Ychydig ddyddiau yn ôl, cefais ddadl ar Twitter gydag awdur y wefan Moronwatch. Rwy'n cytuno ag ef ar y rhan fwyaf o bethau, hyd y gwelaf i, gan ein bod yn rhannu'r un targedau i raddau helaeth: ceidwadwyr dwl ac eithafwyr crefyddol.
Eto i gyd, fel y gwelwch, rwy'n credu bod ei safbwynt parthed cenedlaetholdeb Albanaidd/Cymreig yn un poenus o nodweddiadol o lawer o'r Chwith Brydeinig. Mae llawer o'r chwith yn barod i gefnogi lleiafrifoedd o bedwar ban byd, ond maent yn hapus i ymuno yn y sathru ar y lleiafrifoedd drws nesaf iddynt.
Esgus i chwarae o gwmpas gyda Storify am y tro cyntaf yw'r cofnod yma, a bod yn onest. Rwyf wedi gosod y ddadl allan isod. Yn wahanol i'ch ffrwd Twitter arferol, darllenwch o'r top i'r gwaelod:
Prysuraf i ddweud bod y dyhead i ddiddymu'r cysyniad o genedl-wladwriaeth yn gyfan gwbl yn un digon rhesymol. Eto i gyd, mae honni bod llwyddiant yr SNP yn arwydd ein bod rhywsut yn dychwelyd i densiwn y 30au yn eithriadol o baranoid ac annifyr. Mae'n rhwystredig iawn, ond mae'n agwedd rhyfeddol o gyffredin. Dylid ei herio ar bob cyfrif.
Dwi wedi sylwi hyn hefyd. Un elfen ohonni dwi'n credu yw agwedd "People's Front of Judea" llawer ar y chwith tuag at rwpiau eraill ar y chwith, h.y. bod pobl mewn grwpiau ag iddynt amcanion gweddol debyg rywsut yn fwy o fygythiad na grwpiau sydd yn gwirioneddol wrthwynebol.
ReplyDeleteMae'n eironig braidd ei fod yn dadlau o blaid dod a chyfalafiaeth i ben ond o blaid 'multi-nation blocs'... gan mai cyfalafiaeth sydd i raddau wedi gwthio y syniad yma o erydu ffiniau gwledydd. E.e. mae’r Undeb Ewropeaidd wedi datblygu fel y mae yn rhannol oherwydd ymdrechion nifer o grwpiau lobio i agor y cyfandir i fyny i fasnach rydd, a shifto democratiaeth ymhellach oddi wrth y bobol. Mae digwyddiadau diweddar yn awgrymu nad yw beth sydd o fudd i'r cwmnioedd mawr yna o reidrwydd wedi bod o fudd i'r bobol.
ReplyDeleteMae tystiolaeth eithaf cryf bod cysylltiad negyddol rhwng maint (poblogaeth, h.y.) gwlad a chryfder ei democratiaeth (e.e. yma). Mae pobl flaengar* yn debycach o gefnogi mesurau sy'n gwneud ein cynrychiolwyr ni'n fwy atebol i ni, e.e. etholiadau PR, rhyddid gwybodaeth, cyfyngau ar lobïo. Felly, mae'n ddigon rhesymol i bobl ar y chwith gefnogi'r fath genedlaetholdeb sifig y mae'r Blaid a'r SNP yn ei hyrwyddo, fel ffordd o gryfhau democratiaeth.
ReplyDeleteHwyrach bydd annibyniaeth i'r Alban a Chymru'n arwain at ddemocratiaeth gryfach yma yn Lloegr hefyd - rhywbryd. Mi ga i freuddwydio… :)
* Sut mae dweud "progressives" yn Gymraeg?
Diolch am y ddolen yna, Peter. Diddorol!
ReplyDelete"Pobl blaengar" yw'r gorau sydd gennym, hyd y gwn i. Mae'n gwneud y tro'n iawn, rwy'n credu! Mae'r cwestiwn wedi peri i mi ddychmygu rhywun fel Yasmin Alibhai-Brown yn ysgrifennu "the Welsh don't even have a word for 'progressives'!"
Gyda llaw, roeddwn wedi bwriadu tynnu sylw at yr erthygl wirioneddol ardderchog yma yn Open Democracy gan Daniel Williams. Beirniadaeth arbennig o'r fersiwn o amlddiwyllianaeth a goleddir gan y Chwith Brydeinig.