20/08/2012

"Dymunwch ac fe gewch"

Nofelydd o Frasil yw Paulo Coelho. Mae'n awdur eithriadol o doreithiog, ac o ran gwerthiant mae'n siwr ei fod ymysg y rhai mwyaf poblogaidd erioed: mae wedi gwerthu dros 115 miliwn o gopïau o'i lyfrau, sydd wedi'u cyfieithu i ddwsinau lawer o ieithoedd.

Fel y byddaf yn ei esbonio, nid wyf yn ei hoffi o gwbl. Nid yw'r sylwadau diweddar yma o'i eiddo wedi helpu o gwbl yn hynny o beth. Ymysg pethau eraill, dywedodd Coelho hyn: "One of the books that caused great harm was James Joyce's Ulysses, which is pure style. There is nothing there. Stripped down, Ulysses is a twit.". Gweler mwy o fanylion yn y darn yma gan un o flogwyr The Economist.

Nid amddiffyn a chlodfori cyfrol fawr enwog Joyce yw bwriad y cofnod yma. Mae rheswm da am hynny: nid wyf wedi darllen y peth eto, er fy mod yn bwriadu rhoi cynnig arni ar rhyw bwynt (rwy'n ymwybodol mai lleiafrif pitw o'r rhai sy'n honni hynny sy'n llwyddo yn y pen draw, ond mae beirniadaeth Coelho yn ysgogiad). Yn hytrach, mae'r sylwadau yn esgus i fynegi fy marn am yr 'athroniaeth' ceiniog-a-dimau sy'n nodweddu nofelau Coelho. Er nad wyf wedi darllen Joyce yn iawn, rwyf wedi darllen Coelho.

Stori enwocaf y Brasiliad yw The Alchemist. Mae'r broliant ar y cefn yn cynnwys canmoliaeth gan Madonna, o bawb, ac mae'n siwr dylai hynny fod wedi bod yn rybudd.

Mae'n stori blentynnaidd, seml a darllenadwy, ac am y rheswm yna gallaf ddychmygu plentyn yn cael peth mwynhad o'i darllen. Petai dyna'i diwedd hi, ni fyddai problem o gwbl. Yr hyn sy'n corddi yw'r holl lol bod neges y llyfr yn gallu newid eich bywyd a pheri i chi edrych ar y byd mewn ffordd cwbl wahanol. Dyma thema greiddiol y nofel mewn un ymadrodd: "When you want something, all the universe conspires in helping you to achieve it."

Rwy'n casáu datganiadau o'r math yma gyda chas perffaith. Dylai ffolineb y frawddeg fod yn amlwg: nid yw'r bydysawd yn poeni amdanom y naill ffordd na'r llall. Mae'n enghraifft o falu cachu ysbrydol gyfriniol ffug-ddwys o'r math gwaethaf. Nid awgrymog a chynnil yw'r neges yma yn The Alchemist chwaith; cawn ein slapio yn ein gwynebau ag ef o'r dechrau un. Mae'r llyfr yn llawn brawddegau fel hyn:
"There is only one thing that makes a dream impossible to achieve: the fear of failure".
"People are capable, at any time in their lives, of doing what they dream of".
"Remember that wherever your heart is, there you will find your treasure".
Ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Mae'r awdur yn ail-adrodd y mantra yma'n blaen bron bob tro y mae'n siarad yn gyhoeddus, felly mae'n amlwg ei fod wedi bwriadu'r nofel (a llawer o'i gyfrolau eraill hefyd) fel rhyw fath o lyfr canllaw er mwyn ein hannog i newid ein ffordd o fyw.

Eto i gyd, mae'n ddigon posibl eich bod yn crafu pen a'n gofyn pam mae'r peth yn fy ngwylltio i'r fath raddau. Onid yw'n ddigon di-niwed yn y bôn?

