17/04/2012

A ddylai llosgach fod yn erbyn y gyfraith?

Wythnos diwethaf fe benderfynodd y Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd bod gan wladwriaethau'r hawl i garcharu dyn am gysgu gyda'i chwaer. Roedd y newyddion yn destun ychydig o syndod i mi, a bod yn onest.

Rwy'n derbyn fy mod yn debygol iawn o ganfod fy hun mewn lleiafrif fan hyn, efallai hyd yn oed ymhlith cyd-anffyddwyr sy'n gymharol ryddfrydol eu hagwedd tuag at ryw. Ond y gwir amdani yw nad yw'r dadleuon o blaid carcharu pobl am gyflawni llosgach yn dal dŵr yn fy marn i.

Er mwyn rhoi mymryn o gyd-destun am yr achos o dan sylw, dylid nodi bod y dyn, Patrick Stübing o'r Almaen, wedi cael ei fabwysiadu gan deulu arall pan yn dair oed ac mai dim ond wedi iddo gyrraedd ei ugeiniau y daeth i gyfarfod â'i chwaer. Am ba bynnag reswm, fe syrthiasant mewn cariad a chael pedwar o blant (ac ydyn, mae'n debyg bod dau o'r rheiny'n dioddef o anableddau).

Mae'r ffaith na thyfodd y ddau i fyny gyda'i gilydd yn tanseilio un ddadl a ddefnyddir mewn achosion fel hyn, sef ei fod yn niweidio strwythur yr uned deuluol. Yn amlwg, yn eu hachos hwy nid oedd yr uned yna'n bodoli'n y lle cyntaf. Ond hyd yn oed pe na bai hynny'n wir a bod y ddau wedi'u magu ar yr un aelwyd, nid wyf yn credu mai lle'r wladwriaeth yw ymyrryd (a beth bynnag, beth yw "uned deuluol" a pham penodi'r llywodraeth fel ei cheidwad?).

Dadl amlwg arall yw'r tebygolrwydd uwch bod unrhyw blant a gynhyrchir yn mynd i ddioddef anableddau. Mae hynny ynddo'i hun yn ddigon gwir, ac fel y dywedais mae'r achos o dan sylw'n enghraifft glir o hynny. Eto i gyd, mae risg tebyg yn wir yn achos cyplau sydd ag anableddau eu hunain, neu wragedd hŷn. Os defnyddio'r ddadl yma i gyfiawnhau gwneud llosgach yn anghyfreithlon, mae'n anghyson peidio gwneud yn yr achosion eraill yna hefyd. Yn wir, mae'n ddadl ewgenegol yn y bôn.

Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol mai un o'r dadleuon a ddefnyddir yn erbyn priodasau hoyw yw bod caniatáu peth felly'n arwain at ganiatáu llosgach hefyd. Slippery slope ac ati. Efallai bod "cyfiawnhau" llosgach yn drafferthus felly, gan gyfiawnhau pryderon pobl ragfarnllyd.

Ond pa ots? Y pwynt pwysig y mae'r gwrthwynebwyr hynny'n ei anwybyddu, wrth gwrs, yw mai'r unig beth ddylai fod yn bwysig yw bod pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithred rywiol yn cydsynio i wneud hynny, a'n ddigon hen i gydsynio'n deg a rhesymol. Ni allaf feddwl am unrhyw ffactor arall ddylai fod yn berthnasol. Dyma pam mae'r ddadl gryfaf un yn erbyn cyfreithloni llosgach hefyd yn methu'n y pen draw. Honno yw'r ffaith bod y rhan fwyaf o achosion o losgach yn rai lle mae un yn camdrin y llall (sy'n aml dan oed). Ond wrth gwrs, mae cyfreithiau eraill yn bodoli eisoes er mwyn trin ag achosion o'r math hynny, felly nid yw'n reswm dros wrthod yr hawl i dylwyth agos gysgu gyda'i gilydd os mai dyna yw eu dymuniad. Mae'r dyhead hwnnw'n un digon anodd i'r rhan fwyaf ohonom ei ddeall, ond nid yw hynny'n reswm digon da o gwbl i roi pobl o dan glo.

4 comments:

  1. Blogiad dewr, rhaid dweud.

    Dw i ddim yn meddwl bod llawer i'w ennill dros ymgyrchu am hyn, a bod yn onest. Dw i'n gweld dy bwynt, ond mae rhesymau llu dros y tabŵ llosgach, sy bron â bod yn holl bresennol mewn cymdeithasau pedwar ban y byd. Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu (ddim yn profi, cofia) bod y tabŵ mor ddwfn fod e'n debyg i fod wedi'i godio yn DNA dynol; y ffaith bod ein cefnderod (heh) y tsimpansîaid hefyd yn tueddu dilyn yr arfer o beidio lluosogi rhwng brodyr a chwiorydd yn awgrymu bod hyn yn ffenoteip sy wedi'i ddethol yn bell iawn yn ôl yn ein hanes fel rhywogaeth.

    ReplyDelete
  2. (Sylw gwag er mwyn cael ypdêts ebost.)

    ReplyDelete
  3. Diolch Nic!

    Brysiaf i ddweud nad egin ymgyrch mo hon o bell ffordd! Rwy'n digwydd credu o ddifrif ei bod yn ofnadwy bod person wedi'i roi o dan glo am hyn, ond wrth gwrs nid yw hynny'r un peth o gwbl â dweud fy mod yn credu dylai'r peth fod yn dderbyniol yn ein cymdeithas. Mae llosgach yn beth od yn fy marn i ac rwy'n cytuno'n llwyr bod rhesymau synhwyrol iawn nad ydyw'n arferiad cyffredin.

    Rwy'n credu mai dyna'r pwynt pennaf, sef na ddylai popeth yr ydym yn ei gondemnio fod yn anghyfreithlon. Ychydig fel godineb, neu berthynas rhwng person 17 oed a pherson 82 oed (dyweder). Mae'n ddigon naturiol bod cymdeithas yn feirniadol neu'n meddwl "ych a fi" yn yr achosion hynny, ond carchar?

    Dyna'r cyfan rwy'n ei ddweud. Hefyd, mae'n hwyl dadlau pethau fel hyn a gorfodi pobl i ystyried goblygiadau sail eu barn ar bethau ("os ydych yn credu x oherwydd y, yna rhaid i chi hefyd dderbyn z").

    ReplyDelete
  4. Cytuno. Rwy'n cofio ffrae enfawr ar Twitter rhai misoedd yn ol o ran menyw oedd wedi'i chael yn euog o gael rhyw gyda'i chi. Ffeindiais i yn y sefyllfa od o gytuno gyda dyn o UKIP, oedd yn dadl na ddylai'r weithred fod yn anghyfreithlon ac yn cael lot o stic am y safbwynt hwn. Ond os nad oes neb yn cael eu niweidio (gan gynnwys y ci), pam dylai'r weithred fod yn anghyfreithlon? Mewn achosion o'r fath, mae'r gyfraith yn cynrychioli rhagfarn cymdeithas yn lle gwneud iawn am niwed gwirioneddol (sef holl bwrpas y gyfraith yn fy nhyb i).

    ReplyDelete