11/09/2013

Sylwadau trychinebus diweddaraf Richard Dawkins

Rwyf wedi bod yn eithaf beirniadol o Richard Dawkins yn ddiweddar, wedi iddo ddweud pethau digon plentynnaidd ar Twitter. Rwyf hefyd wedi nodi ei ddirmyg anffodus tuag at ffeminyddwyr o fewn y "mudiad" anffyddiaeth/seciwlariaeth.

Mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth:
He said that he could not condemn the “mild paedophilia” he experienced at boarding school. “I am very conscious that you can’t condemn people of an earlier era by the standards of ours,” he says in an interview published today in The Times Magazine.
“Just as we don’t look back at the 18th and 19th centuries and condemn people for racism in the same way as we would condemn a modern person for racism, I look back a few decades to my childhood and see things like caning, like mild paedophilia, and can’t find it in me to condemn it by the same standards as I or anyone would today.”
Professor Dawkins, an evolutionary biologist, describes in a new nautobiography how a master at his Salisbury prep school “pulled me on to his knee and put his hand inside my shorts”. He writes that the episode was “extremely disagreeable” and that other boys were molested by the same teacher, but concludes: “I don’t think he did any of us any lasting damage.”
Mae'r sylwadau yma'n ddychrynllyd, ac mae'n rhaid holi beth ar y ddaear sy'n mynd trwy ei ben y dyddiau hyn.  Rwy'n falch bod Dawkins o'r farn nad yw ef ei hun wedi dioddef unrhyw "lasting damage" yn sgil y profiad, ond mae'n gwbl amhriodol iddo geisio siarad ar ran ei gyd-ddisgyblion. Nid oes gan Dawkins syniad faint o niwed y gall y dihiryn o dan sylw fod wedi'i achosi. Mae stwffio llaw lawr trôns eich disgyblion yn ddigon erchyll ac anfaddeuol (wrth gwrs!), ond os gwyddwn i sicrwydd am hynny, mae'n rhesymol dychmygu bod pethau gwaeth wedi digwydd i eraill hefyd.

Rydym yn gwybod erbyn hyn bod y math yma o gamdrin wedi bod yn rhemp mewn ysgolion o'r fath yn y gorffennol, ond nid yw hynny'n reswm o gwbl i feddalu ein condemniad. Mae'n anodd dychmygu faint o fywydau sydd wedi'u niweidio gan y pedoffeiliaid yma. Mae'r sylwadau hyn yn greulon iawn tuag at bobl sydd wedi dioddef problemau hir-dymor yn sgil profiadau tebyg, ac nid ydynt yn gwneud unrhyw les i unrhyw ymdrechion i sicrhau cyfiawnder.

Nid yw'n hawdd deall pam mae Dawkins mor barod i esgusodi'r peth. Mae wedi lladd ar yr eglwys babyddol, yn gwbl haeddiannol, am gamdrin plant, felly mae'r safonau dwbl yma'n destun dirgelwch. Petai'r ysgolfeistr wedi bod yn gwisgo lifrai offeiriad, tybed a fyddai Dawkins mor hapus i faddau? Beth fyddai ymateb Dawkins petai pabydd amlwg yn esgusodi pedoffeilia o fewn yr eglwys yn yr un ffordd?

