08/11/2011

Rhagfarn ar y radio

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar bennod dydd Gwener o Taro'r Post ar Radio Cymru. Roedd trafodaeth am y newyddion y bydd gan gyplau cyfunrywiol yr hawl i gael eu seremonïau partneriaeth sifil wedi'u cynnal mewn adeiladau crefyddol o hyn ymlaen. Mae'r darn perthnasol yn dechrau ar ôl 14:40. Un o'r cyfranwyr oedd Malan Wilkinson a siaradodd yn arbennig o dda o blaid y datblygiad. Yn gwrthwynebu roedd Dr Iestyn Daniel, sy'n Babydd.

Er mwyn egluro ychydig o'r cefndir, mae pwnc y drafodaeth yn ddigon di-nod mewn gwirionedd: "partneriaethau sifil" rydym yn eu trafod o hyd, nid "priodasau" llawn, a dim ond sefydliadau crefyddol sy'n cytuno i gynnal seremonïau o'r fath fydd yn gwneud. Er gwaethaf y sgrechian hysteraidd arferol o du rhai (gan gynnwys Dr Daniel), nid yw'ch capel Presbyteraidd neu eich eglwys Babyddol leol yn mynd i gael eu gorfodi i gynnal seremoni uno Mr a Mr Jones oni bai eu bod yn gwirfoddoli i wneud. Dim ond y Crynwyr a'r Undodwyr sydd wedi cytuno hyd yma, ac felly mae'n ychydig o syndod bod y peth yn newyddion o gwbl a dweud y gwir.

Roedd Malan yn bwyllog a chwrtais a huawdl a chywir. Roedd Iestyn Daniel, ar y llaw arall, yn drwsgl, chwerthinllyd, rhagfarnllyd ac anwybodus. Roedd yn swnio allan o'i ddyfnder yn llwyr. Dyma berl od ganddo, er enghraifft: os yw hoywon eisiau priodi, beth am wneud hynny "mewn cae, mewn coedwig neu yn y bryniau"? Mae'n debyg ei fod o'r farn bod person sy'n caru rhywun o'r un rhyw yn hipi budr o'r "oes newydd" (mae'n bosibl bod y sylw yma'n datgelu cryn dipyn am feddylfryd y siaradwr, gan ei fod yn cysylltu cyfunrywioldeb â phaganiaeth). Hefyd, fe wenais wrth ei glywed yn yngan yr ymadrodd "y busnes cydraddoldeb 'ma" mewn modd dirmygus.

Yn ogystal â sylwadau gwallgof fel yna, roedd digon o dystiolaeth nad oedd ganddo syniad o fath yn y byd beth yn union oedd y pwnc yr oedd wedi derbyn gwahoddiad i'w drafod, gan iddo ddatgan ar sawl achlysur nad oedd yn gallu gweld "pam y dylai'r eglwys newid ei rheolau er mwyn eich plesio chi". Fel yr esboniais uchod, mae'r drefn newydd yn gwbl wirfoddol ac mae'r eglwys Babyddol a phob sect arall yn berffaith rydd i barhau i gasáu hoywon os mai dyna yw ei dymuniad. Mae'n anodd gen i ddeall pam y byddai rhywun - yn enwedig academydd - yn mynd ar y radio i draethu am fater cyfoes heb fynd i'r ymdrech i ymgynefino â'r pwnc. Unai roedd Dr Daniel yn ddiog neu roedd yn fwriadol yn ceisio creu camargraff (neu mewn geiriau eraill, yn dweud celwydd). Beth bynnag sy'n wir, roedd popeth a ddywedodd i'r perwyl uchod yn amherthnasol, ac roedd rhwystredigaeth Malan yn amlwg wrth iddi geisio'i atgoffa o'r pwynt yma dro ar ôl tro ar ôl tro. Mawr oedd fy nghydymdeimlad â hi.

