O bryd i'w gilydd, rydym i gyd yn gorfod wynebu ffeithiau sy'n gwrthddweud rhyw dybiaeth sy'n sail i rai o'n safbwyntiau gwleidyddol neu moesol. Y peth onest i'w wneud o dan yr amgylchiadau hynny wrth gwrs yw ail-ystyried pethau, ail-graffu ar y ffeithiau, ac ail-ffurfio ein safbwyntiau pan fo hynny'n briodol.
Yn aml, wrth gwrs, rydym yn dilyn y trywydd anonest, sef anwybyddu neu ddiystyru'r ffeithiau angharedig. Mae pawb yn euog o hyn i raddau gwahanol. Fel rhywun sy'n clodfori rhesymeg a thystiolaeth, rwy'n gwneud fy ngorau i seilio fy safbwyntiau ar y pethau hynny, ond mae'n amhosibl llwyddo bob tro. Pitw iawn yw ein gwybodaeth o'i gymharu â'r holl bethau nad ydym yn ei wybod, ond nid yw hynny fel rheol yn ein hatal rhag neidio i ffurfio barn ar bron popeth.
Rydym i gyd felly'n anwybodus ynghylch llawer iawn mwy o bethau nag yr ydym yn eu deall. Gwerthfawrogi hynny yw'r gamp. Rwy'n hoff o ymadrodd a briodolir i Socrates, sef rhywbeth tebyg i hyn: "gwir arwydd doethineb yw deall cyn lleied yr ydym yn ei wybod". Yn wir, wrth i'n gwybodaeth gynyddu, po fwyaf y sylweddolem nad ydym yn ei wybod.
O gofio hyn, awgrymaf ddiffiniad defnyddiol o'r math peryclaf o anwybodusyn: rhywun nad oes ganddo'r syniad lleiaf cymaint o bethau nad yw'n ei ddeall.
Mae hefyd yn werth nodi bod dau fath gwahanol o anwybodaeth. Ceir y math cyffredin, sy'n ddim mwy na diffyg gwybodaeth ynghylch pwnc arbennig. Mae'r math yma i'w weld ynom i gyd, gan nad oes unrhyw un sy'n gwybod popeth, ac nid yw'n broblem (er, wrth reswm, dylai pawb ymdrechu i ddeall mwy). Ar y llaw arall, fodd bynnag, ceir anwybodaeth mwy ffyrnig ac ystyfnig. Mae pobl sy'n arddangos y math yma yn gwbl ddall i'w hanwybodaeth eu hunain, ac mae ganddynt safbwyntiau cryfion a swnllyd sydd wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar gelwyddau.
Fel mae unrhyw un sy'n darllen y blog hwn yn gwybod erbyn hyn, mae gennyf ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth America. Rwy'n credu mai'r rheswm yw bod cymaint o bobl anwybodus o'r ail fath uchod yn amlwg iawn ynddi. Maent i'w cael ymhob man, wrth reswm, ond go brin bod yna wlad gyfoethog arall lle maent mor ddylanwadol. Am y rheswm yma, i America rwyf am fynd er mwyn dangos enghreifftiau o'r hyn sydd gennyf o dan sylw.
Mae'r wefan anhygoel Conservapedia yn fan cychwyn da. Yn ôl yr awduron, mae Wikipedia'n cynnwys gormod o lawer o ffeithiau nad ydynt yn cyd-fynd â'u safbwyntiau ceidwadol a christnogol eithafol. Yn naturiol, yn hytrach nag ail-ystyried eu safbwyntiau, eu hymateb yw pardduo Wikipedia a honni mai offeryn propaganda adain-chwith ydyw. Fel y dywed y digrifwr Stephen Colbert, 'reality has a well-known liberal bias'. Mewn geiriau eraill, os yw'r ffeithiau'n gwrthddweud eu daliadau gwleidyddol, datrysiad y math yma o anwybodusyn yw creu rhith-fydysawd amgen sydd yn cyd-fynd. Os nad ydych yn gyfarwydd â'r wefan wallgof yma, mae'n werth cael golwg; byddwch yn chwerthin a dychryn am yn ail. Awgrymaf rai pigion: dyma dudalen i'ch diddanu, a dyma un i'ch cynddeiriogi.
