18/01/2013

Richard Dawkins

Rwyf wedi darllen un arall o'm anrhegion Nadolig yn ddiweddar: The Magic Of Reality gan Richard Dawkins. Efallai mai'r awdur hwnnw yw'r anffyddiwr amlycaf yn y byd.

At blant yn eu harddegau y mae'r gyfrol yma wedi'i anelu yn bennaf. Dyma ymgais, felly, i ysgogi diddordeb y creaduriaid rhyfedd hynny (rwy'n 28 bellach) mewn gwyddoniaeth (rhywbeth tebyg i'r hyn a gyflawnodd yr Almaenwr EH Gombrich ym maes hanes yn y 1930au, gyda'r llyfr hyfryd A Little History Of The World).

Nid hud a lledrith y mae'r teitl yn cyfeirio ato, wrth gwrs. Mae Dawkins, yn naturiol, yn casáu unrhyw sôn am wyrthiau. Yn hytrach, dyma sydd ganddo mewn golwg:
In this sense, 'magical' simply means deeply moving, exhilarating: something that gives us goose bumps, something that makes us feel more fully alive. What I hope to show you in this book is that reality--the facts of the real world as understood through the methods of science--is magical in this third sense, the poetic sense, the good to be alive sense. (t. 21)
Mae'r byd a'r bydysawd yn gallu ymddangos yn rhyfeddol, a ffordd gyffredin iawn o ymdopi â hynny yw dyfeisio ffug "esboniadau" plentynnaidd. Fel duwiau, er enghraifft. Neges Dawkins trwy gydol y llyfr yw bod hynny'n gwneud cam â'r byd go iawn: mae'r gwir, sef yr hyn yr ydym wedi'i ddarganfod diolch i wyddoniaeth (a'n parhau i wneud) yn fwy bendigedig a diddorol nag unrhyw chwedl neu grefydd.

Mae'r rhan fwyaf o benodau'r llyfr yn trafod ffenomen benodol (gyda theitlau fel "Who Was The First Person?", "What Is The Sun?" a "What Is A Rainbow?"). Egyr y rhain gyda chrynodeb o amryw chwedlau o bedwar ban y byd, sef straeon a ddyfeiswyd gan wahanol ddiwylliannau er mwyn ceisio esbonio'r pethau yma.  Eir ymlaen wedyn i esbonio'r gwyddoniaeth, wrth gwrs. Ond hoffais y ffaith nad yw'n rhoi fawr mwy o sylw i'r straeon cristnogol nag a roes i unrhyw chwedlau eraill, megis rhai llwyth y Boshongo o Gongo. Amcan yr awdur yma, mae'n siwr, yw dangos nad oes unrhyw beth arbennig yn perthyn i'r straeon a geir yn yr ysgrythurau (a nid yw llawer ohonynt yn wreiddiol, chwaith). Dim ond un casgliad o blith miloedd lawer ydynt. Mae hyn yn bwysig, ac mae Dawkins yn un da am ddangos ac esbonio'r ffaith.

Fel y dywedais, llyfr i blant yw hwn (ond plant deallus). Yn naturiol, felly, nid oes unrhyw beth newydd i'w gael ynddo, yn enwedig os ydych yn gyfarwydd â chyhoeddiadau eraill Dawkins. Byddai disgwyl yn wahanol yn methu'r pwynt, wrth gwrs. Hyd yn oed os oes gennych eisoes ddealltwriaeth dda o'r pynciau a drafodir, mae'n werth ei ddarllen oherwydd gallu'r awdur i egluro'n glir ac i ysgrifennu'n ddi-wastraff. Mae ei feistrolaeth ar drosiadau yn enwedig yn arbennig. Cymharer hyn â llawer o ddiwinyddwyr, sydd, o'm profiad i, yn gwneud y gwrthwyneb, gan guddio gwacter eu syniadau tu ôl mur o ffug-ddwyster (hynny yw, siarad llawer ond dweud dim o werth).