Efallai trwy ddamwain, fodd bynnag, fe faglodd Dr Daniel ar draws cwestiwn digon teg, sef pam yn union y byddai unrhyw gwpl cyfunrywiol yn dymuno cynnal eu seremoni mewn adeilad sy'n eiddo i grefydd sy'n eu hystyried yn wrthun? Rwyf wedi pendroni ynghylch hynny fy hun, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef bod bodolaeth hoywon crefyddol yn ychydig o ddirgelwch i mi. Ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw un yn dymuno bod yn aelod o eglwys sy'n meddwl cyn lleied ohonynt. Roedd Dr Daniel yn ddigon cywir pan nododd bod yr ysgrythur yn ddigon clir ar fater cyfunrywioldeb (yn achos y dynion, o leiaf): dylid eu lladd. Mae'r llyfr hwnnw'r un mor glir ar y pwnc o fwyta pysgod cregyn a chael tatŵs hefyd, ond dim ond yr hoywon sy'n ei chael hi am rhyw reswm. Er hynny, mater personol yw ffydd, felly os oes cwpl Cristnogol hoyw'n dymuno priodi ac wedi llwyddo rhywsut i ganfod gweinidog neu offeiriad sy'n fodlon gwneud yr angenrheidiol, ni ddylai fod gan unrhyw un arall hawl yn y byd i'w rhwystro. Beth bynnag, camgymeriad Dr Daniel yw tybio bod safbwynt y beibl yn ddadl yn erbyn caniatáu i gyplau hoyw briodi. Mewn gwirionedd, dadl ydyw o blaid datgymalu lled-fonopoli sefydliadau crefyddol ar y traddodiad o briodi.

Fel mae'n digwydd, rwy'n credu bod modd awgrymu bod priodi yn y lle cyntaf yn arferiad digon rhyfedd, ac mae'n un y dylid ei gwestiynu. Nid yw'n eglur i mi pam y dylem ofyn am gael sêl bendith y wladwriaeth ar ein perthynas â'n cariadon. Yn sicr, mae'n wirion a nawddoglyd bod llywodraethau'n tueddu i wobrywo cyplau priod gyda gostyngiadau treth ac ati. Ond mater arall yw hynny.

Rwy'n carlamu oddi ar y pwnc erbyn hyn, ond y pwynt pwysig yw cydraddoldeb, fel y pwysleisiodd Malan mor arwrol yn ystod yr eitem. Os yw'r hawl i briodi, "o dan lygaid duw" os oes rhaid, ar gael ar gyfer cyplau heterorywiol, yna mae'n anfoesol gwrthod yr un hawl, yr un cyfle i ddathlu ym mhresenoldeb teulu a ffrindiau, a'r un perks ar gyfer hoywon. Yr un hawliau i bawb, os gwelwch yn dda. Mae'n gysyniad digon syml yn y bôn.

Gyda llaw, mae'n bwysig nodi hefyd bod yr un dadleuon yn union yn cael eu defnyddio i wrthwynebu priodasau cyfunrywiol ag oedd yn arfer cael eu defnyddio'n erbyn y syniad o briodasau rhyng-ethnig.

Mae llawer mwy i'w drafod ynghylch y pwnc yma, ac fe ddywedwyd digon o bethau dwl yn ystod y rhaglen i gyflenwi deunydd blogio am fisoedd. Rhag i'r llith yma fynd allan o reolaeth felly, dyma gloi trwy fynegi pryder am y ffaith bod pob un aelod o'r cyhoedd a gafodd eu barn wedi'u darllen ar y rhaglen, neu a gafodd gyfrannu'n fyw, wedi dadlau'n erbyn cydraddoldeb (craidd eu dadl oedd bod hoywon yn ych-a-fi). Yn wir, fe gafodd un hen rwdlyn siarad yn fyw ac fe fanteisiodd hwnnw ar y cyfle i gymharu cyfunrywioldeb â llosgach. Roedd hynny'n syfrdanol, ac fe gafwyd "ooh" digon poenus gan Rhys Owen y cyflwynydd mewn ymateb. Mae'n ansicr faint o gefnogwyr hawliau cyfartal a gysylltodd yn aflwyddiannus, ond rwy'n dyfalu y byddai'r cynhyrchwyr wedi defnyddio cyfraniadau o'r fath er mwyn creu mymryn o gyd-bwysedd. Yn absenoldeb hynny, felly, rhaid ofni'r gwaethaf a thybio bod yna broblem yn bodoli yn y Gymru Gymraeg. Mae'n codi cwestiynau am ragfarnau llawer o Gymry, neu o leiaf y demograffeg hwnnw sy'n segur am hanner dydd yn ystod yr wythnos ac sy'n poeni digon am bwnc y dydd i godi'r ffôn. Da iawn Malan am herio'r rhagfarnau yma. Yn anffodus, mae yma awgrym eu bod yn fwy cyffredin nag yr oeddem wedi'i sylweddoli.