Efallai bod yr enghraifft yma ychydig yn eithafol. Er tegwch, dylid nodi bod nifer o geidwadwyr yn collfarnu Conservapedia hefyd. Rwy'n credu ei bod yn enghraifft ddefnyddiol, fodd bynnag. Mae'n amlygu'r un dyhead i greu rhith-realiti gyfochrog sydd i gyfrif am boblogrwydd pethau fel Fox News. Mae cyfran helaeth o Americanwyr yn byw mewn rhyw fath o swigen, gan dderbyn eu holl newyddion a gwybodaeth o ffynonellau sy'n agored-elyniaethus tuag at ffeithiau syml ynghylch y byd go iawn.
A ffeithiau syml rwy'n ei olygu fan hyn. Mae trethi a'r economi, er enghraifft, yn bwnc digon astrus a chymhleth, ac nid oes un ateb amlwg. Mae'n berffaith naturiol bod llawer iawn o anghytundeb yn ei gylch. Yng nghyd-destun y cofnod hwn, sôn yr wyf am bethau fel y ffaith bod pob creadur a phlanhigyn ar ein planed wedi esblygu o'r un hynafiad cyffredin, neu'r ffaith hawdd nad mwslem o Kenya yw Barack Obama. Mae gwrthod ffeithiau fel rhain yn wallgof ac anfaddeuol, a dyna'i diwedd hi. Nid yw'r ffaith bod cymaint o Americanwyr yn gwneud hynny'n gwneud y safbwyntiau ronyn yn barchusach.
Anwybodaeth ynghylch ystadegau, mathemateg a thebygolrwydd sydd wedi sbarduno'r llith yma. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae llawer o sylwebwyr ceidwadwol Americanaidd ac aelodau'r Blaid Weriniaethol wedi canfod gelyn newydd: Nate Silver, awdur y blog FiveThirtyEight, sydd bellach yn ran o wefan y New York Times. Camp Silver yw darogan etholiadau (a gemau pêl-fâs cyn hynny), a hynny trwy ddefnyddio ffigurau a ddarperir gan gwmnïau arolygon barn. Hynny yw, mae Silver wedi cynhyrchu model cyfrifiadurol sy'n ei alluogi i fewnbynnu rhifau o'r arolygon diweddaraf a chynhyrchu rhagolwg etholiadol rhyfeddol o lwyddiannus (daeth yn agos iawn ati yn 2008 a 2010).
Efallai dylid rhoi ychydig o gefndir yn gyntaf. Mae'r rhan fwyaf o'r arolygon barn bellach yn dangos bod yr ymgyrch arlywyddol yn dynn iawn, yn yr ystyr bod Obama a Romney'n debygol o ddod yn agos iawn yn y bleidlais boblogaidd. Y broblem gyda hynny, wrth gwrs, yw bod y bleidlais boblogaidd yn amherthnasol yn system arlywyddol America. Yn hytrach, defnyddir proses digon rhyfedd, sef y coleg etholiadol. Daw enw blog Silver o'r ffaith bod 538 o bleidleisiau i'w hennill i gyd, sydd wedi'u dosbarthu ymysg y taleithiau yn ôl maint eu poblogaeth. Mae angen i ymgeisydd ennill 270 o'r rhain er mwyn sicrhau mwyafrif a chael ei ethol yn arlywydd. California yw'r dalaith fwyaf poblog, ac mae ganddi felly 55 allan o'r 538: yr enillydd yn y fan honno sy'n cael y 55 i gyd, dim ots beth yw maint y fuddugoliaeth. Rwy'n credu bod y broses yma'n hurt (collodd Al Gore yn 2000 er iddo ennill dros hanner miliwn o bleidleisiau'n fwy na George W Bush), ond dyna'r system sydd ohoni.
