18/12/2011

David Cameron a'i "wlad Gristnogol"

Yn ôl David Cameron, mae'r Deyrnas Gyfunol yn wlad Gristnogol ac "ni ddylai fod gennym ofn datgan hynny". Mae gennyf ofn nad oes gwobr ar gael am ddyfalu beth yw barn awdur y blog hwn ar yr haeriad yna.

Dywed adroddiad y BBC: "In a speech in Oxford on the 400th anniversary of the King James Bible, the prime minister called for a revival of traditional Christian values to counter Britain's "moral collapse"." Fel un enghraifft o'r dirywiad moesol yma, mae'n cyfeirio at y terfysgoedd a gafwyd yn ninasoedd Lloegr yn ôl ym mis Awst. Mae Cameron o dan yr argraff bod anhrefn cymdeithasol o'r math hwnnw'n ffenomen newydd a bod perthynas agos rhwng ei ddyfodiad a dirywiad ffydd grefyddol. Wrth gwrs mae hynny'n amlwg anghywir: mae gan Brydain, fel pob gwlad arall, hanes hir a lliwgar o derfysgoedd ac anhrefn tebyg. Os unrhyw beth, maent yn llai cyffredin erbyn hyn nag y maent wedi bod mewn canrifoedd blaenorol.

Yr enghreifftiau eraill oedd yr argyfwng economaidd, y sgandal ynglyn â threuliau aelodau seneddol, a'r bygythiad gan derfysgwyr eithafol Islamaidd. Mae'n ddigon anodd gweld beth sydd gan y ddau gyntaf a wnelo â diffyg crefydd, ond mae'n anos byth deall sut mai mwy o ffydd yw'r ateb i'r olaf.

Yn fwy na hyn, wrth gwrs, mae'r ffaith bod Cristnogaeth, fel pob crefydd arall sy'n dilyn ysgrythur hynafol, yn ganllaw moesegol digon amheus. Mae digon o bethau cwbl erchyll yn y beibl, a byddai hyd yn oed Cameron yn cytuno y byddai dilyn llawer iawn o'r rheolau a geir ynddo'n golygu dirywiad gwirioneddol yn ein cymdeithas. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, nid oes angen crefydd o gwbl er mwyn byw bywyd moesol. I'r gwrthwyneb, mae crefydd yn aml iawn yn llesteirio a niweidio ein moesoldeb. Nid yw ffydd yn beth da.

Yr hyn sy'n gwneud sylwadau Cameron yn rhyfedd yw'r ffaith bod ei ffydd Gristnogol ei hun yn ddigon annelwig ac apathetig yn ôl pob sôn. Mae'n siwr ei fod yn credu mewn rhyw fersiwn o dduw'r beibl, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn Gristion mawr o arddeliad ei hun. Dyma enghraifft felly o'r ffenomen hwnnw a elwir gan yr athronydd Daniel Dennett yn "belief in belief" (gweler hefyd yr erthygl yma ar y pwnc ar Rational Wiki). Mae rhai pobl, hyd yn oed os nad yw ffydd yn chwarae rhan flaenllaw yn eu bywyd hwy, yn parhau i gredu serch hynny bod ffydd yn bwysig yn ein cymdeithas ar y cyfan. Mae'r bobl yma siwr o fod yn hoffi meddwl ei fod yn dangos bod ganddynt feddwl agored a rhyddfrydol, ond y gwir yw ei fod yn snobyddlyd a sarhaus. Yr awgrym yw eu bod hwy'n bersonol yn gallu gwneud yn iawn heb ffydd, ond bod ei angen er mwyn cadw trefn ar y werin datws. Safonau dwbl a geir yma, mewn gwirionedd. Mae clodfori ffydd grefyddol heb arddel y peth eich hunain yn rhagrithiol, rhyfedd a di-synnwyr. Ond mae hefyd yn duedd digon cyffredin, am ryw reswm.

Rwy'n credu ei bod yn dra thebygol bod yn sylwadau Cameron hefyd elfen gref o geisio plesio cefnogwyr creiddiol y Blaid Geidwadol. Ond nid yw hynny'n golygu na ddylid diystyru'r geiriau. Mae datganiadau o'r fath gan arweinydd llywodraeth yn arwyddocaol a pheryglus.

Wrth reswm, fel Cymro cenedlaetholgar rwyf o'r farn na ddylai'r Deyrnas Gyfunol fodoli yn y lle cyntaf heb sôn am roi un ffydd grefyddol ar bedestal uwch ben pob safbwynt diwinyddol arall. Gallaf ychwanegu sylwadau fel hyn gan arweinydd y siwdo-wladwriaeth honno at y rhestr o resymau fy mod am weld Cymru yn gwahanu oddi wrthi.

Ar y nodyn yna, pan ddaw dydd annibynniaeth ein gwlad fach ni, byddai'n destun balchder mawr i mi pe na bai unrhyw lol o'r math yma yn y Gymru newydd.

4 comments:

  1. Yn anffodus i Cameron, ond yn ffodus inni, mae'n rhy hwyr i gryfhau crefydd yn ein cymdeithas. Mae'r eglwysi'n colli aelodau ymhob cwr o'r wlad, a phobl yn sylweddoli bod modd byw eu bywydau heb feddwl am grefydd o gwbl.

    Mae'r We wedi newid pethau - mae'n llawer haws i bobl gyffredin ddarllen barnau nad oedd ar gael yn yr oes cyn-dechnegol, ac mae pobl wedi dechrau defnyddio eu hymennyddiau a llunio eu barnau eu hunain ar sail gwybodaeth nad oedd ar gael hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl.

    ReplyDelete
  2. Peth od iawn - wrth i'r eglwysi golli aelodau, mae dylanwad grwpiau cristnogol ffwndamentalaidd yn tyfu o fewn y Blaid Geidwadol.

    Erthygl ddiddorol o'r Guardian:

    http://www.guardian.co.uk/world/2011/aug/28/christain-activists-grab-moral-agenda

    ReplyDelete
  3. Beth yw dy farn ar benderfyniad Carwyn Jones i gyhoeddi ar Wedi 7 nad yw Sion Corn yn bodoli? Cam cyntaf pwysig tuag at Gymru sy'n rhydd o lol ofergoelus? Ynteu coc yp gwirion gan wleidydd? :P

    ReplyDelete
  4. Pan fydd gennyf blant fy hun, rwy'n hoffi'r syniad o ddweud wrthynt "does dim Sion Corn; dyweda wrth dy ffrindiau!".

    Mae 'na rhywbeth digon rhyfedd am ddweud celwydd bwriadol wrth blant bach. Ond dyna ni, mae pawb yn dweud bod hud y Nadolig yn dychwelyd atoch chi pan mae gennych blant eich hunain ac mae'n siwr bod hynny'n wir, felly siwr bydd fy marn yn newid. A beth bynnag, mae'n siwr byddai fy nghariad (a phawb arall fydd â phlant yn yr ysgol) yn gandryll!

    ReplyDelete