Am y rheswm yma, rwy'n credu nad yw Dawkins yn cael digon o glod fel llenor. Fy hoff lyfrau ganddo yw The Ancestor's Tale ac Unweaving The Rainbow. Ymgais yw'r cyntaf i olrhain hanes esblygiad bywyd ar ein planed. Fel y gallwch ddychmygu, mae'r hanes yma'n ddigon anniben, ond llwydda Dawkins i roi trefn arno gyda dyfais sy'n ymylu ar fod yn athrylithgar: defnyddia arddull The Canterbury Tales gan Chaucer fel templad. Trwy ddechrau yn yr oes fodern gyda phobl, fe'n tywysir yn ôl drwy amser (gan esbonio ein hesblygiad ar y ffordd) nes i ni gyrraedd y pwynt lle rydym yn cwrdd â'r hynafiad rydym yn ei rannu â simpansïod. Cawn wedyn hanes esblygu'r creaduriaid hynny (yn union fel y cawn hanes y marchog yn The Canterbury Tales wedi i hwnnw ymuno â'r bererindod). O'r pwynt hwnnw ymlaen (neu, yn hytrach, yn ôl), yr un yn union yw ein stori ni a stori'r simpansïod. Awn yn ôl ymhellach wedyn nes i ni gwrdd â'r hynafiad rydym yn ei rannu â gorilas, ac yn y blaen ac yn y blaen nes i ni gyrraedd y cell sengl hwnnw y mae popeth byw ar y blaned yma'n ddisgynydd iddo. Yn fy marn i, mae'r llyfr yn gampwaith, ac mae'n anodd dychmygu dull cliriach a thaclusach o esbonio pwnc mor gymhleth ac amrywiol.

Llenyddiaeth yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer Unweaving The Rainbow hefyd; daw'r teitl o un o gerddi John Keats. Roedd Keats (gyda thafod yn y boch, mae'n wir) wedi cyhuddo Isaac Newton o ddifetha rhyfeddod yr enfys trwy egluro'r ffenomen yn wyddonol. Crêd rhai bod troi rhywbeth mor anhygoel a dirgel mewn i ddim mwy na hafaliad noeth yn rhywbeth i resynu yn ei gylch. Yn debyg i'r hyn a geir yn The Magic Of Reality, fodd bynnag, mae Dawkins yn dadlau'r gwrthwyneb, sef bod Newton wedi ychwanegu at aruthredd yr enfys, a bod yr esboniad ffisegol yn hardd ynddo'i hun.

Gan mai Dawkins yw'r anffyddiwr amlycaf, mae'n anochel am wn i ei fod yn destun cryn dipyn o wawd, nid yn unig gan bobl crefyddol ond hefyd gan ambell anffyddiwr sy'n ei gyhuddo o fod yn "rhy filwriaethus". Dadl ddiog gan rai yw bod anffyddwyr yn dilyn Dawkins yn ddall, fel petai'n rhyw fath o bâb i'r di-grefydd. Y gwir amdani yw nad yw'r prif ddadleuon yn erbyn crefydd wedi newid rhyw lawer ers canrif (nid ein bai ni mo hynny; maent yr un mor ddilys heddiw ag yr oeddent bryd hynny), felly mae'n anochel ein bod yn aml yn swnio'n debyg iawn i brif ladmerydd huawdl yr achos. Mae Dawkins yn berffaith gywir ynghylch y mwyafrif helaeth o'r pethau yma.

Mae gennyf un feirniadaeth fawr yn erbyn Dawkins, serch popeth. Er ei waith ardderchog a phwysig yn tynnu sylw tuag at yr anghyfiawnderau ofnadwy a wynebir gan fenywod o wledydd fel Sawdi Arabia, Somalia ac Affganistan, yn anffodus mae wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar ei fod yn ddall i'r ffaith nad yw'r frwydr ffeminyddol wedi'i hennill yn llawn yn y gorllewin eto chwaith. Mae wedi bod yn ddigon dirmygus o fenywod sy'n honni bod misogynistiaeth yn bla hyd yn oed ymysg rhai anffyddwyr. Ymateb Dawkins yw cymharu sefyllfa'r menywod yma, sydd er enghraifft yn gorfod ymdopi â dynion yn mynnu ceisio'u lwc â hwy yn amhriodol mewn cynhadleddau, gyda merched yng ngogledd-ddwyrain Affrica sy'n gorfod dioddef rhywun yn torri'u clitoris i ffwrdd. Yr awgrym, am wn i, yw nad oes gan unrhyw un yr hawl i gwyno os oes rhywun yn rhywle mewn sefyllfa waeth. Mae hynny'n anghynnes a'n biti mawr. Er mwyn amlygu man dall Dawkins ynghylch y pwnc, y cyfan sydd angen ei wneud yw nodi bod modd dweud union yr un peth parthed ei obsesiwn yntau â gwrthwynebu dysgu creadaeth mewn ysgolion, neu ei honiad (digon teg) bod galw plant yn "blant cristnogol" neu'n "blant islamaidd" yn enghraifft o gamdrin. Y gwir, wrth gwrs, yw bod y pethau yma i gyd yn broblem, ond i raddfeydd gwahanol.