Ohio yw'r dalaith bwysicaf y tro hwn (ac nid am y tro cyntaf), gan ei fod yn gymharol werthfawr (18) a'n gystadleuol iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r arolygon yn dangos bod Obama ar y blaen yno, gyda llai nag wythnos i fynd erbyn hyn. Nid yw ar y blaen o lawer, ond mae yna fwlch digon ystyfnig a sefydlog. Oherwydd pwysigrwydd y dalaith, mae model Silver yn sensitif iawn i arolygon o'r dalaith honno. Gan fod Obama ar y blaen yno, felly (ac mewn taleithiau eraill pwysig fel Virginia), mae Silver yn datgan bod tebygolrwydd o 77.4% bod Obama am ennill yr etholiad ac felly am sicrhau pedair blynedd arall fel arlywydd. Os yw llawer o bleidleisiau Romney am ddod o daleithiau fel Mississippi a Texas, lle mae'n sicr o ennill beth bynnag, yna nid yw hynny am roi unrhyw fantais ychwanegol iddo.
O ganlyniad, mae sylwebwyr ceidwadol wedi bod yn brysur yn bychanu Silver a'i gyhuddo o adael i'w ryddfrydaeth pro-Obama honedig liwio'i ragolwg. Dyma anwybodaeth ffyrnig ar waith unwaith eto: nid yw'r bobl yma'n deall sut mae tebygolrwydd yn gweithio. Er bod yr arolygon ar hyn o bryd yn awgrymu mai 50.4% fydd canran Obama o'r bleidlais boblogaidd, a 48.5% yn achos Romney (gyda'r gweddill yn mynd i'r pleidiau amgen pitw), nid yw hynny'n cyfateb o gwbl i debygolrwydd o 50.4% bod Obama am ennill a 48.5% mai Romney fydd yn fuddugol. Rwyf eisoes wedi trafod y coleg etholiadol, ond hyd yn oed wedyn byddai'r ffigurau yma'n awgrymu bod tebygolrwydd Obama o ennill yn uwch na 50.4%. Mae llai nag wythnos i fynd, ac mae'r ffigurau wedi sefydlogi (yn wir, mae Silver yn honni bod ymgyrchoedd fel hyn yn llawer mwy sefydlog nag y mae pobl yn ei sylweddoli). Fel y dywed Silver, "If the Giants lead the Redskins 24-21 in the fourth quarter, it's a close game that either team could win. But it's also not a "toss-up": The Giants are favored. It's the same principle here: Obama is ahead in the polling averages in states like Ohio that would suffice for him to win the Electoral College. Hence, he's the favorite."
Dyma ddyfyniad o erthygl Dylan Byers o wefan Politico sy'n amlygu anwybodaeth yr awdur yn berffaith: "So should Mitt Romney win on Nov. 6, it’s difficult to see how people can continue to put faith in the predictions of someone who has never given that candidate anything higher than a 41 percent chance of winning.” Mae'n rhyfeddol i mi bod dyn sy'n gwneud bywoliaeth o drafod y pethau yma'n gallu ysgrifennu brawddeg mor gyfan gwbl dwp. Digon yw gofyn pa fath o fathemateg a ddysgwyd iddo yn yr ysgol, os yw 41% yn cyfateb â 0% yn ei ben.
Mae'n werth darllen erthygl Ezra Klein am fwy o fanylion ynghylch y mater yma.
Rwy'n sylweddoli erbyn hyn mai'r cyfan yw'r cofnod yma ar ôl popeth yw ffordd ryfeddol o hir-wyntog o ddweud "mae pobl dwp yn dwp". Ond sylwebwyr prif-lif proffesiynol yw'r rhain, ac mae'r un anwybodaeth ar waith yma ag sydd mor amlwg yn yr eithafwyr sy'n credu bod Conservapedia yn syniad rhesymol. Mae yna jôc yn mynd o gwmpas sy'n mynd fel hyn: petaech yn dweud wrth ryddfrydwr bod eu hoff ymgeisydd am golli, buasent eisiau saethu eu hunain; on petaech yn dweud yr un
peth wrth geidwadwr, buasent eisiau eich saethu chi. Yn lle ceisio deall realiti yn well, eu greddf yw ei ddirmygu, pardduo'r sawl sy'n ceisio'i egluro iddynt, a chuddio yn swigen ffantasi.
