14/08/2013

Hacio

Roeddwn ar y rhaglen Hacio heno, yn trafod y Victory Church yng Nghwmbrân. Gallwch wylio ar y we fan hyn (mae'r darn gorau yn dechrau ar ôl 6 munud a hanner!). Yn benodol, yr honiadau ynghylch iacháu trwy weddi oedd yn dwyn fy sylw. Fel yr eglurais o'r blaen, mae'r lol yna'n gwbl ddi-sail, gwallgof ac anghyfrifol. Nid wyf am ddweud mwy am hynny am y tro o leiaf.

Yn hytrach, hoffwn ddweud pwt am brif ffocws yr eitem, sef bod yr eglwys wedi helpu Shannia Morgan Thomas, merch 15 oed, i droi ei chefn ar gyffuriau, alcoholiaeth ac iselder (gan gynnwys ymgais i ladd ei hun). Mae hi'n amlwg yn ddiolchgar iawn i'r Victory Church am hynny, ac mae'n hawdd deall pam. Ond (ac mae'n ond anferth ac amlwg), nid yw hynny'n golygu bod cristnogaeth yn gywir. Mae'n gyfan gwbl amherthnasol yn hynny o beth. Nid oes y  mymryn lleiaf o ots pa mor fuddiol (neu niweidiol, yn wir) yw crefydd; er mwyn i mi ei pharchu, dim ond un peth sy'n bwysig: a yw'n wir?

Rwy'n hapus iawn ei bod wedi llwyddo i gael trefn ar bethau, wrth reswm. Mae'n wych ei bod wedi gallu rhoi'r gorau i beryglu a difetha ei bywyd, hyd yn oed os yw wedi troi at gelwydd anferth er mwyn gwneud hynny. Ond nid yw crefydd yn unigryw yn y rôl yma. Mae pobl sydd wedi plymio'r dyfnderoedd yn aml yn dringo o'r gwter trwy daflu eu hunain yn gyfan gwbl i mewn i rywbeth arall. Mae'n wir mai crefydd yw un o'r cyrchfannau pennaf; mae efengylwyr yn aml yn targedu pobl bregus, wedi'r cyfan. Ond gall fod yn unrhyw beth arall sy'n cynnig teimlad o bwrpas (gwaith elusennol, achos gwleidyddol, chwaraeon, cerddoriaeth ac yn y blaen). Y pwynt yw bod y pwrpas newydd yma'n cymryd lle'r stwff niweidiol. "Got to get high on something", mewn ffordd. Efallai mai dyna'r peth caredicaf y gallaf ei ddweud am dduw: nid yw cynddrwg ag amffetaminau.

2 comments:

  1. Mae pobl crefyddol yn hoffi pwyntio at bobl a "wellhawyd" gan grefydd fel tystiolaeth o'i gwiredd ("roeddwn i'n arfer cymryd cyffuriau, yfed etc. ond wedyn cefais fodd i wybod Duw ayyb"). Prin eu bod nhw byth yn son am y niferoedd mawr o bobl oedd yn dioddef iselder ysbryd, unigrwydd a.y.y.b. tan iddyn nhw *adael* y crefyddau oedd yn eu gorthymu.

    ReplyDelete
  2. Mae hynny'n wir iawn. Fel y soniais uchod, nid yw'r niwed a achosir gan grefydd yn berthnasol i'w chywirdeb chwaith. Ond gan fod yr holl "iacháu" honedig yma'n cael ei ddefnyddio i geisio profi cywirdeb y ffydd, mae'n werth tynnu sylw at y ffaith bod pobl crefyddol yn aml yn anwybyddu'r ffaith bod llawer yn mynd i'r cyfeiriad arall, sef gwella'u bywyd trwy adael y grefydd.

    Gyda llaw, mae'n werth darllen yr erthygl yma, a ysgrifenwyd gan gristion. Mae yma awgrym nad yw arweinwyr yr eglwys mor ddidwyll ag yr oeddwn wedi bod yn barod i'w dderbyn. Os yw'r ysgrif yn agos ati, mae'r Victory Church yn ymddwyn fwy a mwy fel eglwysi cyfoethog Americanaidd.

    ReplyDelete