Er hyn, mae ei lyfrau'n ardderchog ac mae ei gyfraniad yn enfawr a phwysig. Mae hyrwyddo anffyddiaeth yn gallu bod yn dasg digon di-ddiolch, yn enwedig pan nad yw'r gwrthwynebwyr yn ffwdanu i ddeall y dadleuon. Er enghraifft, mae'r erthygl dwp hon yn y Telegraph yn mynegi syndod bod Dawkins wedi dweud nad yw'n gallu dweud i sicrwydd 100% nad oes duw'n bodoli, fel petai'n gyfaddefiad mawr a sydyn. Mewn gwirionedd, nid oedd y safbwynt yn un newydd o gwbl ganddo. Dyna'i union farn gyhoeddus ers blynyddoedd lawer, ac fe'i mynegir yn berffaith glir yn The God Delusion, ei lyfr enwocaf a mwyaf dylanwadol. Mae awgrymu mai enghraifft o Dawkins yn ildio ac ail-feddwl sydd yma, yn hytrach na dim mwy nag ail-adrodd hen safbwynt, yn eithriadol o anonest. Dyma'r math o beth y mae rhaid i Dawkins a'i gyd-anffyddwyr ymdopi ag ef dro ar ôl tro.

Beth bynnag, mae'n debyg bod anffyddiaeth ar gynnydd, ac er y cwyno bod Dawkins a'i debyg yn "filwriaethus", rwy'n credu ei bod yn weddol amlwg mai i bobl fel ef y mae'r diolch am y twf yma. Mae'n debyg ei fod yn gweithio ar hunangofiant ar hyn o bryd, ac rwy'n edrych ymlaen i gael ei ddarllen.

19 comments:

  1. Oblegid ei feithder, bydd y sylw hwn yn ymddangos mewn dwy ran.

    Rhan 1.

    Dydw i ddim yn ddigon haerllug i wadu damcaniaeth anffyddwyr mai drwy esblygiad yn unig mae bob peth byw ar y ddaear lawr wedi dod i fodolaeth a dydw i ddim yn ddigon haerllug ychwaith i wadu’r posibilrwydd mai campwaith Creawdwr yw bywyd daearol ynghyd â phob peth sydd yn ei gynnal.

    Un a ymgodymodd â’r broblem ddyrys dan sylw oedd gŵr o’r enw Moses ben Maimon neu Maimonides (1135 – 1204). Athronydd Iddewig oedd ef. Un arall a aeth i’r afael â’r un un broblem oedd dyn arall o’r enw Aristoteles (384cc – 322cc). Athronydd o wlad Groeg oedd ef.

    Yn llinell agoriadol Genesis yn Y Beibl Cymraeg Newydd fe ddywedir mai:

    Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.

    Hynny yw, fod Duw wedi creu y cyfan o ddim. Ar y llaw arall, credai Aristoteles nad oedd gan y ddaear ddechreuad ac na fydd ganddo ddiwedd. Mewn geiriau eraill, yn ôl Aristoteles, roedd y ddaear yma o dragwyddoldeb ac mi fydd yma hyd dragwyddoldeb. Yn ôl ef ffurfio’r ddaear wnaeth Duw o’r hyn oedd ganddo wrth law’n barod.

    Gwrthodod Maimonides dderbyn y ddamcaniaeth hon o eiddo Aristoteles. Gwell gan Maimonides oedd derbyn mai ei greu o ddim gafodd y nefoedd a’r ddaear. Pwy oedd gywir ?

    Credaf fod damcaniaeth Y Glec Fawr yr wyf fi’n ei derbyn yn cadarnhau mai Maimonides oedd gywir.

    Boed â fo am hynny, mae’r greadigaeth yn gymhleth y tu hwnt i fesur. Un enghraifft o hynny yw’r ffordd y mae asid diocsiriboniwclëig yn llywodraethu celloedd mewn cyrff dynol.

    Dadl Dawkins yn y bôn yw mai wedi’i gynhyrchu ar hap y mae’r asid hwnnw a mai damweiniau’n unig am ba bynnag reswm sydd wedi creu’r holl amrywiaeth yn y côd genetol sydd wedi arwain yn ei dro at yr amrywiaeth bywyd sy’n trigo ar y ddaear ac mai dim ond yr addasaf sy’n goroesi. Nid oes raid wrth Ragluniwr meddai. Nid oes raid wrth Dduw.