A yw'r sylwebwyr yn dwp ta ydyn nhw'n chwarae ar gredoau ac anwybodaeth eu darllenwyr mewn ffordd hynod o glyfar er eu budd eu hunain?
ReplyDeleteE.e. alla'i ddyfalu bod Fox News yn gwybod yn iawn bod Obama yn ffefryn clir i ennill yr etholiad ond yn benderfynol o awgrymu fod pethau'n dynn er mwyn rhoi 'momentwm' i Romney.
I ehangu ychydig ar hynny -
ReplyDeleteMae astudiaethau yn dangos bod pobol yn tueddu i ddarllen darnau barn sy'n cytuno efo'u perspectif nhw.
Maen 'r cyfryngau yn gwybod bod na garfan eisiau darllen erthyglau sy'n dweud bod Romney ar y blaen, felly mae'r erthyglau yna'n cael eu darparu er gwaetha'r gymnasteg ffeithiol.
Y nod yw denu darllenwyr ac felly hysbysebwyr. Does gan realiti ddim byw i'w wneud efo'r peth.
Wnes i ddarllen dyfyniad am hyn dw i ddim yn gallu dod o hyd iddo ar hyn o bryd oedd yn dweud rywbeth fel; "Y cyfan yw swyddogaeth sylwebydd yw cymryd barn ei ddarllenydd, ei becynnu a'i roi yn ol iddo."
Felly dyw'r sylwebydd na'r darllenydd ddim o reidrwydd yn dwp. Wedi'r cwbwl os noedd yn teimlo ei fod yn gwybod bob dim fyddai'r darllenwyr ddim yn mynd ati i ddarllen gwaith sylwebwyr yn y lle cyntaf. Ond mae'r berthynas yma yn creu realiti ffug lle mae un yn bwydo oddi ar ragfarnau'r llall.
Rydw i'n euog o hyn - ee yn 2004 roeddwn i'n mynd ati i ddarllen erthyglau oedd yn agwrymu bod gan Kerry siawns o ennill yr etholiad. Erbyn hyn rydw i'n gwneud ymdrech i ddarllen erthyglau dydw i ddim yn cytuno efo nhw er mwyn cael safbwynt arall!
Diolch.
ReplyDeleteEfallai eu bod yn gwybod yn iawn ac yn twyllo'n fwriadol. Byddai hynny, wrth gwrs, yn waeth byth. Ond rwyf wedi penderfynu bod yn garedig a dilyn canllaw Hanlon's razor: "Never attribute to malice that which is adequately explained by stupidity". Mae miliynau o bobl yn credu'r pethau yma, ac yn eu credu'n chwyrn, felly nid yw'n anodd dychmygu bod y sylwebwyr eu hunain yn ddi-dwyll (ac felly'n dwp).
Prif flaenoriaeth y cyfryngau yw hyrwyddo a gwarchod yr argraff bod yr etholiad yn un agos. Os yw un ymgeisydd neu'r llall yn amlwg ar y blaen, mae hynny'n gwneud y ras yn fwy diflas, ac mae hynny yn ei dro'n gallu arwain at golli cynulleidfa. Dyma pam mae'r wasg yn trin etholiadau fel ras geffylau, fel spectator sport, yn hytrach na fel cyfle i drafod polisi mewn modd adeiladol. Mae'r wasg yn elwa o bortreadu'r ymgyrch fel un agosach nag ydyw go iawn. Naratif gyffrous yw'r unig beth sy'n bwysig iddynt.
