Roeddwn ar Taro'r Post ar Radio Cymru heddiw (wedi'i recordio o flaen llaw), yn ymateb i'r arolwg barn diweddar sy'n dweud bod mwyafrif o bobl Prydain bellach yn cytuno bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nac o dda. Mae modd gwrando ar yr eitem fan hyn (40 munud i mewn), ac mae ar gael nes ddydd Llun.
Yn fras, fel y gallwch ddychmygu, rwy'n croesawu'r arolwg a'n cytuno bod crefydd yn niweidiol. Ond rwyf hefyd yn argymell pinsiad o halen gyda straeon fel hyn. Mae geiriad y cwestiwn, a dehongliadau gwahanol pobl o ystyr 'crefydd' (sydd, wedi'r cyfan, yn rhyfedd o anodd i'w diffinio), yn golygu bod yr atebion yn gallu bod yn llithrig iawn, gan amrywio o arolwg i arolwg.
Byddaf yn ymhelaethu ar fy safbwynt personol yn fuan.
No comments:
Post a Comment