Draw yn America, mae "seicig" honedig wedi'i dedfrydu i bum mlynedd o garchar am dwyllo pobl a chymryd llawer iawn iawn o'u harian.
Mae'n wych ei bod wedi'i chosbi, wrth reswm, ond mae ambell gwestiwn yn codi. Yn un peth, oni ddylai fod wedi gweld hyn yn dod? Yn ail, os yw hi'n haeddu carchar yna beth am yr holl ddiawliaid eraill sy'n gwneud bywoliaeth lewyrchus trwy raffu celwyddau am eu "doniau" honedig? Mae llawer o'r rhain, fel John Edward a Sylvia Browne, a Derek Acorah a Sally Morgan ym Mhrydain, yn enwog a'n gwneud ffortiwn o'r lol yma. Maent yn osgoi ffawd pobl fel Nancy Marks trwy gyfaddef yn y print mân mai "adloniant" yw'r amcan, ond go brin eu bod yn tynnu sylw at hynny wrth flingo trueiniaid bregus a sensitif, sy'n aml mewn galar anferthol a than deimlad eithriadol. Cymryd mantais yn y modd mwyaf mochedd a chreulon yw'r holl bwynt. Nid oes fawr o wahaniaeth rhyngddynt a Marks mewn gwirionedd.
Dyna un o dan glo o leiaf, ond ar yr un sail dylai cannoedd eraill ymuno â hi.
No comments:
Post a Comment