    Er gwaethaf beth a ddywed Dawkins, mae Duw wedi ailymddangos yn nadleuon gwyddonwyr ynghylch Y Creu. Mae’n fy nharo fod Stephen Hawkins yn un enghraifft clodwiw o’ gwyddonwyr hynny.

    Un rheswm am hynny yw fod ein gwybodaeth am fawrfyd y bydysawd a bychanfyd y genom dynol yn ein rhyfedu heddiw mwy nag erioed o ganlyniad i gyfres o ddarganfyddiadau cymharol ddiweddar gan wyddonwyr o bob math.

    Beth achosodd Y Glec Fawr oddeutu 15 – 18 biliwn o flynyddoedd ynôl ? Sut ymddangosodd bywyd ar y ddaear ? Ym mha ffordd y bywhawyd sylwedd difywyd ?

    Yn ôl y gwyddonwr Francis Crick a ddarganfu asid diosiriboniwclëig gyda chyd-wyddonydd, y blaned Mawrth yw ffynhonnell bywyd ar y ddaear. Onid oes pethau rhyfedd yn digwydd ar y blaned honno, deudwch ? Ai oddi yno y daeth deddfau byd natur hefyd ? A dyma gwestiwn arall: Pam mae bywyd yn hunanatgynhrchiol?

    ReplyDelete
  2. Rhan 2.

    Pan oeddwn i’n hogyn bach byddai fy rhieni maeth – coffa da amdanynt! – yn defnyddio trapiau dal llygod yn ein cartref o dro i dro yn ôl yr angen. Er mor syml roedden nhw roedden nhw’n daclau cymhleth. Roedd yn rhaid i bob darn ohonynt weithio gyda’i gilydd cyn y medrent gyflawni’u pwrpas.

    Cododd y pwrpas y trap hwnnw gyntaf ym mhen dyn. Roedd y pwrpas yn bod cyn y trap. Nid drwy hap a damwain y cafodd trap dal llygoden ei greu a maentumiaf mai nid ar hap a damwain ychwaith y cafodd dyn ei greu.

    Mae llawer o systemau cymhleth ym mhob corff megis systemau treulio a chylchrediad y gwaed i enwi dim ond dau ohonynt. Nid yn gynyddrannol yr adeiladwyd systemau cymhleth o’r fath. Roedd yn rhaid i’r ddwy system dan sylw fod yn eu lle ac yn cydymweithio o’r cychwyn fel bob system arall mae bywyd yn dibynnu arnynt.

    Hefyd, yn ôl Dawkins a’i debyg, ffordd y gennynau o gynhyrchu gennynau eraill yw bodau byw. Os cywir hynny, onid di-alw-amdanynt yw ymwybyddiaeth a hunan ymwybyddiaeth a chelfyddyd ? Beth yw eich ateb i’r holiad hwn, chwi neo-Ddarwiniaid ?

    Yn fy marn i, waeth i ni heb ag wfftio stori’r creu ynôl Genesis. Dyna’r tro cyntaf erioed i’r ddynoliaeth ystyried y cread a sylweddoli drwy hynny yn y tymor hir mai nid cydymwead o fân dduwiau a greodd y nefoedd a’r ddaear. Fe roddodd Genesis ergyd farwol i syniadau mytholegol o’r fath ynghylch Byd Natur.

    Gan mai dim ond un Duw bellach oedd yn gyfrifol am Y Cread yn ôl Genesis roedd yn bosibl i ymchwilio i’r mater yn awr. Maentumiaf mai’r ymchwil hwnnw oedd rhagamod ymchwil wyddonol. Dyna yw arwyddocad stori’r creu ynôl Genesis.

    Credaf fod neo-Ddarwiniaid mewn perygl o greu crefydd newydd a dy fod tithau, Dylan, mewn perygl o greu Duw o Dawkin !nffyddwyr

    ReplyDelete
  3. Wedi oedi cyn ymateb am ddau reswm: 1) anodd gwybod ble i ddechrau! a 2) wedi ceisio gwneud unwaith ond fe lyncodd Blogger y sylw. Rhwystredig. Ta waeth. Ambell beth:

    "Er gwaethaf beth a ddywed Dawkins, mae Duw wedi ailymddangos yn nadleuon gwyddonwyr ynghylch Y Creu. Mae’n fy nharo fod Stephen Hawkins yn un enghraifft clodwiw o’ gwyddonwyr hynny."

