Mae 'ysgolion rhydd' yn syniad ofnadwy am nifer fawr o resymau. Efallai mai'r prif reswm yw eu bod yn arwain yn anochel at sefyllfaoedd fel hyn: mae Michael Gove, gweinidog addysg Lloegr, wedi rhoi sêl ei fendith i dair o ysgolion sy'n bwriadu dysgu stori Genesis fel gwyddoniaeth. Holl bwrpas y cysyniad o 'ysgol rydd' yw eu bod yn 'annibynnol'; nid ydynt yn atebol i'r awdurdod lleol. Nid rhyfedd felly bod sefydliadau crefyddol wedi neidio ar y cyfle i gymryd mantais o'r system. Yr hyn sy'n gwneud yr holl beth yn wirioneddol wallgof yw'r ffaith mai arian cyhoeddus sy'n eu cyllido. Ydyw, mae arian trethdalwyr felly'n cefnogi sefydliadau sy'n bodoli'n unswydd er mwyn rhaffu celwyddau wrth lond ystafelloedd dosbarth o blant.
Gallwch ddarllen mwy o fanylion am yr ysgolion arfaethedig ar wefan y British Humanist Association.
Fel y dywedais yn ddiweddar, nid wyf yn gwrthwynebu dysgu am fytholegau a thraddodiadau creu mewn gwersi addysg grefyddol. Y pwynt yw na ddylent ddod ar gyfyl unrhyw ystafell wyddoniaeth. Hoff ymadrodd y grwpiau crefyddol yma yw mai eu hunig amcan yw 'dysgu dwy ochr y ddadl'. Lol camarweiniol llwyr yw hynny: nid oes dadl wyddonol o gwbl ynghylch y ffaith mai esblygiad sy'n gyfrifol am holl rywogaethau'r byd. Yn wir, nid yw bywydeg fel maes yn gwneud synnwyr o gwbl heb theori esblygiadol.
Diolch byth bod addysg yn faes datganoledig erbyn hyn. Dim ond Lloegr sy'n debygol o ddioddef y ffolineb yma. Serch hynny, rwy'n mawr obeithio y bydd y Saeson yn gwrthwynebu. Nid yw'r math yma o beth yn digwydd ym Mississippi nac Alabama, hyd yn oed (er, mae'n siwr bydd llawer o wleidyddion y taleithiau Americanaidd hynny'n cenfigennu). A yw Gove yn deisyfu gwneud Lloegr yn destun gwawd a chywilydd?
No comments:
Post a Comment