16/06/2013

Dim atebion

Roeddwn yn un o'r gwesteion ar raglen fyw "@ebion" ar Radio Cymru heddiw. Gallwch wrando arni fan hyn, a bydd yn cael ei hail-ddarlledu nos Wener am 9.

Priodasau cyfartal oedd y pwnc, a'r gwesteion eraill oedd Bethan Marlow ac Adrian Morgan. Adrian oedd yn siarad yn erbyn, yn erbyn dau o blaid.

Nid oeddwn yn teimlo'n nerfus o gwbl o flaen llaw (fy mhrif bryder oedd y perygl i mi regi), ond rhaid cyfaddef i don o nerfusrwydd lifo drosof wedi i mi eistedd lawr yn y stiwdio. Mae hynny i'w glywed ar y dechrau, ond teimlais yn fwy cyfforddus gydag amser.

Roedd dadlau ag Adrian yn brofiad rhwystredig iawn, mae'n rhaid dweud. Gofynnwyd fwy nag unwaith iddo am ateb i gwestiwn digon syml: sut yn union y mae caniatáu priodasau cyfartal yn mynd i darfu ar ei fywyd yntau? Yn anffodus, nid oedd ganddo rhyw lawer i'w gynnig heblaw am y jargon diwinyddol cyfarwydd (nid wyf ar frys i glywed yr ymadrodd "cyfamod ger bron Duw" eto'n fuan): siarad a siarad (a siarad) heb ddweud unrhyw beth o werth oedd hyn. Llenwi'r amser oedd yr unig amcan, hyd y gwelaf i.

Fe ddisgrifiodd y nodweddion sy'n diffinio perthynas rhwng gŵr a gwraig (yn ei dyb ef), ond pan ofynnwyd iddo egluro sut yn union y mae perthynasau cyfunrywiol yn wahanol yn hynny o beth, ni chafwyd ateb ystyrlon i hynny chwaith. A dweud y gwir, hoffwn gynnig medal i unrhyw un sy'n gallu deall ei ymdrech i gysoni ei gefnogaeth honedig i'r egwyddor o gydraddoldeb ar un llaw a'i ddyhead i wrthod hawliau cyfartal i gyplau hoyw ar y llaw arall.

Efallai y dylwn fod wedi bod yn fwy ymosodol a thorri ar draws yn amlach. Rwy'n ymwybodol bod hynny'n gallu bod yn bla mewn trafodaethau radio, gan amharu ar lif y sgwrs, ond mae angen gwneud weithiau pan mae un person yn gwastraffu cymaint o amser gyda geiriau gwag. Er enghraifft, rwy'n difaru peidio ymateb pan awgrymodd Adrian bod ei reddfau naturiol o bryd i'w gilydd yn peri iddo gael ei demtio i fynd yn groes i ewyllys ei dduw. Pan mae cristnogion yn dweud pethau fel hyn, yr awgrym wrth gwrs yw mai'r unig beth sy'n eu rhwystro rhag camymddwyn yw'r syniad bod Duw'n edrych arnynt ac nad ydynt eisiau ei bechu. Mae hynny'n golygu eu bod yn llai moesol na mi mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n llwyddo'n ddigon di-drafferth i fyw bywyd digon moesol er nad wyf yn credu bod yna oruchwyliwr cosmig yn cadw golwg arnaf. Y rheswm am hynny yw bod gennyf system foesoldeb aeddfed y mae modd ei egluro mewn termau seciwlar a rhesymegol.

Er ychydig o rwystredigaeth, fodd bynnag, bu i mi fwynhau'r profiad yn fawr. Roeddwn yn siomedig pan ddaeth y rhaglen i ben, oherwydd roedd gennyf lawer iawn mwy i'w ddweud. Byddwn yn hapus iawn i wneud y math yma o beth eto pe daw'r cyfle.

2 comments:

  1. Helo!

    Diddordeb mawr gen i yn y drafodaeth, ond yn anffodus, mae'r ddolen wedi dod i ben. Wnest ti ddim digwydd recordio'r bennod rywsut, naddo?

    Beth bynnag, diddorol iawn darllen y sylwadau ar y rhaglen. Mae'n gallu bod yn anodd iawn cael trafodaeth fanwl ar unrhyw bwnc fel gwestai ar raglen radio, ac yn aml mae'n anodd cydbwyso'r dyhead i wfftio atebion annigonol a'r dyhead i beidio ag ymddangos yn rhy ffyrnig mewn dadl.

    Y prif beth, i fi, yw cofio mai sgwrs rhwng y rhaglen a'r gynulleidfa sy'n digwydd mewn gwirionedd. Nid diben dadl fel hon yw darbwyllo'r naill ochr na'r llall i newid eu safbwynt (dychmyga pe tai pawb o blaid yn diwedd!), ond cyflwyno'r materion i'r gwrandawyr feddwl amdanynt.

    Mewn sefyllfa fel'na, mae'n gallu bod yn haws bod yn rhesymol wrth wynebu rhywun sy'n methu ag ateb cwestiynau.

    ReplyDelete
  2. Helo!

    Sori, na, nid oes gen i recordiad.

    Rwyt ti'n berffaith iawn nad y person arall yn y ddadl yw'r gynulleidfa darged. Mae'r un peth yn union yn wir am y we: os wyf yn dadlau â Rhys neu Alwyn, nid ceisio eu darbwyllo nhw yw'r nod, ond yn hytrach unrhyw un arall sy'n digwydd darllen.

    Mae'n syrffedus pan nad yw'r person arall yn ateb cwestiynau syml. Gallwn ond obeithio bod y gwrandwyr/darllenwyr yn rhannu'r un rhwystredigaeth.

    ReplyDelete