3 comments:

  1. Cwbwl gall, fel arfer.

    Wnes i sylwi yn yr Eisteddfod pa mor gyndyn mae homoffobia yn dal i gydio i'r gymdeithas Gymraeg hefyd. Wrth sefyll y tu allan i stondin Stonewall, oedd yn arddangos crysau T 'Mae hoywon yn bodoli - deliwch a'r peth', dyma glywed un Efengylwr ifanc yn gofyn y cwestiwn 'Pam ddylwn i ddelio a'r peth?'.

    Ddylsa fo ddim wedi fy synnu i ddweud y gwir, achos dyma'r un boi oedd yn cerdded rownd Pantycelyn pan o'n i yno, yn rhwygo posteri undebau cyfunrywiol i lawr, rhag ofn i neb gael eu 'llygru' ganddyn nhw.

    Cytuno'n llwyr y dylid gofyn y cwestiwn beth yw pwrpas priodas hefyd, ond fel ti'n deud, mae na fwy na digon i'w drafod yma.

    Elidir

    ReplyDelete
  2. Mi gwrddais i â Malan Wilkinson unwaith. Roedd hi'n fenyw synhwyrol, deallus a ffraeth, a rwy'n cydymdeimlo'n llwyr gyda'i rhwystredigaeth o orfod rhannu llwyfan â'r fath gachu ansympathetig.

    Dwi'n methu deall pam bod pobl crefyddol byth a beunydd yn mynnu bod eu gwerthoedd bersonol nhw yn cael eu mabwysiadu gan y stâd. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth yn afiach, does dim rhaid i chi ymwneud a'r peth yn bersonol. Os ydych chi'n meddwl bod y hoywon i gyd yn mynd i fynd i uffern, iawn; dyw hynny ddim yn golygu eich bod chi mewn unrhyw berygl. Pe bai moslemiaid yn mynnu bod y stâd yn gwahardd cig moch, mi fyddai'r Cristnogion yn codi stŵr - ac mi fyddan nhw'n iawn i wneud hynny, achos does dim rheswm pam fod rhaid i bobl nad ydyn nhw'n rhannu eich credôau bersonol chi dilyn eich rheolau chi. Ond dyna ni - enghraifft arall o'r rhagorfraint cynhenid sydd gan Cristnogion yn y wladwriaeth hon.

    ReplyDelete
  3. Elidir:

    Byddai'n ddifyr gwybod sut mae crefydd ymysg Cymry Cymraeg yn cymharu â chrefydd yn y boblogaeth yn gyffredinol. Wrth reswm mae cysylltiad cryf rhwng ffydd grefyddol a homoffobia.

    Mae'n amlwg bod dylanwad rhyw wedd feddal a blaengar(ish) ar Gristnogaeth yn gryf iawn ar y Mudiad Cenedlaethol™ (gellir galw'r traddodiad hwnnw'n "Gwynforiaeth", efallai). Ond mae'n ddigalon ystyried y posibilrwydd bod rhyw Gristnogaeth fwy amrwd ac adweithiol yn llechu ymhlith y werin datws.

    -----------

    A Pearce:

    Yn hollol. Weithiau, mae rhywun yn cael yr argraff bod rhai Cristnogion ar eu hapusaf pan maent yn cael actio fel merthyrod. Gan nad oes ganddynt unrhyw reswm gwirioneddol i deimlo felly, fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt ddyfeisio rhai.

    Dyma pam bod cymaint o Gristnogion felly'n ystyried atal eu hawl i ormesu pobl nad ydynt yn eu hoffi fel gweithred ormesol ynddo'i hun. Iddyn nhw, mae peidio caniatáu iddynt ormesu ac anffafrio hoywon yn enghraifft o erlyniaeth yn erbyn Cristnogaeth. Dyna'r math o feddylfryd gwyrdroedig y mae crefydd yn ei ennyn, mae'n debyg. Mae'r holl beth yn eithriadol o blentynnaidd.

    Beth bynnag, os ydyn nhw o'r farn bod carfan o bobl yn pechu mor uffernol yn erbyn duw, rhaid gofyn pam nad ydynt mor ffyddiog bod eu duw'n hen ddigon galluog i ddelio â hwy ar ei ben ei hun. Hyd yn oed o dderbyn (er lles dadl) bod duw'n ystyried cyfunrywioldeb yn anfoesol, nid yw hynny'n reswm yn y byd i Gristnogion geisio gwneud unrhyw beth amdanynt. Mater i dduw yn unig boeni yn ei gylch yw hynny.

    ReplyDelete