21/12/2011

Ble mae'r cabledd yn y llun yma?



Mae poster o'r llun uchod, y tu allan i eglwys yn Seland Newydd, wedi'i fandaleiddio gan Babydd twp. Bwriad yr eglwys (sy'n un digon rhyddfrydol yn ôl pob golwg) oedd annog pobl i feddwl yn ddyfnach am eu ffydd. Roedd llawer o Gristnogion yn flin amdano, fodd bynnag, ac fe'i difethwyd gan rhywbeth o'r enw'r Catholic Action Group, mudiad o dan arweinydd rhyw rwdlyn o'r enw Arthur Skinner (nid yw'n hysbys a oes gan y "mudiad" unrhyw aelodau eraill) . Fe ddywedodd Skinner hyn:
"We are traditional Catholics. We don't look for trouble, but watch out if you start this sort of thing."
Bygythiad digon annifyr, rwy'n siwr y cytunech. Mae'n mynnu cael tawelu pawb nad ydynt yn cytuno ag ef, a watch out y sawl nad ildient. Am fwli anghynnes. Mae hefyd yn arddangos tuedd bur gyffredin ymysg llawer o Gristnogion, sef persecution complex a'r dyhead i fod yn ferthyr:
"I'm guilty. If they want to arrest me, be my guest. If it comes to that, I believe in being persecuted for my faith."
Fel sy'n digwydd yn aml, felly, yn absenoldeb unrhyw erledigaeth go iawn mae'n rhaid ei ddyfeisio. Dyma pam mae ffyliaid fel Skinner yn ystyried peidio rhoi'r hawl iddo ef ormesu eraill yn enghraifft o ormes ynddo'i hun yn ei erbyn ef. Dyna'r math o feddylfryd rhyfeddol y mae crefydd yn gallu'i feithrin.

Mae achosion fel hyn yn digwydd yn aml iawn. Yn wir, yn dilyn ymgais flaenorol gan yr un eglwys yn union i beri i bobl fogail-syllu, cafodd poster arall o'u heiddo ei ddifetha yn 2009  Gweler hwnnw isod:



Rwy'n hoff iawn o gableddu ("victimless crime", wedi'r cyfan) ac rwy'n chwyrn o blaid yr hawl i wneud hynny, felly mewn ffordd mae'r cwestiwn sydd gennyf yn amherthnasol. Ond yr hyn sydd wedi fy nharo am yr achos diweddaraf yw nad wyf, ar ôl crafu pen gwirioneddol, yn gallu deall beth sydd mor gableddus am y llun (hynny yw, yr un ar dop y cofnod hwn). Ydyn nhw'n gwadu bod Mair wedi bod yn feichiog ar rhyw bwynt? Ac y byddai darganfod y ffaith wedi bod yn ychydig o sioc iddi ar y dechrau? Ni welaf unrhyw beth yma sy'n mynd yn groes i athrawiaeth Babyddol. Y cyfan sydd yma yw bod rhywun nad yw'n Babydd wedi meiddio portreadu Mair mewn modd mymryn yn wahanol ond digon di-niwed. Yn anffodus i'r Pabyddion yma, nid eu heiddo personol hwy yw'r cysyniad a'r ddelwedd boblogaidd o'r cymeriad mytholegol yma. Hyd yn oed petai'r portread yn un gwirioneddol ymfflamychol, nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio.

Mae'r ymateb yn rhyfeddach fyth o ystyried mai Pabyddion sydd wedi'u gwylltio fwyaf. Mae nhw wrth eu boddau'n rhoi delweddau kitsch hyll o'r Forwyn Fair ym mhobman. Os oes unrhyw un yn euog o ddi-brisio delwedd Mair, ar lefel esthetig o leiaf, yna Pabyddion eu hunain yw'r rheiny.

Mae crefydd yn od. Ac ydyn mae'r lluniau'n eithaf doniol.

