Wrth weld llawer o fwslemiaid wrthi eto'n llosgi pethau a phrotestio'n chwyrn oherwydd bod rhywun mewn gwlad arall wedi dweud rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi, mae'n werth gofyn pam yn union y mae cymaint o'r byd islamaidd yn cael cymaint o drafferth ymuno â'r unfed ganrif ar hugain (neu hyd yn oed â'r oleuedigaeth).
Y pwynt pwysicaf i'w werthfawrogi, rwy'n credu, yw mai rhesymau hanesyddol a gwleidyddol sydd wrth wraidd y broblem yn hytrach na rhai diwinyddol. Petaech yn rhoi'r Beibl a'r Corán ochr wrth ochr, gan anwybyddu hanes a datblygiad y ddwy grefydd ers eu hysgrifennu, ni fyddai'n hawdd penderfynu pa lyfr sydd fwyaf afiach ac anfoesol. Mae'r ddau'n cynnwys gorchmynion a rheolau cwbl hurt. Yr unig wahaniaeth yw bod y rhan fwyaf o gristnogion (hyd yn oed y ffwndamentalwyr) wedi troi eu cefnau ar lawer iawn o'r hyn a geir yn eu hysgrythur (a diolch byth am hynny). Hynny yw, mae llawer o ganllawiau'r Beibl wedi'u gwanhau a'u hanwybyddu wrth i foesoldeb callach (sef mwy seciwlar) ennill ei blwyf yn y gorllewin yn ei le. Erys ambell obsesiwn, megis gwrthwynebiad cristnogion ceidwadol i gyfunrywiodeb, er bod y Beibl yr un mor glir ei feirniadaeth o lawer iawn o bethau eraill hefyd, megis bwyta pysgod cregyn, tatŵs neu wisgo dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol fath o frethyn. Ond ar y cyfan, mae'r mwyafrif o gristnogion wedi hen ddysgu nad yw'n bosibl talu gormod o sylw i rannau helaeth o lyfr mawr eu ffydd.
Damwain hanesyddol yn unig sydd i gyfrif am y ffaith mai yn y byd cristnogol y digwyddodd y chwyldro diwydiannol a'r oleuedigaeth, a bod cristnogaeth fodern felly wedi gorfod addasu (er enghtaifft, rhoi'r gorau i boeni am y rhan fwyaf o'r rheolau dwl a geir yn Lefiticws). Nid felly oedd raid i bethau fod o gwbl. Yn wir, am ganrifoedd lawer roedd y byd islamaidd yn llawer iawn mwy goleuedig, diwylliedig a blaengar na'r gorllewin tywyll. Er enghraifft, i fwslemiaid y mae'r diolch bod gennym gofnod o weithiau rhai o'r hen Roegiaid. Petawn yn mynd yn ôl mewn amser a'n ail-chwarae'r mileniwm diwethaf, mae modd dychmygu sefyllfa ben-ei-waered heddiw lle byddai pobl seciwlar ym Mecca'n a Thripoli'n gwylio bwletinau newyddion ar y teledu yn dangos torfeydd cristnogol eithafol yn protestio yn strydoedd Berlin ac Oslo a'n llosgi pethau, am fod rhywun yn Jakarta wedi meiddio ysgrifennu llyfr neu gynhyrchu ffilm sy'n dweud pethau angharedig am Iesu Grist.
Nid oes angen olrhain hanes cyfan perthynas y gorllewin a'r dwyrain fan hyn. Y cyfan sydd angen ei bwysleisio yw ei bod yn amhosibl diystyru hanes a gwleidyddiaeth y byd islamaidd wrth geisio dadansoddi'r protestiadau diweddaraf. Rwy'n credu bod angen i ni ochel rhag gwadu bod llawer iawn o draddodiadau ac arferion y byd islamaidd (er enghraifft, sefyllfa merched a menywod, neu ddiffyg dealltwriaeth o egwyddor rhyddid mynegiant) yn warthus a chyntefig. Hynny yw, dylem gydnabod bod ein cymdeithas ni yn well na chymdeithas Pacistan, ac nad yw dweud hynny'n enghraifft o hiliaeth nac imperialaeth (bwriadaf ddweud mwy am hyn, ac amharodrwydd llawer o'm cyd-ryddfrydwyr i gydnabod y ffaith, yn fuan). Eto i gyd, fel yr eglurais uchod, nid yw cyntefigiaeth cymaint o'r byd islamaidd yn rywbeth annatod.
Wrth i sefyllfa economaidd a democrataidd y gwledydd islamaidd wella, felly hefyd y bydd eithafiaeth eu crefydd yn pylu. Gobeithio y daw da o'r Gwanwyn Arabaidd yn hynny o beth (amser a ddengys, ond mae rhai arwyddion calonogol). Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae'n bwysig beirniadu'r grefydd erchyll yma'n ddigyfaddawd, ac ni ddylid ildio i'r bwlis am eiliad.
No comments:
Post a Comment