12/07/2012

Mytholeg a Sarn y Cawr

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gryn dipyn o sylw negyddol haeddiannol. Yn eu doethineb, gwnaethpwyd y penderfyniad i gyferio at stori'r cread cristnogol mewn deunyddiau addysgiadol yn eu canolfan ymwelwyr newydd ar safle byd-enwog Sarn y Cawr yn Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon. Mae'n werth dyfynnu ychydig o'r hyn sydd wedi'i gynnwys:
Like many natural phenomena around the world, the Giant's Causeway has raised questions and prompted debate about how it was formed.

This debate has ebbed and flowed since the discovery of the Causeway to science and, historically, the Causeway became part of a global debate about how the earth's rocks were formed.


This debate continues today for some people, who have an understanding of the formation of the earth which is different from that of current mainstream science.


Young Earth Creationists believe that the earth was created some 6000 years ago. This is based on a specific interpretation of the Bible and in particular the account of creation in the book of Genesis.


Some people around the world, and specifically here in Northern Ireland, share this perspective.


Young Earth Creationists continue to debate questions about the age of the earth. As we have seen from the past, and understand today, perhaps the Giant's Causeway will continue to prompt awe and wonder, and arouse debate and challenging questions for as long as visitors come to see it.
Mae angen egluro pam mae hyn mor anghyfrifol, gan fod y geiriau'n ymddangos yn gymharol ddi-niwed ar yr olwg gyntaf. Wedi'r cyfan, dim ond nodi'r ffaith bod 'rhai pobl' yn credu hynny a wneir; roeddent yn ofalus i beidio cefnogi'r safbwynt eu hunain, ac maent wedi pwysleisio eu bod yn cytuno â'r consensws gwyddonol.

Mae'n wir bod cristnogion ffyddlon yn llawer iawn mwy niferus yng Ngogledd Iwerddon nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol, ac mae'r math o gristnogaeth a arddelir yno'n tueddu i fod dipyn yn fwy amrwd hefyd, ar y cyfan. O'r herwydd, mae'n anochel bod creadaeth yn safbwynt pur gyffredin ymysg y trigolion lleol. Ond dylai hyn i gyd fod yn amherthnasol yn yr achos yma. Ni ddylai sefydliad fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yn rhoi platfform i gelwydd a hyrwyddo camargraff bod yna 'ochr arall' i'r 'ddadl' ynghylch sut ffurfiwyd y nodwedd daearegol hynod yma. Mae'r ffeithiau'n hysbys, a dyna ni.

Wrth gynllunio'r deunydd, fe ymgynghorwyd â mudiad ffwndamentalaidd o'r enw'r Caleb Foundation. Fe ddichon bod bwriad yr Ymddiriedolaeth yn ddigon clodwiw, ond roedd yn beth naïf ar y naw i'w wneud. Er mor ymddangosiadol bitw yw'r cyfeiriad at hoff chwedl y mudiad hwnnw, mae'n gaffaeliad PR gwerthfawr iddynt (fel y gwelwch o ddarllen eu gwefan, neu ddatganiadau fel hyn o'u heiddo). Dyma'n union yw amcan mudiadau o'r math yma: buddugoliaethau bychain, sy'n rhoi ffug-hygrededd i'w syniadau dwl, un darn bach ar y tro. Nid gormodiaith yw hyn: mae gan yr holl beth enw, sef Strategaeth y Lletem. Gallwch ddarllen y Wedge Document ei hun fan hyn, sef dogfen fewnol (sydd bellach wedi dod i'r wyneb) o eiddo sefydliad cristnogol Americanaidd o'r enw'r Discovery Institute sy'n amlinellu'r holl gynllun. Mae'r modd y llwyddodd y Caleb Foundation i ddarbwyllo'r Ymddiriedolaeth i gynnwys datganiadau fel yr uchod mewn deunydd addysgiadol yn enghraifft glasurol o'r strategaeth hon ar waith.