Dw i'n meddwl bod dy bwynt cynta yn gwrthddweud dy ail bwynt i raddau fan yna. Mae'r cyfryngau yn soffistigedig iawn ac yn gwybod yn union beth maen nhw'n ei wneud. Dyw sylwebwyr ddim yn darparu eu barn eu hunain ond y farn y mae'r golygydd wedi eu cyflogi nhw i'w roi.
ReplyDeleteFyddwn i ddim yn dweud bod sylwebwyr Fox News yn dwp, er enghraifft. Mae yna falais amlwg yno, beth bynnag mae rasel Hanlon yn ei honni.
Dw i'n meddwl hefyd bod angen gwahaniaethu rhwng cred a thwpdra. Mae yna nifer o bobol clyfrach na fi yn credu pethau hollol hurt. Mae cynnwys y blog yma yn gronicl eithaf cynhwysfawr o allu pobol i wadu ffeithiau pan nad yw'n siwtio eu 'cred' nhw, pa bynnag mor glyfar ydyn nhw. Felly gallai person clyfar iawn gredu gydag ing crefyddol y bydd Romney yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau a thwyllo ei hun bod y polau piniwn o blaid ei ymgeisydd ef. Yn yr un modd ac y cafodd nifer o bobol clyfar ar y chwith eu hudo i feddwl bod Obama yn mynd i newid y byd yn yr etholiad diweddaraf!
Hmm. Ydyn, mae'n gwrthddweud. Ok. Petawn i'n dweud felly mai anwybodaeth sydd ar fai weithiau, malais bwriadol dro arall, a chymysgedd o'r ddau fel arfer, rwy'n siwr gallwn gytuno.
ReplyDeleteA dweud y gwir rwy'n credu bod ffactor arall ar waith hefyd, sef ofn. Mae'r sylwebwyr yma'n gwneud bywoliaeth digon braf o ymddangos ar y teledu ac ati er mwyn gwneud proffwydoliaethau di-sail. Yn achos llawer, byddai taflu ceiniog yn darparu atebion cystal. Mae gan rai, fel Dick Morris, a arferai weithio i Bill Clinton ond sydd bellach yn gwneud fawr ddim heblaw darogan pob math o fuddugoliaethau ysgubol i'r Gweriniaethwyr, record ofnadwy. Aeth neb yn dlawd trwy fetio ar y gwrthwyneb i'r hyn a broffwydolid gan Morris. Mae Silver yn bygwth y bobl yma trwy wneud y broses o broffwydo yn un digon oer a gwyddonol, wedi'i seilio ar fformwlau mathemategol yn hytrach na mympwy cyfleus. Yr eironi yw bod gelynion Silver yn honni byddai ei hygrededd wedi'i chwalu petai Romney'n ennill ddydd Mawrth, gan anghofio'n llwyr bod eu record eu hunain yn erchyll.
Rwy'n gwerthfawrogi bod perygl i'r drafodaeth yma fod yn ddim mwy na dadl ynghylch natur ein gelynion gwleidyddol: "ydyn nhw'n anonest ynteu'n thick"? Ond mae'n werth gofyn weithiau, pan mae ffeithiau plaen a syml yn cael eu gwrthod gan gymaint.
Dydw i ddim yn meddwl y dylen ni fod yn gofyn 'a ydi'n gelynion gwleidyddol yn thic?' ond yn hytrach 'a ydi eu gallu nhw i gredu pethau er gwaethaf diffyg tystiolaeth i'r gwrthwyneb yn rybudd i ni hefyd?' Efallai ein bod ni'n rhy barod i weld bai ar ein gelynion ond yn amharod i archwilio y pethau yr ydyn ni'n credu ynddo. Er enghraifft, rydw i'n ystyried fy hun yn genedlaetholwr, ond pe bawn i'n gwbwl onest efo fi fy hun ac yn ystyried cenedlaetholdeb mewn modd rhesymegol mae'n anhebygol y byddai yn dal dwr. Ffiniau dychmygol yw rhai ein gwlad ni, rhai sydd wedi dod i fodolaeth yn ddiweddar iawn, a does gen i ddim mwy yn gyffredin efo dyn o dde Sir Benfro na sydd gen i efo dyn o Henffordd mewn gwirionedd - pam felly fy mod i'n ystyried fy hun yn rhan o lwyth o 'Gymry' sy'n bosoli o fewn ffiniau penodol? Alla'i dderbyn bod gan y lluniad dychmygol a elwir 'Cymru' anghenion ar wahan i 'Loegr' ac felly y dylid datganoli grymoedd iddo. Mae hynny'n ryw fath o sail rhesymegol i genedlaetholdeb amwn i. Ond wedyn mae gan Sblot anghenion gwahanol i Rhiwbina a does neb yn awgrymu senedd gwahanol i un a'r llall.
