18/01/2015

Diffyg hunanymwybyddiaeth doniol

Mae'n hwyl reslo'n y llaid â chreaduriaid od a dwl ar Twitter o dro i dro. Ambell waith, beglir ar draws rhywun sy'n cyfuno traha digywilydd a diffyg hunanymwybyddiaeth i raddau gwirioneddol arwrol. Yn aml, yn enwedig os ydynt yn defnyddio enw ffug, nid yw bob tro'n sicr nad ydynt yn chwarae'r twpsyn yn fwriadol, mewn rhyw fath o gêm feta-eironig; dyma ddeddf Poe ar waith. Yn yr achos isod, rwyf wedi tybio ei fod o ddifrif. Ymddengys yn ddigon didwyll yn ei ffordd dwp ei hun.

Anwybyddu troliaid yw'r polisi doethaf weithiau, ond dro arall mae gwerth tynnu sylw. Gall fod yn llesol iawn i weld, a dangos, pa mor thick yw rhai o'ch gwrthwynebwyr:


Mae mwy o'r nonsens 'ma, ond dyna ddetholiad o'r 'uchafbwyntiau' os oes modd eu galw'n hynny. Prin bod angen i mi ychwanegu mwy.

No comments:

Post a Comment