Y rheswm yw bod goblygiadau anghynnes iawn i'r safbwynt bod modd gwireddu pob breuddwyd os ydym yn ei dymuno'n ddigon caled. Yr awgrym yw bod dyheu rhywbeth yn ddigonol yn fodd o wella'r tebygolrwydd y daw'r peth hwnnw'n wir. Mae hynny'n wireb hunan-amlwg ar un olwg: mae person sy'n fwy uchelgeisiol yn ei yrfa, er enghraifft, yn fwy tebygol o weithio'n galetach er mwyn sicrhau dyrchafiad. Ond mae Coelho'n mynd yn bellach na hynny o lawer, gan honni bod yr egwyddor yn gweithio hyd yn oed mewn materion sydd mewn gwirionedd y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft, wrth geisio darganfod trysor ger y pyramidau yn yr Aifft, fel y gwna'r bachgen Santiago yn The Alchemist ar ôl iddo freuddwydio amdano). Y cwestiwn dylid ei ofyn felly yw: a yw Coelho'n defnyddio'r un rhesymeg wrth ffurfio barn am bobl sy'n marw o newyn yn Somalia (dyweder)? Ai diffyg dyhead ar eu rhan sy'n gyfrifol am y ffaith bod eu cnydau wedi methu? Ai eu bai hwy yw'r ffaith fod eu stumogau'n wag, am nad ydynt wedi eistedd lawr a dymuno ddigon? Os yw gwireddu breuddwydion o fewn ein gallu i gyd, mae hynny'n rhoi'r cyfrifoldeb (ac felly'r bai) ar ysgwyddau'r sawl sy'n aflwyddiannus, a neb arall. Dim ond person hynod freintiedig fyddai'n gallu coleddu'r syniad annifyr mai unig broblem pobl sydd mewn sefyllfa anobeithiol yw nad ydynt yn trio'n ddigon caled.

Petai hyn yn wir, oni fyddai pawb yn ennill y loteri bob wythnos? Beth am y cachgwn diymadferth hynny sy'n 'colli' eu 'brwydr' yn erbyn canser? Mae'r awgrym yn atgas.

Fe welwch hefyd bod Coelho'n hoff iawn o'r 'galon'. Iddo ef, dilyn eich calon (sef eich greddf, eich emosiwn) sydd bwysicaf; nid eich ymennydd. Dyma safbwynt sy'n wrth-ddeallusol yn ei hanfod (ac mae'r atgasedd yma tuag at feddwl yn ormodol ar waith yn ei sylwadau am Joyce). Y neges yw na ddylem dalu gormod o sylw i ddeallusion a'u llyfrau mawr cymhleth; gwrandewch ar 'eich calon' yn lle. Yng ngeiriau'r dyn ei hun: simple things are the most valuable and only wise people appreciate them". Efallai bod Coelho'n ystyried y pwyslais yma ar symlrwydd a diniweidrwydd yn oleuedig a rhyddfrydol, ond mae'n adweithiol tu hwnt yn fy marn i. Cofier bod llawer iawn o wleidyddion asgell-dde (yn America yn enwedig) yn defnyddio rhethreg digon tebyg wrth ladd ar 'academyddion elitaidd'. Yn ôl yr agwedd yma, mae greddf syml Mrs Jones o Gwmsgwt yn fwy gwerthfawr o lawer na chynnyrch deallusol unrhyw brifysgol.

Nid yw'n fawr o syndod bod Coelho'n enwedig o boblogaidd gyda phobl sy'n ymddiddori ym mhethau'r 'oes newydd'. A dweud y gwir, mae yna ddiwydiant cyfan wedi tyfu o gwmpas y syniadau dwl yma am bwerau rhyfeddol honedig meddyliau positif. Er enghraifft, mae yna ffilm a llyfr o'r enw The Secret sy'n hyrwyddo'r union syniadau a geir yn nofel Coelho fel ffordd o wella ein bywydau. Mae pobl fel Deepak Chopra hefyd yn gwneud ffortiwn o ddweud pethau tebyg.

Mae'n bwysig beirniadu'r math yma o beth. Rwy'n dymuno, gyda phob gronyn o'm corff, i bawb sylweddoli bod cynnyrch Coelho, Chopra a Rhonda Byrne yn niwieidiol a dwl. Ond ofer fydd hynny, yn anffodus.

1 comment:

  1. Difyr iawn! Mi ddarllenais i The Alchemist dro yn ol a dod i'r un casgliadau. Digon darllenadwy a rwy'n deall pam mae'n apelio at lawer, ond mae athronyddiaeth y llyfr ar yr un lefel a Mystic Meg.

    ReplyDelete