14/11/2014

Crefydd: mwy o ddrwg nag o dda

Hoffwn ymhelaethu ar yr hyn a ddywedais ar y radio yn gynharach yn yr wythnos, wrth ddadlau bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

Y pwynt pwysicaf yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod unrhyw grefydd yn wir. Rwy'n credu bod credu pethau anghywir - neu yn benodol, gwadu realiti - yn niweidiol ynddo'i hun, a'n rhywbeth y dylem ymdrechu i'w osgoi. Enghraifft amlwg yw'r modd y mae crefydd yn ysgogi cynifer o'r ffyddloniaid i wadu ffeithiau syml am y byd, fel esblygiad. Yn fwy na hynny, mae rhai'n benderfynol o wthio'u camargraffiadau ar y genhedlaeth nesaf.

Yn hynny o beth, nid yw'r cwestiwn ynghylch rai o rinweddau honedig crefydd yn arbennig o berthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod crefydd yn cynnig cysur, er enghraifft (a na, ni welaf gysur o fath yn y byd yn y syniad o fywyd tragwyddol), byddai'r ffaith ei bod yn ddi-sail ac anghywir yn parhau i olygu bod angen gwrthod y syniad. I mi, o leiaf, gwirionedd sy'n bwysig. Nid oes cysur mewn celwydd.

Yn ail, mae'n amlwg bod crefydd yn aml yn gyfrifol am lawer o ddrwg. Nid wyf erioed wedi awgrymu mai cref'ydd yw ffynhonnell popeth gwael. Petai crefydd yn diflannu yfory, ni fyddai'r byd o reidrwydd yn troi'n berffaith ar unwaith, a byddai'n wirion disgwyl mai dyna fyddai'r canlyniad. Mae gan ormod o bobl ddawn arbennig i ddod o hyd i bob math o resymau dwl i niweidio'u cymdogion ar ein planed.

Eto i gyd, byddai byd heb ffydd grefyddol yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fel person â safbwyntiau rhyddfrydol iawn ar faterion cymdeithasol, crefydd yw'r gelyn ym mron pob dadl, er enghraifft ynghylch erthyliad a hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr hawl i farw, neu'r hawl i ddychanu daliadau ofergoelus ac ati. Creadigaethau dynol yw'r gorchmynion crefyddol sy'n gwrthwynebu cydraddoldeb a hawliau sifil, wrth gwrs. Fel y crybwyllais ar Taro'r Post, rôl Cristnogaeth yn hynny o beth oedd ffosileiddio rhagfarnau a fodolasai ymhlith trigolion anwybodus y Dwyrain Canol ddwy fileniwm a mwy yn ôl. Mae eu troi'n reolau ysgrythurol wedi'i gwneud yn anos i bobl eu herio a'u hanwybyddu (a dyna wrth gwrs oedd y bwriad; mae priodoli'r pethau yma i ryw fath o dduw hollbresennol yn strategaeth wleidyddol ddefnyddiol er dibenion cadw trefn). Heb yr elfen grefyddol, mae'n anodd dychmygu y byddai'r fath ragfarn yn erbyn pobl hoyw, er enghraifft, wedi goroesi i'r fath raddau. Mae rhai o'r gorchmynion crefyddol mwy eithafol wedi cael eu gwanhau neu eu hanwybyddu erbyn hyn, ond dim ond oherwydd dylanwad ffodus moesoldeb seciwlar.

Yn drydydd, rwy'n cwestiynu'r rhesymeg sy'n greiddiol i'r ddadl bod llawer yn cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i wneud pethau da a charedig (fel gwaith elusennol gwirfoddol, neu roddi arian ac ati). Mae'n amlwg yn wir bod rhai Cristnogion yn credu bod pethau felly'n elfen ganolog o'u ffydd, ac mae llawer ohonynt, mae'n wir, yn cyfrannu llawer iawn mwy o amser neu arian at achosion da nag yr wyf i. A dweud y gwir, rwy'n lled-gytuno mai gweithredoedd sy'n bwysig. Os yw pobl yn gwneud pethau da, pa ots beth yw'r cyfiawnhad?

