07/11/2012

Mathemateg 1-0 Tynnu rhifau allan o'r pen-ôl (a rhai sylwadau pellach ar etholiad America)

Er mawr siom a syndod i lawer o geidwadwyr diffygiol eu rhifedd, ond yn union fel yr oedd yr arolygon barn wedi'i awgrymu ers peth amser, Obama enillodd etholiad arlywyddol America.

Er yr ymgyrch i'w bardduo, roedd Nate Silver yn agos iawn ati yn y diwedd. Dyma fuddugoliaeth felly i fathemateg. Mae llawer o sylwebwyr proffesiynol yn bryderus, gan fod y sefyllfa yma'n bygwth eu bywoliaeth. Unwaith y mae ymgyrch wedi dechrau, y cyfan a wna Silver yw mewnbynnu ffigurau arolygon barn a ddarperir gan eraill yn gyhoeddus. Mae llwyddiant y model yma'n peryglu hygrededd yr arbenigwyr honedig eraill yma, gyda'u proffwydoliaethau gwag wedi'u seilio ar ddim mwy na dyheadau personol a theimladau annelwig ym mêr yr esgyrn. Tynnu rhifau allan o'r pen-ôl, mewn geiriau eraill. Rwy'n disgwyl y bydd gan bob papur newydd a sianel deledu rywun tebyg i Silver i 'grensian y rhifau' erbyn yr etholiad arlywyddol nesaf yn 2016.

Yn y cyfamser, mae'r paranoia gwallgof o du'r dde eithafol wedi dechrau'n barod. Efallai fy mod yn rhy hoff o lawer o ddarllen pethau fel hyn, efallai. Mae rhefru lloerig yma gan Donald Trump yn enwedig yn werth ei weld.

Nid ymffrostio'n unig yw diben y cofnod yma chwaith; nid wyf yn arbennig o hoff o Obama, wedi'r cyfan. Ond hoffwn nodi fy mod wedi rhagweld yn gywir mai ymateb y ffwndamentalwyr crefyddol i golled Romney fydd ceisio gwthio'r Gweriniaethwyr ymhellach byth i'r dde. Er enghraifft, gweler yr hyn a ddywedwyd heddiw gan Bryan Fischer, pennaeth yr American Family Association:

Nid ffigwr ymylol mo'r dyn yma. Mae'n ddyn dylanwadol, a'r AFA yw un o brif sefydliadau'r dde grefyddol. Yn wir, yn gynharach heddiw bu Herman Cain, a oedd ar un adeg yn edrych fel petai ganddo obaith gwirioneddol yn y ras i ennill enwebiad y Gweriniaethwyr, ar raglen radio Fischer:

Mae hyn yn sicr yn atgyfnerthu'r syniad ei bod am fod yn dasg anferthol i rwystro'r Blaid Weriniaethol rhag rhwygo.

Hoffwn ychwanegu at yr hyn a ddywedais ddoe, fodd bynnag, trwy nodi mai prif flaenoriaeth y Gweriniaethwyr, rwy'n credu, fydd rhoi'r gorau i'w hagwedd hallt tuag at fewnfudwyr. Mae hispaniaid, yn ddealladwy, yn tueddu i ffafrio'r Democratiaid gan mai polisi swyddogol y Gweriniaethwyr, i bob pwrpas, yw eu hyrddio i gyd dros y ffin i Fecsico. Mae demograffeg yn ffafrio'r Democratiaid yn hyn o beth: mae lleiafrifoedd ethnig fel hispaniaid yn gyfran gynyddol o etholwyr y wlad. Bydd unrhyw feddalu yn agwedd y Gweriniaethwyr tuag at fewnfudo'n sicr o ennyn cryn udo a phrotestio gan yr eithafwyr, ond mae'n wirioneddol hanfodol.

Gobaith arbennig y blaid yn hyn o beth yw dyn o'r enw Marco Rubio, seneddwr Gweriniaethol ifanc o Florida. Symudodd rieni Rubio i America er mwyn ffoi rhag chwyldro Castro yng Nghiwba, ac mae yna gryn gyffro ynghylch ei ddyfodol. Os yw'r Gweriniaethwyr am ddenu hispaniaid - a'r consensws yw nad oes ganddynt fawr o ddewis - yna Rubio yw'r cyfrwng amlwg. Mae llawer o Weriniaethwyr yn ei ystyried yn fersiwn hispanaidd a cheidwadol o Barack Obama.

Nid wyf yn ddyn betio, ar y cyfan, ond rwy'n credu bod rhoi swm sylweddol o arian ar Rubio i ennill enwebiad ei blaid yn 2016 yn fuddsoddiad craff.

1 comment:

  1. Y gwahaniaeth amlwg rhwng gwleidyddiaeth pleidiol yr UDA a Phrydain yw nad oes yna 'arweinydd plaid'. Yn hytrach na chael ei arwain gan weledigaeth un dyn (neu ddynes - Hillary 2016 etc) mae cyfeiriad pleidiau yn tueddu i gael ei benderfynu gan ogwydd gwleidyddol y mwyafrif o'r rheini sydd wedi eu hethol i'r Senedd a Thy'r Cynrychiolwyr. Felly mae'n anochel i raddau yn fy nhyb i y bydd y Gweriniaethwyr yn datblygu'r blaid mwy cymhedrol, wrth i'r UDA symud i'r chwith, am na fydd aelodau'r Tea Party yn y mwyafrif ymysg cynrychiolwyr etholedig y blaid. Mae llwyddiant yn golygu popeth yn America - fydd y blaid ddim yn glynu at ideoleg sydd wedi methu yn rhy hir.

    ReplyDelete