Fel y dywedais yn fy nghofnod diwethaf, mae islam yn cynnwys llawer iawn o gredoau a thraddodiadau atgas a chanol-oesol. Mae hynny'n wir am bob crefydd i raddau gwahanol. Gwedd amlycaf hyn yw'r modd y trinir hanner y boblogaeth: menywod.
Ceir amrywiaeth, wrth reswm, ond mewn rhannau helaeth o'r dwyrain canol, mae traddodiadau islamaidd lleol yn mynnu pethau gwarthus. Er enghraifft, mae'n rhaid i filiynau o fenywod orchuddio'u cyrff yn llwyr. Yn aml, nid oes ganddynt yr hawl i yrru ceir, na dewis eu cymar eu hunain. Nid yw'r Taliban yn Affganistan hyd yn oed yn fodlon i ferched fynychu'r ysgol (a chosbir yn llym unrhyw un sy'n ceisio'u haddysgu). Mewn rhai gwledydd, fel Sawdi Arabia, ni chânt adael y tŷ heb aelod gwrywaidd o'r teulu i'w gwarchod (efallai er mwyn eu rhwystro rhag neidio ar bidlan y dieithryn cyntaf i'w cwrdd; pwy a wŷr?). Mae curo gwragedd yn rhemp ac annadleuol. Felly hefyd yr arfer erchyll o lurgunio'r darnau rhwng eu coesau. Mewn sawl ardal, gwae unrhyw ferch a gaiff ei threisio: hi gaiff ei chosbi (a hynny'n haeddiannol hefyd, a'r slwten siwr o fod wedi meiddio temtio'r dyn, druan ag ef, trwy ddadorchuddio'i phenelin, neu ei phigwrn, neu flewyn o wallt).
Fel rwy'n siwr y gwyddoch, mae'r rhestr o enghreifftiau o'r math yma yn ddi-ddiwedd. Byddech yn disgwyl i ryddfrydwyr da'r gorllewin feirniadu'r fath agweddau yn chwyrn, o ystyried bod materion fel cyfartaledd i fenywod yn un o gonglfeini'r frwydr yma o blaid hawliau sifil. Un o'm cas bethau, fodd bynnag, yw gweld cymaint yn gochel rhag gwneud hynny ar y sail y byddai'r fath beth yn hiliol neu'n enghraifft o 'imperialaeth ddiwylliannol': nid ein lle ni yw beirniadu traddodiadau a diwylliannau eraill, mae'n debyg. Nid yn unig hynny, pan fydd rhywun yn beirniadu crefydd fel islam ar sail yr agweddau yma tuag at fenywod, cânt hwythau yn eu tro eu condemnio gan rai o'r union bobl y byddech wedi tybio eu bod yn ffeminyddwyr pybyr.
Dyma enghraifft o berthynolaeth diwylliannol, sef y syniad hurt bod pob diwylliant yr un mor 'ddilys', ac nad oes maen prawf gwrthrychol er mwyn eu gwerthuso. Yn wreiddiol, roedd perthynolaeth diwylliannol, a'i epil, ôl-foderniaeth, yn elyniaethus i grefydd a'i Gwirioneddau G-fawr mawr. Erbyn hyn, mae pethau wedi newid i raddau, ac mae rhethreg ôl-fodernaidd wedi dod yn boblogaidd iawn ymysg amddiffynwyr ac esgusodwyr crefydd, gan gynnwys y fersiynau ffwndamentalaidd (dyma bwnc ar gyfer cofnod arall yn y dyfodol).
Fel rwyf wedi'i ddweud, mae rhesymau hanesyddol a gwleidyddol i gyfrif am sefyllfa druenus islam heddiw. Bydd ceidwadwyr adweithiol yn aml yn cwyno am rywbeth o'r enw white guilt. Lol yw hynny fel arfer, ond dyma achos lle mae'r ymadrodd efallai yn un teg. Nid oes unrhyw un yn hoffi cael ei alw'n hiliol. Ond y pwynt yw nad oes unrhyw beth hiliol am feirniadu safbwyntiau crefyddol. Yn wir, esgusodi erchyllterau islam yw'r gwir hiliaeth: hiliaeth y disgwyliadau isel. "Nid ydynt yn gwybod yn well". A bod yn onest, ni allaf feddwl am lawer o bethau mwy hiliol a sarhaus na gosod safonau uchel ac urddasol ar gyfer ni orllewinwyr gwaraidd a goleuedig, ar un llaw, ond safonau is o lawer ar y llaw arall ar gyfer trigolion brown a barfog gwledydd tlawd pell.
Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i arddel ffeminyddiaeth yn y wlad yma ond i awybyddu neu feirniadu'r sawl sy'n ei arddel mewn gwledydd fel Affganistan neu Somalia. Mae hawliau dynol, er gwaethaf yr ymadrodd rhywiaethol anffodus hwnnw, yn perthyn unai i bob unigolyn ar y blaned neu i neb o gwbl.
No comments:
Post a Comment