Mae'n fwy fyth o syndod o gofio mai un o hoff ddadleuon Dawkins dros y blynyddoedd diwethaf (ac un o'i rai mwyaf dadleuol) yw bod labelu plant ifainc â chrefydd eu rhieni'n enghraifft o gamdrin. Rwy'n credu bod y ddadl yn un beiddgar ond digon dilys yn y bôn; fel mae Dawkins wedi ei ddweud, mae pawb yn cytuno y byddai galw plentyn pedair oed yn "blentyn Marcsaidd" yn eithaf sinistr, ac ni ddylai crefydd fod yn wahanol yn hynny o beth. Ond er fy niffyg amynedd gyda chrefydd, go brin bod y fath enghreifftiau'n cymharu â'r camdrin corfforol a llythrennol a ddisgrifir yn y dyfyniad. Mae wedi dweud rhywbeth tebyg o'r blaen, yn anffodus:
Yr ateb amlwg yw na, er mor anfoesol yw dychryn plant yn feddyliol fel hynny. Mae'r cyfeiriad at uffern yn amlygu problem arall i Dawkins a dweud y gwir, sef cysoni'r agwedd ffwrdd-a-hi yma tuag at droseddau'r gorffennol gyda'i feirniadaeth o'r pethau hyll a geir yn y Beibl (sydd wrth gwrs yn gasgliad o lyfrau a gyfansoddwyd rhwng tua 1,800 a 2,600 o flynyddoedd yn ôl). Mae wedi condemnio rhai pobl yn chwyrn (eto, yn gwbl gyfiawn a haeddiannol) am esgusodi'r gyflafan a gyflawnwyd yn erbyn trigolion Canaan, fel y'i disgrifir yn Neuteronomium. Wrth gwrs, roedd pawb yn mynd o gwmpas yn rheibio a llofruddio'u gelynion yn ystod y cyfnod o dan sylw. Er hynny, nid yw Dawkins yn fodlon caniatáu i gristnogion geisio cyfiawnhau'r erchyllterau yn y termau hynny. Mae'n berffaith gywir i beidio, wrth gwrs. Ond dylai'r un peth yn union fod yn wir yn achos ei fochyn o gyn-ysgolfeistr; ni ddylid caniatáu "ond roedd pawb wrthi" fel esgus.

Hyrwyddo ei hunangofiant newydd mae Dawkins ar hyn o bryd. Rwy'n hoff iawn o'i lyfrau (ac nid yw hynny'n mynd i newid er i'm amynedd gyda'r dyn ddirywio'n gyffredinol yn ddiweddar) ond nid wyf ar frys arbennig i brynu hwn a bod yn onest. Mae'r dyn fel petai wedi mynd i ymdrech arbennig i siomi ei edmygwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

7 comments:

  1. Cofnod gwych Dylan. Ges i fy magu mewn teulu crefyddol a dydw i ddim yn credu ei fod wedi achosi unrhyw niwed meddyliol i mi! A dweud y gwir rwy'n credu ei fod wedi bod yn reit llesol o ran deall dylanwad Cristnogaeth ar ein diwylliant. Er wrth gwrs mae'r math o grefydd sy'n cael ei ddysgu mewn ysgol sul yng Nghymru yn reit bell o'r math sy'n cael ei ddysgu mewn sawl rhan o'r byd. Rydw i'n nabod ambell berson sydd wedi dioddef camdriniaeth rhywiol ac yn dal i ddioddef y sgil effeithiau hyd heddiw - does dim modd eu rhoi yn yr un cae, heb son am awgrymu bod un yn waeth na'r llall.

    ReplyDelete
  2. Mae'n codi cyfog arnaf i wneud hyn, ond rwyf am amddiffyn Archoffeiriad y ffydd Anffyddiol ar dy flog!

    Ganwyd Yr Archoffeiriad ym 1941, o dybio dy oedran, mae o tua'r un oed a dy Daid.

    Yn ddi-os cafodd dy Dad chwip din gan dy Daid fel modd o'i ddisgyblu. Beth bynnag bo ein barn ni bellach am guro plant roedd dy Daid yn disgyblu ei fab yn ôl safonau disgwyliedig ei oes, does dim modd ei feirniadu am hynny!

    Mae'n bosib bod dy Daid, yn sicr bod nifer o'i gydnabod, yn curo eu gwragedd heb ymyrraeth gyfreithiol gan fod disgyblu gwraig yn cael ei hystyried fel achos teuluol, yn hytrach na throsedd, cyn y 1980au.

    Fe fu Dawkins yn ddisgybl mewn ysgol bonedd, ac mae 'na dystiolaeth bod ysgolion bonedd wedi goddef paedophilia fel rhan o'r drefn ers canrifoedd, a does dim sy'n rhyfeddol bod yr Athro yn cofio cyfnod felly fel rhan naturiol o'i brofiad o blentyndod, hyd yn oed plentyndod hapus!

