09/07/2012

Diddymwch addoli ar y cyd mewn ysgolion

Fe sylweddolais yn gymharol ifanc nad oes rheswm i gredu mewn unrhyw dduw, ond fel pawb arall roedd disgwyl i mi gyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd ac ati yn yr ysgol. Fe roddais y gorau i wneud hynny yn f'arddegau cynnar, gan eistedd yn dawel tra roedd pawb arall yn edrych i lawr a mwmian. Mae'r geiriau wedi'u serio ar fy nghof o hyd.

Wrth edrych yn ôl, rwy'n rhyw hanner-difaru peidio gwneud mwy o'r peth. Mae plant ysgol yn tueddu i osgoi denu sylw trwy wneud safiad am bethau fel hyn, am wn i, ac nid oeddwn yn wahanol. Eisteddais yn dawel a di-ffwdan bob bore Mercher wrth i'r wladwriaeth geisio fy ngorfodi i, a llond neuadd o'm cyd-ddisgyblion, i gymryd rhan mewn defod gristnogol.

Mae'n rhaid i ysgolion y Deyrnas Gyfunol wneud hyn, mae'n debyg. Yn rhyfeddol, mae'r gyfraith yn mynnu. Dylid rhoi stop ar y lol yma ar unwaith. Os ydych yn cytuno, arwyddwch y ddeiseb hon.

Efallai eich bod yn credu bod y fath ddefod yn ddigon di-niwed. Wedi'r cyfan, mae modd cadw'n dawel fel y gwnes i; nid wyf wedi clywed am unrhyw ddisgybl yn cael ei gosbi am beidio llafar-ganu ei fawl yn ufudd. Ond mae gorfodi plant i fod yn bresennol yn ystod y peth yn rhoi pwysau aruthrol arnynt i gydymffurfio. Fel y dywedais, un o brif amcanion plentyn mewn ysgol yw cydymffurfio, peidio tynnu nyth cacwn am ei ben, a chadw'i ben i lawr (yn llythrennol felly yn yr achos yma). Mae modd i blant gael eu heithrio, ond maent yn gorfod mynd allan o'u ffordd i wneud hynny a chael caniatâd ysgrifenedig eu rhieni. Gallwch ddychmygu'r anhawsterau os yw'r plentyn yn anghytuno â diwinyddiaeth ei fam a'i dad.

Yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa gymaint â hynny'n rhyfeddach yw bod y math yma o beth yn gwbl anghyfreithlon yn Unol Daleithiau America, er bod crefydd yn llawer mwy blaenllaw yng nghymdeithas y wlad honno. Gan mai America, yn gyfreithiol ac egwyddorol o leiaf, yw'r wlad fwyaf seciwlar yn y byd, nid oes gan y wladwriaeth unrhyw hawl i hyrwyddo na chymeradwyo unrhyw grefydd o gwbl. Wrth gwrs mae llawer yn gwrthod derbyn hynny, ond fe farnodd Llys Goruchaf America yn 1962 bod cynnal gweddi swyddogol mewn ysgolion cyhoeddus yn mynd yn groes i gyfansoddiad y wlad. Ers hynny, mae unrhyw ysgol sy'n trio'u lwc yn sicr o golli achos llys drud yn hwyr neu'n hwyrach.

Bydd propaganda'r Dde Gristnogol yn portreadu hyn fel gwaharddiad ar weddïo yn yr ysgolion yn gyfan gwbl, fel petai'n cyfyngu ar ryddid crefyddol y disgyblion. Celwydd llwyr yw hynny wrth gwrs. Mae gan bob plentyn yr hawl i weddïo ar ei liwt ei hun os mai dyna'i ddymuniad, cyn belled nad yw'n tarfu ar wersi ac ati. Yr hyn a waherddir yw addoli sydd wedi'i arwain gan yr ysgol ei hun. Mae cristnogion asgell dde yn aml yn cael trafferth gyda'r gwahaniaeth yma, er ei fod yn un digon hawdd i'w ddeall mewn gwirionedd.

Unwaith eto felly, mae America dipyn ar y blaen ar fater polisi crefyddol. Dylai Cymru ddilyn yr un trywydd yn union.

No comments:

Post a Comment