14/05/2013

Rhyfeddod o'r gofod


Mae Chris Hadfield ar ei ffordd adref ar hyn o bryd, ar ôl treulio'r chwe mis diwethaf yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Yn ystod y cyfnod hwnnw (ac yn ogystal â'i waith, wrth gwrs), bu'n cyhoeddi llawer o luniau hyfryd o'r ddaear fel yr isod.


Yn fwy na hynny, cyn gadael yr orsaf fe gafodd y syniad gwych o recordio fersiwn o Space Oddity gan David Bowie. Mae'n hollol fendigedig a theimladwy. A bod yn onest, rwy'n credu mai dyma un o'r pethau gorau a welais erioed:


Astronôt go iawn yn canu cân Bowie (yn y gofod!) a'i uwchlwytho i'w gyfrif YouTube (o'r gofod!). Mae'n siwr gen i mai dyma uchafbwynt y rhyngrwyd. Nid oes modd gwella hyn. Lawr allt fydd hi o hyn ymlaen.

Mae Hadfield yn dipyn o arwr yng Nghanada yn barod mae'n debyg. Mae'n llawn haeddu canmoliaeth: efallai ei fod wedi gwneud mwy i ysbrydoli ac i hyrwyddo gwyddoniaeth nag unrhyw berson arall neu raglen ddogfen ers blynyddoedd lawer.

2 comments:

  1. Astronôt go iawn yn canu cân Bowie (yn y gofod!) a'i uwchlwytho i'w gyfrif YouTube (o'r gofod!). Mae'n siwr gen i mai dyma uchafbwynt y rhyngrwyd. Nid oes modd gwella hyn. Lawr allt fydd hi o hyn ymlaen.

    O chwi o ychydig ffydd!

    Rwyn disgwyl clywed Tenor Cymraeg yn canu "Life on Mars" yn fyw o'r blaned Mawrth cyn i mi rhechan fy rhech olaf

    ReplyDelete