    Hawdd yw edrych yn ôl ar gyfnod caethwasiaeth, a chydnabod mae dyna oedd y drefn yn y 1700'au; anos yw deall y newidiadau syfrdanol yn y cysyniad o hawliau ers y 1950 a chydnabod nad oedd pethau'r un fath yn ystod oes ein cydnabod.

    Pan oedd Dawkins yn 26 oed roedd gwrywgydiaeth yn anghyfreithiol, roedd cyfreithloni gwrywgydiaeth yn rhan o'r sexual revolution, roedd y ffaith bod grwpis dan 15 yn fodlon rhoi eu hunain i bobl fel Jimmy Saville yn rhan o'r un chwildro, roedd yn rhan o ryddid rhywiol y 60au. Ac rwy'n ddigon hen a ddigon ifanc i ddeallt pam bod Dawkins yn dweud dyna oedd bywyd y cyfnod, canys dyna ydoedd!

    Fel y mwyafrif o fy nghyd oedwyr, byddwn wedi ffeirio ffafriai rhywiol am Fedal Jim will Fix It ar y pryd ac yn difaru bellach. O'r herwydd rwy'n gweld cenhedlaeth fy nghyfnod ar fai yn hytrach na Syr Jimmy am or ryddid, yn hytrach na throseddau rhywiol

    Fel Yr Archoffeiriad rwy'n derbyn bod fy nghofion cynharaf o fywyd yn druenus o wael yn ôl safonau cyfoes, ond yn parhau i fod yn hyfryd yn fy nghof

    ReplyDelete
  3. We are not wholly bad or good
    Who live our lives under Milk Wood,
    And Thou, I know, wilt be the first
    To see our best side, not our worst.

    ReplyDelete
  4. Ifan: Diolch. A cheisio bod yn garedicach, mae'n bosibl bod ambell unigolyn sydd wedi dioddef yn waeth oherwydd iddynt gael eu trwytho â syniadau crefyddol hyll (fel uffern neu'r pechod gwreiddiol) nag ambell berson sydd wedi dioddef camdrin rhywiol corfforol. Wrth gwrs, nid yw cydnabod hynny'r un peth o gwbl â honni bod hynny'n wir mewn ffordd mwy cyffredinol.

    Mae'r ddau beth yn anfoesol, ond mae un llawer iawn yn waeth.

    Alwyn: Mae'n eithaf priodol, am wn i, mai'r unig dro rwyt yn amddiffyn Dawkins yw pan mae'n dweud pethau hyll.

    "Grwpis 15 oed yn rhoi eu hunain i Jimmy Savile"? Hyd yn oed petai hynny'n wir (yn y mwyafrif anferth o'r achosion yma roedd Savile fwy neu lai'n gorfodi ei hun arnynt), ei gyfrifoldeb ef, fel yr oedolyn, fyddai peidio eu treisio.

    Bai Jimmy Savile a neb arall yw'r ffaith iddo dreulio cymaint o ddegawdau'n ffwcio plant. Beio'r dioddefwyr yw awgrymu bod cyfrifoldeb ar y plant eu hunain, ac mae'n ategu ac atgyfnerthu diwylliant treisio. A dweud y gwir, mae'n bosibl iawn mai dyna'r peth gwaethaf i mi dy weld yn ei ddweud erioed. Ac mae hynny'n dweud lot.

    ReplyDelete
  5. Un o dy wendidau di fel dadleuwr, Dylan, yw dy fod byth yn gallu dechrau unrhyw ddadl efo crybwyll o ble mae unrhyw un o farn amgenach na thi yn cychwyn, ac o'r herwydd yr wyt o hyd yn brwydro yn erbyn bwgan brain o dy wneuthuriad dy hun yn hytrach nac yn erbyn yr hyn y mae'r unigolyn yn dweud.

    Enghraifft o hyn yw dy honiad mae dyma'r "unig dro" imi amddiffyn yr Athro Dawkins. Y gwir yw pob tro mae'r athro yn yngan gair rwy'n amddiffyn ei hawl i'w yngan, gan fy mod yn credu mewn rhyddid barn.

