i'r afael â rhai o hanfodion cyffredinol y dadleuon o blaid anffyddiaeth a'n erbyn duwiau. Diolch i bawb am eich sylwadau.
Rwy'n cytuno gyda ti, Dylan - yn absennoldeb unrhyw dystiolaeth o gwbl sy'n awgrymu bod Duw yn bodoli, does dim rheswm da dros gredu ynddo. Dyna pam cefnais i ar Gristnogaeth, a chrefydd yn gyffredinol - y diffyg tystiolaeth.
ReplyDelete