    Dim o gwbl, a byddai Hawking yn flin o dy weld yn honni hynny. Holl fyrdwn ei lyfr diweddaraf, The Grand Design, yw bod y syniad o dduw yn un di-angen. Mae'n wir ei fod wedi defnyddio'r gair "duw" mewn rhyw ystyr farddonol yn y gorffennol, fel wnaeth Einstein weithiau (mae A Brief History Of God yn gorffen "If we discover a complete theory, it would be the ultimate triumph of human reason – for then we should know the mind of God."), ond peidied â chymysgu hynny ag arwydd bod Hawking (nac einstein) yn grefyddol. Beth bynnag, mae wedi hen roi'r gorau i'r math yna o ddefnydd erbyn hyn, oherwydd yr union ddryswch yna (rwy'n tybio).

    "Cododd y pwrpas y trap hwnnw gyntaf ym mhen dyn. Roedd y pwrpas yn bod cyn y trap. Nid drwy hap a damwain y cafodd trap dal llygoden ei greu a maentumiaf mai nid ar hap a damwain ychwaith y cafodd dyn ei greu.

    Mae llawer o systemau cymhleth ym mhob corff megis systemau treulio a chylchrediad y gwaed i enwi dim ond dau ohonynt. Nid yn gynyddrannol yr adeiladwyd systemau cymhleth o’r fath. Roedd yn rhaid i’r ddwy system dan sylw fod yn eu lle ac yn cydymweithio o’r cychwyn fel bob system arall mae bywyd yn dibynnu arnynt.
    "

    Mae dy ddefnydd o enghraifft y trap llygoden yn awgrymu dy fod o dan ddylanwad dyn o'r enw Michael Behe, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Ef sy'n bennaf gyfrifol am y syniad o gymhlethdod anostyngadwy, sy'n cael ei ddyrchafu'n gyson gan hyrwyddwyr intelligent design, sef ymgais (dwl ac aflwyddiannus) i foderneiddio creadaeth.

    Na, nid oes unrhyw srwythur na system yn ein corff, nac mewn corff unrhyw organeb arall, sydd yn arddangos y "cymhlethdod anostyngadwy" yma. Os yw rhywbeth yn ymddangos felly (yn arwynebol), mae yna sawl esboniad posibl.

    Ond hyd yn oed petai gennym enghraifft na ellir ei egluro, beth fyddet ti'n ei awgrymu y dylid ei wneud yn ei gylch? Nid oes unrhyw ddefnydd ymarferol i'r syniad yma. Dilyner y rhesymeg: "1) ni allwn egluro hwn; 2) felly, mae'n amhosibl ei egluro; 3) felly, mae yna dduw! Dyna ni wedi esbonio'r peth. Stopiwch yr ymchwil, ewch adref. Diffoddwch y golau ar eich holau". Oherwydd hyn, mae cymhlethdod anostyngadwy yn syniad gwrth-wyddonol a gwrth-ddeallusol yn ei hanfod. Bodloni gyda pheidio gwybod ydyw, ac annog pobl i roi'r gorau i geisio deall mwy. Rwyf wedi trafod hyn o'r blaen, yma.

    ReplyDelete
  4. "Hefyd, yn ôl Dawkins a’i debyg, ffordd y gennynau o gynhyrchu gennynau eraill yw bodau byw. Os cywir hynny, onid di-alw-amdanynt yw ymwybyddiaeth a hunan ymwybyddiaeth a chelfyddyd ? Beth yw eich ateb i’r holiad hwn, chwi neo-Ddarwiniaid ?"

    Fe esblygodd bywyd yn ddigon di-ffwdan am rai biliynau o flynyddoedd cyn i hunan-ymwybyddiaeth ymddangos am y tro cyntaf mewn pobl yn ddiweddar iawn iawn (yng nghyd-destun hanes y ddaear). Un strategaeth esblygiadol o blith nifer yw hunan-ymwybyddiaeth a deallusrwydd, ond yn amlwg mae wedi bod yn un eithriadol o lwyddiannus. Sgil-effaith y datblygiad yma yw celfyddyd. Nid yw hynny'n gwneud ein celf yn llai ystyrlon na gwerthfawr. Yn wir, dadleuaf y gwrthwyneb, sef bod y ffaith yma'n gwneud cynnyrch ein hartistiaid hyd yn oed yn fwy trawiadol a gwefreiddiol.

