16/04/2012

George Carey'n swnian eto fyth

Mae "newyddion" fel hyn yn bur gyffredin y dyddiau hyn, am rhyw reswm: cristnogion hunan-gyfiawn sy'n teimlo eu bod rhywsut yn dioddef gormes ofnadwy yn y gymdeithas sydd ohoni.

Mae sylwadau cyn-archesgob Caergrawnt, George Carey, yn rhai digon blinedig a syrffedus ar y cyfan (mae ei agwedd llugoer tuag at ei ddilynydd Rowan Williams yn ddigon hysbys, ac mae'n bosibl mai ymgais i ddylanwadu ar benodiad y nesaf yw ei holl gwyno swnllyd diweddar am bopeth), ond dyma ddarn o'r stori sydd angen ei esbonio ymhellach:
Mae disgwyl i’r llys ddyfarnu ar achos dau weithiwr sydd wedi eu gorfodi o’u swyddi am wisgo croesau, a chofrestrydd sy’n dymuno peidio â chynnal seremonïau cyplau hoyw.
Yn yr achos cyntaf, roedd gan British Airways (y cyflogwr) bolisi o beidio caniatáu i'w gweithwyr wisgo gemwaith. Am resymau diogelwch, efallai, ond nid yw hynny'n berthnasol. Y pwynt yw nad oedd symboliaeth grefyddol yr eitemau yn ystyriaeth. Gan nad oedd gwahaniaethu ar sail crefyddol yn ffactor felly, yn fy marn i roedd gan BA bob hawl i ddisgwyl bod y gweithwyr yma'n dilyn yr un rheolau â phawb arall.

Yn yr ail achos, swyddfa gofrestru yw'r cyflogwr. Y wladwriaeth sy'n cyflogi'r gweithiwr yna felly. Os yw'r person yma'n teimlo bod eu daliadau crefyddol yn eu rhwystro rhag cyflawni eu dyletswyddau (sef priodi dau oedolyn sydd mewn cariad), yna nid problem y wladwriaeth yw hynny ond eu problem personol eu hunain. Dylent ganfod galwedigaeth addasach.

Os mai dyma yw gormes, yna mae cristnogion yn ei chael hi'n braf iawn. Nid gormes yw gwrthod eich hawl i ormesu pobl eraill, eithr y gwrthwyneb.

Un peth arall am y lol yma am fynnu wisgo croes o amgylch y gwddf. Rwy'n ystyried yr obsesiwn yma ynchylch dyfais a ddefnyddiwyd er mwyn arteithio yn un digon sinistr. Fel y dywedodd Bill Hicks, go brin mai dyna fyddai Iesu Grist eisiau ei weld petai'n "dychwelyd" yfory! Roedd y groes yn declyn gwirioneddol ofnadwy, ac mae defnyddio'r ffasiwn beth fel addurn yn arferiad gwyrdroedig eithriadol yn fy nhyb i. Dyma beth od arall y mae crefydd yn ei wneud i bobl felly. Efallai dylwn gynhyrchu'r rhain ar ffurf breichled er mwyn gwneud fy ffortiwn.

2 comments:

  1. Difaru darllen y ddolen na ar y diwedd. Ta ta noson o gwsg.

    ReplyDelete
  2. Dyna fy ngwaith i wedi'i gwblhau'n llwyddiannus felly! Perthyn i'r un categori'n union â'r holl bethau erchyll yna y mae'r groes y mai cymaint o gristnogion yn mwynhau ei chwifio o gwmpas. Y groes = intestinal crank = head crusher

    ReplyDelete