Mae'r Hen Rech Flin eisoes wedi trafod y pwnc, ac mae'n gwneud ambell bwynt teg sy'n haeddu atebion. Er enghraifft, fe sonia am yr hen draddodiad lleol sy'n dweud mai cawr o'r enw Fionn mac Cumhaill (neu 'Finn McCool') oedd yn gyfrifol am greu'r Sarn. Mae'n chwedl ryfeddol, ac mae'n werth darllen amdani os nad ydych yn gyfarwydd â hi. Wrth reswm nid oes gronyn o wirionedd yn perthyn i'r fath stori, ond nid yw'r hyn y rwyf wedi'i ddweud hyd yma'n awgrymu am eiliad y dylid anghofio'r chwedl, na rhai eraill tebyg. Nid oes angen ymwrthod â ffuglen er mwyn gwerthfawrogi pwysigrwydd realiti a'r gwirionedd. I'r gwrthwyneb. Rwyf wrth fy modd â thraddodiadau lleol a llên gwerin; maent yn ran holl-bwysig o'n hunaniaeth a'n diwylliant, a byddai'r byd yn dlotach lle o lawer hebddynt. Rwy'n credu bod lle haeddiannol i ddeunydd am y stori yma yn y ganolfan ymwelwyr, gan ei fod yn unigryw i'r safle (a'n llawer iawn difyrach na Genesis). Mae'r chwedl yma'n ran bwysig o dreftadaeth yr ardal, a Gogledd Iwerddon yn ehangach. Mae hyn yn amlwg o gofio mai dyma sydd wedi arwain at enw'r Sarn ei hun. Un pwynt perthnasol arall yw'r ffaith nad oes unrhyw un bellach yn credu'r stori o ddifrif. Petai yna ymgyrch gwirioneddol a sylweddol i orfodi athrawon i ddysgu'r chwedl yn y gwersi gwyddoniaeth yn ysgolion y Chwe Sir, mae'n debyg byddai hynny'n newid fy marn.

Aeth yr Hen Rech ymhellach:
Mae rhai yn credu mai olion llongau gofod yw Sarn y Cawr. Mae dyfalu am longau gofod wedi bod yn rhan amlwg o fytholeg y byd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, rhan cyn bwysiced a hanes cewri a thylwyth teg mewn oesau a fu. Mae'n debyg bod trefnwyr yr arddangosfa wedi gwrthod rhoi lle i'r eglurhad yma - rhag eu cywilydd!
Mater o farn yw gwerth a phwysgigrwydd cymharol mytholegau amgen fel hyn wrth gwrs, ond y brif broblem gyda dilyn y trywydd yma yw penderfynu ble i osod y llinell. Ni fyddai rhoi sylw i bob stori neu 'theori' hanner-pan yn ymarferol; dychmygwch unrhyw syniad gwallgof am wneuthuriaeth y Sarn, ac mae siawns go lew bod rhywun yn rhywle'n ei gredu.
Pan fo hanesion Beiblaidd Genesis yn cael eu dysgu fel ffaith wyddonol mewn ysgolion ffwndemental eithafol yn yr Amerig, rwy'n cytuno a'r anffyddwyr sy'n brwydro yn erbyn y fath lol; ond rwy'n methu'n llwyr a gweld gwahaniaeth rhwng y ffwndamentalwyr crefyddol Americanaidd sy'n dymuno dysgu'r creu fel ffaith a'r ffwndamentalwyr wrth grefyddol ym Mhrydain sy'n gwrthwynebu dysgu AM hanes y creu yn ein hysgolion.
Rwy'n cytuno mewn ffordd, ond nid wyf yn gwybod am unrhyw anffyddiwr sy'n gwrthwynebu dysgu am fytholegau cread gwahanol grefyddau a thraddodiadau. Os oes llond llaw yn rhywle, rwy'n anghytuno'n chwyrn â hwy. Wrth reswm, ni ddylai'r fath beth ddod ar gyfyl unrhyw wers gwyddoniaeth, ond dysgwch am y straeon yma fel rhan o'r cwriciwlwm addysg grefyddol ar bob cyfrif (cyn belled nad yw'r gwersi'n ffafrio neu'n hyrwyddo rhai crefyddau neu draddodiadau ar draul y gweddill). Po fwyaf ohonynt y gorau! Mae gan blant yr hawl i ddysgu nad yw stori Genesis a chwedlau eraill y Beibl yn unigryw, nac ychwaith yn arbennig o ddiddorol o'i chymharu â mytholegau rhannau eraill o'r byd. Rwyf bron â mynd gam ymhellach ac awgrymu y dylai'r pwnc fod yn orfodol.

Dyma pam na ellir rhoi safbwyntiau cristnogion eithafol a chwedlau fel un Fionn mac Cumhaill ochr wrth ochr. Mae'r cyd-destun yn gwbl wahanol. Dylid gwarchod yr olaf fel darn gwerthfawr o lên gwerin. Yn achos creadaeth ac ati, fy ngobaith yw y daw'r dydd pan fydd safbwyntiau o'r fath yn cael eu hystyried yr un mor quaint.

Dywed yr Hen Rech nad yw erioed wedi cael y pleser o ymweld â Sarn y Cawr. Dyma gloi felly trwy ei annog i wneud. Cefais fynd yno rhyw dair blynedd yn ôl ac mae'r lle wir yn wefreiddiol. Nid yw darllen amdano'n gwneud cyfiawnder ag ef. A dweud y gwir, mae'n anodd ei werthfawrogi'n llawn nes i chi droedio arno (oherwydd patrwm y creigiau, rwy'n cofio i gerddoriaeth agoriadol yr hen raglen gwis Blockbusters chwarae'n ddi-baid yn fy mhen drwy gydol y profiad). Er mwyn ennyn ei genfigen, dyma lun bach!

No comments:

Post a Comment