    Dyna ddigon am y tro. Efallai byddai'n haws ymateb i'r gweddill mewn cofnod newydd.

    ReplyDelete
  5. Yr hyn sydd yn "od" am yr Athro Dawkins yw'r ffaith ei fod mor filwriaethus, efengylaidd hyd yn oed dros achos anghrediniaeth. Ac mae ei frwdfrydedd yn wrth ddweud ei hun.
    Os nad yw bywyd yn ddim namyn cyd digwyddiad mewn cawl cemegol, mae bywyd yn ddibwys, ac mae deall bywyd yn ddibwys. Mae credu mewn Duw yn ddibwys ac mae milwriaeth yn erbyn bodolaeth Duwdod yr un mor ddibwys! Be di'r ots am unrhyw beth os mae'r ateb i gwestiwn bywyd yw cawl cyd-ddigwydd!

    ReplyDelete
  6. "Os nad yw bywyd yn ddim namyn cyd digwyddiad mewn cawl cemegol, mae bywyd yn ddibwys, ac mae deall bywyd yn ddibwys."

    Wel diolch yn fawr am ddweud bod fy mywyd yn ddibwys. Rwy'n credu dy fod newydd ateb dy gwestiwn dy hun: mae gwrthwynebu agweddau fel yr un trahaus uchod yn enghraifft dda o baham mae brwydr Dawkins (a minnau, am wn i) mor bwysig.

    Mae mwy. Y prif reswm yw nad yw credu mewn duw yn ddibwys. Petai pobl grefyddol yn ddim mwy na charfan fach od a di-niwed (fel pobl sy'n credu mewn Bigfoot, dyweder, neu'r trueiniaid hynny sy'n mynnu eu bod wedi cael eu herwgipio gan ddynion bach gwyrddion o blaned arall), yna iawn, go brin y byddai'r mater yn un mor allweddol. Mae'r bobl hynny'n anghywir, yn amlwg, ac mae'n werth nodi hynny o dro i dro, ond mae yna bethau pwysicach i'w gwrthwynebu.

    Crefydd, er enghraifft. Dylai'r gwahaniaeth fod yn amlwg: mae gormod o lawer o'r ffyddlon yn mynnu gorfodi eu ffydd ar eraill, er enghraifft trwy ormesu menywod a phobl gyfunrywiol, dysgu celwyddau mewn ysgolion (a thrwy fod yn wrth-ddeallusol yn gyffredinol) a thrwy ddisgwyl i'r wladwriaeth hyrwyddo eu crefydd (gweddi mewn ysgolion, esgobion yn Nhŷ'r Arglwyddi, eglwys wladol ac yn y blaen ac yn y blaen).

    Petai yna garfan gref o bobl yn ymddangos sy'n ceisio mynd ati i gamwahaniaethu'n erbyn pobl sy'n gwrthod credu ym Migfoot yn yr un ffordd, gallaf dy sicrhau y byddai'r gwrthwynebiad gan Dawkins (a'r blog yma) yr un mor chwyrn.

    ReplyDelete
  7. Siawns bod ti'n iawn - ond be di'r ots? Be sy'n ddrwg mewn camwahanu rhwng cyd ddigwyddiadau cemegol? Onid cymesgedd cemegol amgen yw gwahaniaeth barn?

    ReplyDelete
  8. Wel diolch yn fawr am ddweud bod fy mywyd yn ddibwys. Ti sydd yn dweud bod dy fywyd yn ddibwys ac yn dim namyn canlyniad cawl primordial. Rwy'n credu dy fod yn bwysgig gan iti cael dy greu yn llun Duw!

    ReplyDelete
  9. Heb ddeall y ddadl ddwl yma erioed. Mae hen ddigon o bwrpas i'm bywyd heb orfod cyflwyno unrhyw syniad o dduw. Fel pob person arall, mae gennyf obeithion, uchelgeisiau, pobl rwy'n eu caru neu eu hoffi, pethau rwy'n mwynhau eu gwneud a phethau rwy'n eu hystyried yn bwysig. Unwaith eto, mae'r syniad o dduw yn hollol hollol amherthnasol. O'r herwydd, mae'n waeth nag anghywir: mae'n ddiwerth.

    ReplyDelete
  10. Heb ddeall dy ddadl dwl di erioed chwaith. Be di pwynt byw o ran dy athroniaeth di?