ReplyDeleteUn esiampl yw hynny ond mae unrhyw bendroni dwys yn dangos bod nifer o'r pethau yr ydyn ni'n eu hystyried yn 'synnwyr cyffredin' mewn gwirionedd yn nonsens llwyr wedi ei greu gan ddyn. Mae'r syniad ma o rywioldeb fel rywbeth ddylai ddiffinio persenoliaeth person yn un arall, ac yn syniad sy'n bodoli ers ychydif ganrifoedd yn unig.
Mae ein gallu ni i gredu rwtsh an-rhesymegol yn rywbeth sy'n gyffredin i'r ddynoliaeth gyfan, nid pobol ar y dde yn unig. Rydyn ni i gyd yn twyllo ein hunain i ryw raddau er mwyn cael byw'n hapus yn ein meddyliau ein hunain.
Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol fan hyn ar ffeithiau plaen, moel. Fel esblygiad, neu fethodoleg syml ystadegau a thebygolrwydd.
ReplyDeleteRwyf yr un fath: o bryd i'w gilydd byddaf yn cael creisis bach wrth i mi geisio gweithio allan sut mae pethau fel cenedlaetholdeb Gymraeg yn ffitio o fewn fy safbwyntiau creiddiol parthed y byd ehangach. Mae hynna'n bwnc cymhleth, fel yn achos trethi a'r economi, ac mae'n berffaith naturiol bod cryn dipyn o anghytundeb am fod yn ei gylch.
Nid dyna rwyf yn ei feddwl fan hyn. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod y fath bethau'n bodoli â ffeithiau moel. Fel arall, nid oes gobaith cael trafodaeth synhwyrol am y pethau cymhlethach. Mae pobl a mwncïod a malwod a banans yn gefndryd. Mae Obama yn gristion o Hawaii. Mae 41% lawer iawn yn fwy na 0%. Ffeithiau syml. Ceisio deall (yn aflwyddiannus) y math o anwybodaeth sy'n arwain at wadu'r pethau hynny yr wyf i fan hyn.
Dyma ddwy erthygl dda ynghylch y drych-fyd rhyfedd mae llawer o Weriniaethwyr wedi'i greu, lle mae'r arolygon i gyd yn dweud bod Romney'n mynd i chwalu Obama yn yr etholiad: gan yr ardderchog Ta-Nehisi Coates a James Fallows, ill dau o gylchgrawn The Atlantic.
ReplyDeleteMae'n rywbeth od i ddweud celwydd yn ei gylch a bod yn onest. Beth bynnag, cawn weld nos Fawrth. Nid wyf yn fetiwr mawr, ond petai rhaid rhoi swllt neu bump at ganlyniad yr etholiad, byddwn yn fwy tebygol o ddilyn Silver na Karl Rove.
"Ie, ond rwyf wedi canolbwyntio'n benodol fan hyn ar ffeithiau plaen, moel. Fel esblygiad, neu fethodoleg syml ystadegau a thebygolrwydd."
ReplyDeleteDw i’n dal ddim yn cytuno bod y bobol yma’n dwp, am sawl rheswm.
