03/11/2012

Rowan Williams, paganiaeth a'r Orsedd

Mae'r cawr newyddiadurol hwnnw, Martin Bashir (sy'n enwog am ei gyfweliadau gwerthfawr gyda'r diweddar Diana Spencer a Michael Jackson), wedi bod yn feirniadol iawn o'r hen Rowan Williams mewn erthygl yn y Daily Mail.

Cŵyn hir ydyw bod cyfnod Williams fel archesgob Caergaint wedi bod yn fethiant. Ond nid dyna sy'n hawlio sylw'r cofnod yma, eithr y frawddeg ffwrdd-â-hi hon: "Such fears increased after he attended a druid festival, dressed in what was described as ‘pagan garb’".

Nid ymhelaethir ar yr ŵyl baganaidd ryfedd yma. Dychmygaf bod hynny'n gadael mwyafrif y darllenwyr yn crafu pen mewn penbleth. Fodd bynnag, gwyddwn ni'r Cymry'n iawn mai at Orsedd y Beirdd y mae'n cyfeirio. Rwy'n cofio i aelodaeth Williams fygwth bod yn broblem iddo yn y cyfnod yn syth cyn iddo gael ei benodi.

Roeddwn yn gwenu wrth ddarllen yr erthygl a bod yn onest. Hefyd, mae'r llun ar y dde yn gwneud i mi chwerthin am rhyw reswm ac mae yma esgus dda i'w ddefnyddio eto. Ond fe gododd gwestiwn nad oeddwn wedi'i ystyried rhyw lawer o'r blaen, sef sut agwedd ddylai anffyddiwr ei fabwysiadu tuag at yr Orsedd?

Er y garb, wrth gwrs, nid sefydliad paganaidd mo'r Orsedd o gwbl. Pan leisiwyd y cyhuddiad yma ddegawd yn ôl, mae gennyf gof i 'ymchwil' un o bapurau Llundain (The Times efallai) ddatgelu'r newyddion syfrdanol nad oedd unrhyw un o'r emynau a ganwyd mewn un seremoni Gorseddol yn cynnwys y gair 'duw'. Wrth gwrs, nid yw Gweddi'r Arglwydd ei hun yn cynnwys y gair hwnnw chwaith, ond dyna ni.

Ar y cyfan, mae'r Orsedd yn hwyl digon di-niwed. Os cael system anrhydeddu, waeth cael un unigryw a diddorol ddim. Mae'n od, ond mae lle gwerthfawr i bethau od mewn bywyd. Beth bynnag, mae'r system gyffelyb yn Lloegr yn ryfeddach byth yn fy marn i. Rwy'n credu bod yr Orsedd yn cael maddeuant am y rheswm nad oes unrhyw un yn cymryd y peth ormod o ddifrif (heblaw Robyn Lewis, efallai). Rwy'n hoff yn enwedig o cheek y ffordd y mae'r Archdderwydd yn hawlio teitl Ynys Prydain gyfan, nid y cilcyn bychan a elwir yn Gymru'n unig. Mae'r drefn yn Lloegr yn debyg mewn ffordd, ond gyda phethau anghynnes iawn wedi'u hychwanegu: dosberthir medalau gan frenhines go iawn yn enw ymerodraeth erchyll sydd (diolch byth) bron wedi crebachu'n llwyr. Mae system Lloegr yn un difrifol iawn, heb dafod yn agos at unrhyw foch.

Mae elfen gref o gristnogaeth yn perthyn i'r Orsedd, serch hynny. Cynan sydd ar fai am lawer o hyn, mae'n debyg. Byddai'n well o lawer gennyf petai'r rhannau hynny'n absennol, ond yn yr achos yma rwyf am wneud eithriad a datgan nad wyf yn colli rhyw lawer o gwsg yn ei gylch.

Wedi dweud hynny.... Rwyf yn gymwys i fod yn aelod fy hun, gan fy mod yn meddu ar radd yn y Gymraeg. Rwy'n cofio cael ffurflen drwy'r post, ac mae'n siwr ei bod o gwmpas o hyd yn rhywle. Tybed a oes modd taro bargen? Os cewch wared ar y busnes duw yna, fe archebaf y wisg werdd ar unwaith!

3 comments:

  1. Dyle ti ymuno efo'r Orsedd Dylan. Gallaf ddatgelu mai dim ond 'cover' yw'r holl son am Dduw ac ati. Bob wythnos rydyn ni'n cwrdd efo'n gilydd mewn lleoliad cudd er mwyn trafod trafod sut orau i reoli Cymru er ein budd ein hunain (yn ogystal a dawnsio yn noeth o gwmpas tan, llosgi ambell i boeth offrwm yn y dyn gwiail etc). Roedd y WM yn gywir wedi'r cwbwl, mae cabal sinistr o siaradwyr Cymraeg yn rheoli y wlad yma go iawn! Y cyfan yw Rowan yw ryw fath o Manchurian Candidate wedi ei hypnoteiddio gan Derren Brown a'i yrru i frig yr Eglwys yn Lloegr er mwyn gwanhau'r sefydliad drwy wneud cawlach o bethau. Bwahahha...

    ReplyDelete
  2. Wnes i stopio darllen ar ôl "dawnsio yn noeth". Wedi clywed digon. Ble mae'r ffurflen?!

    ReplyDelete
  3. PS tro nesaf mae rhywun yn beirniadu pa mor wirion yw'r Orsedd, cyfeiria fo at y seremoniau hyd yn oed yn rhyfeddach sy'n digwydd fan hyn!

    http://en.wikipedia.org/wiki/Bohemian_Grove

    Llawn mor ddwl ag unrhyw beth sy'n digwydd yn yr Eisteddfod, a mae arlywyddion yr unol daleithiau yn aelodau!

    ReplyDelete