23/07/2013

Ynghylch rhoi sylw i lol

Roedd ddoe'n ddiwrnod llawn lol, gyda'r rhaglenni newyddion i gyd yn canolbwyntio'u holl egni ar ddarlledu awr ar ôl awr o luniau o bobl yn sefyll o gwmpas yn gwneud dim byd, a rhai o'r rheiny'n parablu am funudau lawer ar y tro er nad oedd unrhyw beth i'w ddweud.

Rwy'n cydymdeimlo fymryn â'r ddadl bod pobl (fel fi) sy'n cwyno a gwneud hwyl am syrcas genedigaeth y babi brenhinol yn gwneud dim ond helpu i ddenu mwy fyth o sylw (a gwylwyr, a hits i'r gwefannau). Mae rhoi sylw mawr i'r gormodedd o sylw yn ddigon eironig, mae'n wir. Eto i gyd, rwy'n credu bod modd cyfiawnhau mynd ymlaen am y peth.

Yn un peth, mae'n hwyl cwyno. Wedi'r cyfan, rwy'n mwynhau ysgrifennu'r blog yma er mai cwyno cwyno cwyno a wnaf arno fel rheol.

Yn fwy na hynny, mae awgrymu y dylai pawb sy'n anghytuno â rhywbeth gadw'n dawel yn amlwg yn beryglus. Mewn gwirionedd, yr unig stori o bwys ddoe (heblaw am ymgais ddiweddaraf llywodraeth Prydain i senso'r rhyngrwyd) oedd parodrwydd y rhaglenni newyddion i ymestyn stori digon syml i'r fath raddau gwallgof, er y byddai modd cyflwyno pob manylyn mewn brawddeg pum eiliad. Mae blaenoriaethau gwyrdröedig golygwyr ein gwasanaethau newyddion yn niweidio ein cymdeithas, ac mae hynny'n llawn haeddu condemniad swnllyd. Heb bobl yn cwyno, byddai tawelwch y gwrthwynebiad yn cael ei dderbyn fel cytundeb ymhlyg.

Rwy'n credu bod problem dadl y frenhiniaeth yn debyg i'r un ynghylch crefydd. I lawer, mae'r achos yn erbyn y teulu brenhinol (neu fodolaeth duwiau) mor hunan-amlwg mae'n ddiflas,. Cawn rhyw fath o baradocs: mae'r achos yn erbyn y cysyniad wedi'i wneud mor drwyadl ac mor aml yn barod mae bellach yn cliché. Y peth contrarian i'w wneud o'r herwydd yw rowlio llygaid ar y rheiny sy'n parhau i rygnu ymlaen gyda'r un hen ddadleuon. Canlyniad hynny yw bod pethau'n mynd rownd mewn cylch, gyda rhai contrarians yn gwneud cymwynas â charedigion y status quo. Yn yr un modd, anffyddwyr eraill sy'n gyfrifol am rai o'r beirniadaethau halltaf or "anffyddiaeth newydd".

Nid yw'r dadleuon yn erbyn y frenhiniaeth (nac yn erbyn crefydd) wedi newid rhyw lawer ers canrif, ond nid ein bai ni mo hynny. Yn sicr nid yw'n reswm i roi'r gorau i'w hail-adrodd. Am y rhesymau hyn, rwyf am barhau i dalu peth sylw (ond nid gormod) i'r newyddion ar achlysuron fel hyn yn unswydd er mwyn cwyno amdano eto fyth.

No comments:

Post a Comment