    Yn y dyddiau PC sydd ohoni mae cefnogi rhyddid barn yn beth wrthyn, mae'n debyg bod ambell i farn nad oes hawl i'w fynegi!

    Fe fu farw Merthyron Cristionogol lu er mwyn caniatáu rhyddid barn ar bynciau crefyddol, bu eu marwolaeth yn rhoi'r un rhyddid i mi fel anghydffurfiwr o Gristion i fynegi barn amgen ar Gristionogaeth i farn yr Eglwys Statudol ac ydyw yn rhoi'r hawl i ti a Dawkins i wadu Cristionogaeth.

    Os wyt am ofyn a oes unrhyw esgus tros gael rhyw efo plentyn o dan oed cydsyniol heddiw, fy ymateb, yn bendant, yw na! Os wyt yn gofyn a fu cyfnodau lle roedd agwedd at agweddau rhyw cydsyniol yn wahanol? Yr ateb yw ie! Roedd Siwan 12 oed yn briod a Llywelyn 32 oed! Ffiaidd yn ein dyddiau ni, normal yn eu dyddiau hwy!

    Cwestiwn anoddach, i ni sy'n ddigon hen i gofio'r cyfnod, yw nid "a oedd ymddygiad y sêr yn erbyn cyfraith yr oes" (yn ddi-os ydoedd) ond a ydoedd yn erbyn "ysbryd" yr oes? Ac mae hynny'n cwestiwn anos ar y diawl i'w ateb!

    Er gwaetha'r ffaith fy mod yn anghytuno a barn Dawkins am grefydd, rwy'n ddiolchgar iddo am ofyn cwestiynau sydd angen dwys ystyriaeth i mi fel crefyddwr.

    Yn yr achos yma mae o'n gofyn cwestiwn sydd angen dwys ystyriaeth parthed moesoldeb, ac rwy'n ddeall man cychwyn ei ddadl. A ddylid barnu ymddygiad rhywiol y 60'au yn ôl y gred mewn "free love", yn erbyn cyfreithiau'r dydd neu yn ôl moesau heddiw?

    Cwestiwn dyrys sy ddim yn cael ei ateb trwy condemnio Dawkins ac ap Huw fel paedophile apologists dy ddadl diog!

    ReplyDelete
  6. Y broblem amlwg gyda beio "chwyldro rhywiol" y 1960au am bethau fel hyn yw bod oedolion, yn ôl pob tebyg, wedi bod yn ffwcio plant ers cyn cof. Mae'n amhosibl derbyn mai ffenomen diweddar yw camdrin plant o fewn yr eglwys babyddol, er enghraifft. Nid oes rheswm i dybio nad oedd yr un peth yn union yn digwydd mewn mynachlogydd Benedictaidd yn y nawfed ganrif. Yr unig beth sydd wedi newid yw ein bod yn llawer iawn mwy tebygol o gael clywed am y peth erbyn hyn. Y gwrthwyneb i'th ddadl yw'r gwir: mae treisio plant yn llawer iawn llai derbyniol erbyn hyn nag ydoedd cyn y 1960au.

    Mae'r un peth yn wir am yr holl straeon ofnadwy diweddar am ferched yn cael eu treisio yn Yr India. Go brin bod y nifer o achosion wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn hytrach, mae'n debygol bod y troseddau yma wedi bod yn digwydd erioed (yn anffodus) ond bod y dioddefwyr erbyn hyn wedi dod yn llawer iawn llai parod i gadw'n dawel.

    Roedd y "chwyldro rhywiol" yn beth iach. Ei brif lwyddiant oedd pwysleisio mai rhywbeth a wneir ar y cyd (rhwng oedolion sy'n cydsynio'n llon) yw rhyw, yn hytrach na rhywbeth y mae dynion yn ei orfodi ar bobl llai grymus.

    ReplyDelete
  7. Gyda llaw, mae Dawkins wedi ceisio egluro ei safbwynt ymhellach fan hyn, ac wedi ymddiheuro i raddau. Digon teg, ond rwy'n credu o hyd bod ei bwynt yn un blêr.

    ReplyDelete