Y broblem yw'r honiad cyffredin bod moesoldeb yn deillio o Dduw, sy'n ddadl a ddefnyddir yn fynych yn erbyn anffyddwyr. Yr awgrym amlwg yw na fuasai'r Cristion felly'n gwneud y pethau da hynny pe na baent yn credu bod duw'n bresennol. Fel rwyf wedi'i ddadlau o'r blaen, rwy'n credu bod Cristnogion sy'n dadlau fel hyn yn gwneud cam mawr â'u hunain. Nid yw 'oherwydd dyna ddyhead Duw' yn safbwynt moesol o gwbl. Nid yw chwaith yn gwneud synnwyr i awgrymu bod mwy o reswm i helpu eraill os mai Duw sydd wedi ein creu. Gan fod modd egluro a chyfiawnhau cymhellion altrwistaidd mewn termau seciwlar, nid oes angen Duw o gwbl er mwyn ein hysgogi i wneud pethau da.

Y peth caredicaf y mae modd ei ddweud am grefydd, felly, yw ei bod weithiau yn niwtral o safbwynt moesol. Mewn achosion eraill (fel yn y ddau bwynt cyntaf uchod), mae'n niweidiol i raddau gwahanol. Mae'n ddrwg yn aml, ond byth yn dda.

3 comments:

  1. Mae'r "cyfiawnhad" (byddwn i'n ffafrio defnyddio'r gair 'cymhelliad') tu ôl i wneud pethau da yn bwysig. Ar un llaw mae yna wahaniaeth sylfaenol, er enghraifft, rhwng gwneud rhywbeth da i rywun mewn gobaith y gwna nhw rhywbeth nol i chi - math o weithred da sy'n rhan o gytundeb answyddogol cymdeithasol. Cymharer hynny ar y naill law gyda gwneud rhywbeth da heb disgwyl dim yn ôl fel gweithred hunanaberthol o gariad. Mae elfen o fuddsoddiad personol yn y weithred dda gyntaf (ddim bod dim o'i le ar hynny), ond wedyn gweithred hunanaberthol mewn ffordd yn y llall.

    Dyma oedd un o'r pwyntiau sylfaenol roedd Iesu'n gwneud yn ystod ei weinidogaeth. Dangos fod llawer o'r hyn roedd y Phariseaid yn ei wneud yn ddigon "da", jest fod eu cymhellion ac felly eu calon yn bell. Roedden nhw, fel llawer o bobl grefyddol heddiw, yn defnyddio eu buchedd da i reoli pobol ac i gadw eu statws cymdeithasol. Mae critique Iesu o grefydd ei ddydd yn ddamniol, ac yn y broses yn dangos fod y cyfiawnhad neu'r cymhelliad dros fyw mewn ffordd arbennig yn bwysig.

    ReplyDelete
  2. Diolch.

    Mae'n bosibl dadlau, yn fras iawn, nad oes o reidrwydd y fath beth ag altrwistiaeth bur. Hyd yn oed os nad wyt yn disgwyl ffafr drachefn gan y person penodol sy'n derbyn dy gymorth, mae cael enw da fel "person neis" yn y gymdeithas yn fuddiol ynddo'i hun. Trafoder!

    ReplyDelete
  3. Pwynt da! Y gwahaniaeth arall wrth gwrs ydy gweithred dda mewn gobaith o gael eich derbyn (dyma yn ôl fy nealltwriaeth i ydy 'Crefydd'), ac yna gweithred dda mewn ymateb i'r gwirionedd eich bod chi eisoes wedi eich derbyn (dyma yn ôl fy nealltwriaeth i yw 'efengyl').

    ReplyDelete