1.) Mae yna daleithiau coch a glas yn yr Unol Daleithiau. Ydyn ni fod i gredu bod y gan y taleithiau coch ganran uwch o bobol twp na'r taleithiau glas? Na, amwn i. Felly ai'r gwirionedd yw bod diwylliant gwahanol yn bodoli yn y taleithiau gwahanol sy'n golygu bod y bobol yn tuddu i gredu pethau gwahanol? Er enghraifft, rydyn ni'n dau wedi ein magu mewn diwylliant sy'n rhoi bri arbennig ar genedlaetholdeb a iaith. Mae'r bobol yn y taleithiau coch hyn wedi eu magu mewn diwylliant sy'n rhoi bri arbennig ar ryddid personol, gwrthwynebu ymyrraeth gan y llywodreath, yr hawl i feddu ar ynnau ac yn y blaen. Yn yr un modd ag yr ydyn ni'n amharod i gwestiynau pethau fel gwerth cenedlaetholdeb a iaith, ac yn yr un modd y mae Cristion yn amharod i gwestiynu bodolaeth Duw, dyw'r bobol yma ddim yn barod i ystyried ffeithiau sy'n angytuno efo'r modd y mae nhw wedi eu magu i weld y byd. Nid ‘twprwydd’ yw hynny ond methiant sy’n gyffredin i bron i bob bod dynol.
2.) Nid y ffeithiau plaen, moel y mae'r bobol yma yn eu dderbyn. Mae modd i bobol maleisus ddrysu'r ffeithiau yn weddol hawdd er eu budd eu hunain, ac mae'r bobol yn barod iawn i dderbyn y ffeithiau 'skewed' yma am eu bod nhw'n greiddiol i'w hunaniaeth nhw. Mae pethau yn waeth ar drigolion y taleithiau coch yma oherwydd bod eu gweledigaeth nhw o'r byd – e.e. rhyddid o reolaeth y llywodreath - yn digwydd cyd-fynd â beth sydd hefyd o fudd i gwmnioedd mawrion y byd. Mae y system gyfalafol yn dibynnu ar y bobol yma i ethol arlywyddion a gwleidyddion sydd o blaid busnes mawr a thorri’r rhwystrau ar eu gweithredoedd nhw. Felly mae’r system gyfalafol yn bwydo anwybodaethy bobol yma er mwyn sicrhau bod unigolion fel Romney yn cael eu hethol sy'n cytuno efo’u buddiannau nhw.
Felly dychmyga dy fod ti wedi dy eni yn ryw dalaith fel Wyoming er enghraifft. Mae dy ddiwylliant di yn rhoi bri arbennig ar werthoedd y Gweriniaethwyr, ac rwyt ti’n tueddu i gredu ffeithiau sy’n cefnogi eu gweledigaeth nhw o’r byd. Oherwydd hynny rwyt ti’n dewis cael dy newyddion gan sianel fel Fox News sydd i weld yn cytuno efo dy safbwynt di ac yn cynnwys pobol o’r un ‘llwyth’ a ti (yn yr un modd ag y byddai sosialydd yng Nghymru yn darllen y Guardian yn hytrach na’r Telegraph). Mae’r sianel hwnnw yn cynrychioli buddiannau busnesau mawr sydd am dy gadw di mor anwybodus o’r ffeithiau a phosib ac am dy gamarwain di bob cyfle posib i awgrymu bod Mitt Romney ar fin ennill yr etholiad. Maen nhw’n pregethu yn gyson yn erbyn peryglon credu rhyddfrydwyr fel Nate Silver a’u celwyddau.
Ai twprwydd yw eu credu nhw? Ta a fyddai bron i bawb sydd wedi eu magu dan yr un amgylchiadau yn credu’r un peth? Efallai mai ‘dioddefwyr’ ydyn nhw, nid ‘twpsynod’!
Roeddwn i am geisio ysgrifennu ymateb arall hirwyntog, ond yn hytrach, dyma gyfeirio at erthygl yma gan un o flogwyr yr Economist. Cytunaf yn llwyr â hi.
ReplyDelete