9 comments:

  1. Mae'r ail lun yn mynd yn groes i ddogma Pabyddol gan eu bod yn credu ym morwyndod parhaol Mair, sef y syniad dwp i Joseff beidio â chael rhyw gyda hi hyd yn oed ar ôl genedigaeth Iesu. Ond y cyntaf....?

    ReplyDelete
  2. Ie, o geisio edrych ar y peth drwy sbectol Gristnogol gallaf rhyw fath o ddeall(ish) cael eich tramgwyddo gan yr ail. Ond mae'r cyntaf (sef yr un diweddar) wirioneddol yn ymddangos yn ddi-niwed i mi.

    O ddarllen ymhellach, mae'r dyn Skinner yma hyd yn oed yn fwy gwallgof na mae erthygl y telegraph yn ei gyfleu:

    "This is Satanic, this is the ultimate Satanic attack, when Lucifer attacks his worst enemy, the Blessed Virgin.

    "This particular church - so called - is run by a gay, feminist-type lobby. They claim to be Christian and yet they put up a blasphemous image of the Blessed Virgin, attacking her virginity and the fact that she was the mother of Christ, the God-Man.
    "

    Hyd yn oed gyda'm sbectol Gristnogol gorau un, mae ei ddicter yn ddirgelwch mawr.

    Mae'r holl beth yn fy nhemptio i weithredu'n gableddus yn y modd mwyaf dychrynllyd yn unswydd er mwyn gwneud i Mr Skinner ffrwydro. Os yw hwnna uchod yn ei wylltio gymaint, wel...

    ReplyDelete
  3. Barry, dw i'n hollol siwr fy mod i wedi darllen yn y Beibl fod gan Iesu sawl brawd a chwaer. Sut mae hynny'n bosib os oedd Mair yn forwyn?? Hmmm dw i'n siwr fod gan yr Eglwys Babyddol r(h)yw esboniad...

    ReplyDelete
  4. Wedi cael pip yn efengyl Matthew a dod o hyd i'r canlynol...

    "Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw’n rhyfeddu ato. "Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?" medden nhw. "Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?"

    Dw i'n amlwg yn nabod fy Meibl yn well na'r Pab...

    ReplyDelete
  5. Difyr, nid oeddwn yn cofio am hynny. Mae'n debyg bod cryn ddadlau wedi bod ynghylch ystyr "brawd" yn y cyd-destun yna. "Brawd" llythrennol, ynteu cefnder neu aelod o'r teulu estynedig, ynteu mewn ystyr mwy amwys tebyg i comrade? Mae'n debyg mai'r olaf y mae'r eglwys Babyddol yn ei ffafrio.

    Mae yna drafodaeth eithaf da fan hyn.

    ReplyDelete
  6. Mae Pabyddion yn credu ym morwyndod parhaol Mair. Maen nhw'n dweud bod "brodyr a chwiorydd" Iesu, mewn gwirionedd, yn *hanner* brodyr a chwiorydd, plant Joseff o'i briodas gyntaf.

    Manylion fan hyn.

    ReplyDelete
  7. Llys-frodyr felly? Nid ffrwyth un o hadau Joseff oedd Iesu, wedi'r cyfan (gweler yr ail lun uchod!)

    Swnio fel plot opera sebon anhygoel.

    ReplyDelete
  8. "Joseph and Mary were man and wife. Although Our Lady ever retained her spotless virginity, St. Joseph was truly her husband. The sacred contract of marriage was real between them, it gave all the rights of wedlock, though in a deep and mutual reverence they persevered in virginal purity. St. Joseph is the model for husbands; he was a workman but he married a Princess. He had a share in carrying out the eternal plans of God."

    Druan ar Mair a Joseff. Eu gwobr yn y nefoedd amwn i.

    Yr Anffyddwyr wrthi eto! http://www.telegraph.co.uk/news/religion/8971430/Nativity-scene-tradition-in-Santa-Monica-threatened-by-atheists.html

    ReplyDelete