23/08/2013

Dawkins, Twitter ac islam

Cafwyd ychydig o gyffro ar Twitter yn ddiweddar wedi i'r anffyddiwr enwog Richard Dawkins ddweud hyn:
Roedd yr ymateb yn ddigon ffyrnig, yn cynnwys gan anffyddwyr. Dylwn ddweud yn syth fy mod yn cytuno'n llwyr bod y sylw'n un anneallus a thrwsgl. Mae hefyd yn rhyfedd o anwyddonol, o ystyried yr awdur; nid yw'n cymharu tebyg gyda thebyg, ac mae dewisiadau pwyllgor Nobel yn datgelu cymaint, os nad mwy, am dueddiadau'r dynion gwyn Ewropeaidd hynny sy'n ei lywio nag am unrhyw beth arall. Fel y gofynnodd Nelson Jones yn y New Statesman, pam mae cymaint o enillwyr gwobrau Nobel yn edrych fel Richard Dawkins?

Yn ogystal, roeddwn wedi sylwi ymhell cyn hyn bod Twitter yn gyfrwng lletchwith iawn i Dawkins. Mae wedi dweud pethau dipyn gwaeth na hyn, a bod yn gwbl onest. Rwy'n hoff iawn o'i lyfrau a'i ddarlithoedd, ond rwyf i - edmygwr mawr - yn aml yn gwingo wrth ddarllen ei gyfraniadau ar Twitter. Fel un o'r llefarwyr amlycaf ar ran anffyddiaeth, mae dirfawr angen iddo fod yn fwy gofalus. Efallai ei fod yn mwynhau gwneud sylwadau ffwrdd-a-hi ymfflamychol ac amwys er mwyn cael sylw, ond mae hynny'n rhyfedd gan fod pob sylw cyhoeddus arall ganddo'n tueddu i fod yn ddigon pwyllog. Pwy a ŵyr beth yw'r esboniad.

Eto i gyd, rwy'n anghytuno â'r cyhuddiadau o hiliaeth. Syniadaeth yw islam, nid hil (er bod angen cydnabod nad yw hilgwn yn tueddu i sylwi rhyw lawer ar y gwahaniaeth chwaith). Nid oes dwyaith yn fy marn i bod y grefydd yn dal gwledydd a chymdeithasau islamaidd yn ôl, ac nid oes gennyf lawer iawn o amynedd gyda phobl sy'n gwrthod cydnabod hynny. Wrth reswm, mae ffactorau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol ychwanegol y mae'n amhosibl eu hanwybyddu; nid wyf yn ceisio awgrymu y byddai holl broblemau Somalia neu Affganistan yn diflannu dros nos petai islam yn diflannu. Ond byddai hynny'n sicr yn gam enfawr yn y cyfeiriad cywir. Rwyf wedi ceisio egluro fy safbwynt ar y mater yma fan hyn.

Ynghylch sylw Dawkins yn benodol, rwy'n credu mai dyma'r erthygl sy'n adlewyrchu fy marn i orau. Yn ogystal, hoffwn dynnu sylw at ysgrif Nick Cohen yn y Spectator, ac ymateb Tom Chivers o'r Telegraph. Rwy'n rhannu llawer o rwystredigaeth Cohen ynglŷn ag amharodrwydd llawer o blith y chwith ryddfrydol i feirniadu islam. Mae'n rhyfeddol bod Dawkins yn denu mwy o ddicter gan rai nag y mae barbariaid sy'n arddel a gwneud pethau ofnadwy yn enw crefydd gyntefig. Ar y llaw arall, rwyf hefyd yn hoff o Chivers ac rwy'n canfod fy hun rywle yn y canol rhwng y ddau.

Mae'n siwr mai'r prif neges yn hyn i gyd yw nad yw unrhyw unigolyn yn berffaith. Mae Dawkins yn gwneud gwaith ardderchog iawn ar y cyfan, ond rwy'n fwy na pharod i gydnabod ei ffaeleddau (boed ar y pwnc yma neu ynghylch ffeminyddiaeth).

2 comments:

  1. Dydw i ddim yn un o gefnogwyr Richard Dawkind ond credaf fod llawer o wirionedd yn yr hyn sydd ganddo i'w ddweud yn ei drydar y mae copi ohono yn dy flog uchod. Yn gyffredinol, mae trigolion gwledydd Mahometanaidd wedi cael eu cyflyru ymmhob oes i ystyried eu hunain yn amgenach pobl na rhai gwledydd Crêd doed a ddel a ydyw 'r rheiny'n proffesu Crist ai peidio. Os oedd hynny'n wir am Fahometaniaid yn y gorffenol maent wedi cael cwymp enfawr erbyn hyn a gwledydd y gorllewin a'u pobl sydd yn cael y bai ganddynt am eu darostyngiad yn hytrach na nhw'u hunain a'u crefydd ffiaidd.

    ReplyDelete
  2. Mae cristnogaeth yn grefydd ffiaidd hefyd. Mae'r Beibl a'r Coran tua'r un mor ofnadwy â'i gilydd. Y rheswm y mae gwledydd "cristnogol" heddiw yn tueddu i fod yn lefydd mwy dymunol i fyw ynddynt na rhai islamaidd yw bod y grefydd amrwd wedi'i meddalu, drwy gyfrwng seciwlariaeth. Damwain hanesyddol yw hynn; nid oes unrhyw beth am y grefydd gristnogol ei hun, yn ei hanfod, sy'n ei gwneud yn barotach i "foderneiddio".

    Am ganrifoedd lawer, roedd y byd islamaidd yn fwy goleuedig o lawer na'r rhan gristnogol, dywyll. Cyfnod Avicenna, Averroes, Omar Kayyam ac ati. I fwslemiaid y mae'r diolch am ein gwybodaeth o weithiau llawer o'r hen Roegiaid.

    Newidiodd pethau'r ffordd arall ar rhyw bwynt, yn amlwg, ond nid oedd hynny'n anochel o bell ffordd.

    ReplyDelete