    ReplyDelete
  11. Darllena'r sylw blaenorol eto. Y drydedd frawddeg.

    ReplyDelete
  12. Rwyf fi’n falch fod y brawd Alwyn ap Huw wedi ymyrryd yn yr ymdrafodaeth ar y blogiad uchod oblegid mae ei sylwadau’n werthfawr.

    Mae damcaniaeth esblygol yn Satanaidd ei naws oblegid ei bod wedi’u hadeiladu mewn rhan o leiaf ar gelwyddau tywyllwyr digywilydd fel pot pi-pi.

    Mae achos y biston betularia neu’r gwyfyn brith yn un esiampl o blith nifer o’r celwyddau hynny.

    Yn wythdeagu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bron bob gwyfyn brith yn olau ei liw ac yn anodd i’w weld ar gefndir golau megis, er enghraifft, cen brychlwyd golau unai ar risgl coed neu feini o bob maint a math. Roedd oddeutu 98% o’r rhywogaeth arbennig hon yn olau eu lliw ar yr adeg dan sylw pan oedd y chwyldro diwydiannol yn ei anterth.

    Roedd y chwyldro hwnnw’n llygru’r aer gyda huddygl a laddodd y cennau y soniais amdanynt gynnau fach. Hefyd, roedd huddygl y chwyldro diwydiannol yn gwneud y coed yn dywyllach eu lliw a rŵan roedd y gwyfyn brith golau’n hawdd i’w weld ar gefndir tywyll ac, erbyn troad yr ugeinfed ganrif, roedd oddeutu 98% o’r Biston betularia’n dywyll.

    Gŵr a astudiodd y ffenomenon hon yn y 1950au oedd meddyg o’r enw Bernard Kettlewell. Maentumiodd ef ei fod wedi darganfod detholiad naturiol ar waith.

    Erbyn heddiw gwyddom nad yw gwyfynnod brith o unrhyw arlliw’n setlo ar na choed na cherig dadorchuddiedig. Ffug yw’r llun enwog ohonynt a dynnwyd ar goeden a gyhoeddir o hyd mewn gwerslyfrau gwyddonol a ddefnyddir mewn ysgolion yn ogystal â cholegau, o bosibl.

    Y cyfan y mae’r stori uchod ynghylch y Biston betularia’n ei brofi yw bod gwyfynnod brith golau a thywyll yn bodoli cyn ac ar ôl y chwyldro diwydiannol.

    Mae hanes damcaniaeth esblygol yn gyforiog o esiamplau o’r fath anwiredd.

    Yn fy marn i, yn lle aralleirio Dawkins dy dduw, Dylan, gwell o’r hanner fyddai i ti sefyll yn y mater fel llestr ar ei waelod ei hun fel rwyf fi’n ei wneud.

    ReplyDelete
  13. Mewn difri calon. Gair o gyngor ar gyfer y dyfodol: paid â cheisio rhoi darlith nawddoglyd a chamarweiniol i rywun sy'n deall y pwnc yn well na thi. Diolch.

    ReplyDelete
  14. Mae stori'r gwyfyn brith yn eithaf diddorol, a dweud y gwir. Rhy garedig fyddai galw d'amlinelliad uchod yn anghyflawn. Roedd problemau gyda'r ymchwil gwreiddiol, ond yn ddiweddar mae astudiaethau pellach wedi dangos bod y gwyfyn yn enghraifft ardderchog o esblygiad ar waith. Efallai bod hyn yn haeddu cofnod ar wahan, gan nad wyf mewn gwirionedd wedi trafod esblygiad yn fanwl iawn rhyw lawer ar y blog eto.

    Am y tro, gweler yr erthygl hon gan Jerry Coyne, y gwyddonydd (ac awdur Why Evolution Is True) a dynnodd sylw at rai o'r diffygion gwreiddiol hynny yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, yn anffodus (er yn anochel), fe neidiodd greawdwyr a thwpsod gwrth-ddeallusol ar ei feirniadaeth fel petai'n arwydd bod theori esblygiad yn gyffredinol ar fin dymchwel. Beth ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod gwyddonwyr eraill wedi cael eu hysgogi i ail-graffu ar y peth, gan wneud astudiaethau manylach a mwy trylwyr, a'r canlyniad yw bod statws y gwyfyn bychan fel symbol syml a defnyddiol o'r modd y mae esblygiad yn gweithredu ar y lefel fwyaf elfennol yn saffach nag erioed.

    Satanaidd wir.

    ReplyDelete
  15. Do, fe ddywedais yn fy sylw blaenorol fod damcaniaeth esblygol yn ' Satanaidd' ei naws oblegid ei bod wedi’u hadeiladu mewn rhan ar gelwyddau digywilydd fel pot pi-pi. Er hynny, fe’i cefnogir yn groch gan lawer anffyddiwr gan gynnwys Dawkins, dy dduw, Dylan.

    Dau anffyddiwr cyffesedig enwog arall yn y gorffennol oedd Joseff Stalin ac Adolff Hitler.

    Byddi’n gyfarwydd â Holocost y Natsïaid yn erbyn oddeutu 6,000,000 o Iddewon yn Ewrop adeg yr Ail Ryfel Byd gyda chefnogaeth wleidyddol o du Mahometaniaeth dan arweiniad Mwffti Mawr Jerusalem ond pa mor gyfarwydd ydwyt â chyrch Vladimir Lenin i ddechrau ac wedyn ei olynydd, Joseff Stalin, yn erbyn crefydd yn yr Undeb Sofietaidd wedi’r Bolsheficiaid gael y llaw uchaf wedi’r Chwyldro yn Rwsia yn 1917 yn bennaf drwy ymdrechion llwyddiannus y Fyddin Goch dan arweiniad Leon Trosci, tybed ?

    Mae gofyn y cwestiwn uchod yn bwysig yn fy marn i oblegid fod Dawkins yn credu nad oes dystiolaeth o fath yn y byd fod fod anffyddiaeth yn gallu achosi drwgweithredu'n eithafol mewn unrhyw achos.

    Ar dudalen 249 o’i lyfr, y 'God Delusion', fe ddywed Dawkins:
    I do not believe there is an atheist in the world who would bulldoze Mecca – or Chartres, York Minster or Notre Dame.

    Mae’i deimlad ar y mater yn uchelfrydig bid siwr a pharod wyf i warantu cymaint â hynny ond fe ddengys hanes y dinistro a’r llosgi ar eglwysi yn Rwsia rhwng 1918 a 1941 fod Dawkins yn byw mewn tŵr ifori. Mae anffyddiaeth ffwndamentalaidd lawn cyn alluoced o achosi’r fath drais a gorthrwm mawr a gysyllta Dawkins gyda chrefydd.

    Ai satanaidd ynteu sanctaidd felly oedd anffyddiaeth Adolf Hitler a Joseff Stalin a Lenin o’i flaen ef, Dylan ?

    ReplyDelete
  16. O MEWN DIFRI FFYCING CALON

    Dw i'n gwrthod gwastraffu amser yn trafod ymhellach ag unrhyw un sy'n ddigon anwybodus i alw Hitler o bawb yn anffyddiwr. Mae hyn yn hollol boncyrs.

    Wedi trafod y lol yma i gyd o'r blaen mewn cofnod eithaf cynhwysfawr, flwyddyn yn ôl. Mae ateb i bopeth rwyt ti'n ei ddweud ar gael yn hwnnw. Darllena hwnna. Ond mae'r "drafodaeth" yma ar ben.

    ReplyDelete
  17. Ai credu ydwyt fod Adolf Hitler wedi bod yn proffesu'r cyfamod Gras pan laddwyd 6,000,000 o Iddewon gyda'i anogaeth a'i gymeradwyaeth ef adeg yr Ail Ryfel Byd ? Yli, Dylan, os nad ydwyt yn gwybod hyn yn barod, gad i mi ddweud wrthyt mai trwy eu gweithredoedd mae nabod pobl !

    ReplyDelete
  18. Felly dy ddadl yw "roedd Hitler yn ddyn ofnadwy, felly roedd yn anffyddiwr". Cyfleus iawn.

    ReplyDelete
  19. Rhyw fath o babydd oedd Hitler, gydag elfennau o baganiaeth Norsaidd. Cristion od ac anuniongred, a dweud y lleiaf, ond nid oes dwywaith am ei ffydd mewn duw. Mae Mein Kampf, a nifer anferth o'i areithiau, yn llawn cyfeiriadau ffafriol at Dduw neu'r "Creawdwr". Roedd yn casáu anffyddwyr gyda chas perffaith, gan dybio mai Bolsheficiaid oeddent i gyd.

    Mae rhai ffeithiau yn bethau na ellir dadlau â hwy. Dyma enghraifft.

    ReplyDelete