29/10/2015

Cynnydd anferth yn nifer y di-grefydd yng Nghymru

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad o sefyllfa crefydd yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac maent yn ddiddorol tu hwnt (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, yn anffodus).

Rwy'n hapus iawn i weld bod y nifer sy'n dweud nad ydynt yn grefyddol wedi dyblu, bron, o 500,000 (18.5% o'r boblogaeth) yn 2001 i 980,000 (32.1%). Yn y cyfamser, mae'r nifer o Gristnogion wedi gostwng o 2.1m (71.9%) i 1.8m (57.6%), a hynny er bod poblogaeth Cymru 160,000 yn fwy yn 2011 nag yn 2001. Mae hyn, wrth reswm, yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi.

Dylid cofio'r cafeatau arferol, serch hynny, gan fod diffiniadau pobl o grefydd yn amrywio. Nid yw'n dilyn, o reidrwydd, bod person 'di-grefydd' yn anffyddiwr. Mae llawer yn ymwrthod â'r label crefydd ond yn galw'u hunain yn 'ysbrydol' (safbwynt sy'n mynd ar fy nerfau, ond mater arall yw hynny). Mae sawl ffordd amgen o fod yn ddi-grefydd hefyd. Fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae'r 32.1% yma'n cynnwys 'No religion, Jedi Knight, Agnostic, Atheist, Humanist, Heavy Metal, Free Thinker, Realist'.

Ar yr un pryd, fe ddichon bod llawer o bobl sy'n ticio'r blwch 'Cristnogaeth' (neu un o'r crefyddau eraill) yn gwneud hynny am resymau diwylliannol a thraddodiadol; nid ydynt yn arfer y ffydd yn eu bywydau pob dydd, ac nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am y mater, ond maent yn parhau i dderbyn y label os yw rhywun yn gofyn.

Nid gwyddoniaeth bur yw holiaduron, felly. Ond dyma'r wybodaeth orau sydd gennym, ac maent yn galonogol. Er bod arolygon gwahanol ynghylch crefydd yn rhoi canlyniadau amrywiol, yn ddibynnol ar eiriad y cwestiynau, mae'r duedd gyffredinol yn amlwg. Edwino y mae crefydd, ac mae 'dim crefydd' - ac anffyddiaeth, fel is-set o'r categori hwnnw - yn mynd o nerth i nerth. Gan fod Cristnogion, y garfan grefyddol fwyaf, yn hŷn, a'r di-grefydd yn ifanc, mae'n anochel y bydd y patrwm yma'n parhau am flynyddoedd i ddod (mae'n wir bod Mwslemiaid yn iau eto, ond mae llawer llai ohonynt). Rwy'n disgwyl y bydd mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-grefydd o fewn cenhedlaeth, ac rwy'n falch dros ben am hynny.

5 comments:

  1. Mae mwyafrif helaeth pobl Cymru yn ddi-grefydd eisoes. Yn yr Eglwys rydym ni'n gweithio off ystadegau sy'n seiliedig fwy ar bolau piniwn ynglŷn a beth yn union mae pobol yn credu yn hytrach fel beth mae pobol yn gweld eu hunain. Wrth ddadansoddi hynny mae modd torri trwy y fflwff diwylliannol a dod i'r casgliad fod y nifer o Gymry sy'n Gristnogion yn ôl dealltwriaeth credo/praxis (yn hytrach na diwylliannol) dan y 10% yn hawdd. 6% os cofiaf yn iawn, ond methu troi fy llaw at y ffynhonell erbyn hyn. Er yn sioc falle i ti ond fel Cristion dwi'n gweld hwn fel rhywbeth da - o gael gwared o'r fflwff diwylliannol mae modd i ni Gristnogion 'ddechrau o'r dechrau' megis. A dyna pam dwi'n meddwl fod eglwysi fel ein eglwys ni yn llwyddo i buck the trend i raddau a thyfu - achos fod ni ddim yn rhan nag yn pregethu Cristnogaeth ddiwylliannol.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Wrth gwrs gan mai oll eiddo ac arian yr eglwysi i'w adael i lai a llai o bobl ... (ac yn y dyddiau hyn o lymder mae'r esgobion yn trigo o hyd mewn palasau).

      Delete
    2. Mae cyd-destun pob traddodiad eglwysig yn wahanol. Does gan ein traddodiad ni (Bedyddwyr) ddim esgobion, nac ychwaith lot o arian parod - ches i ddim mans heb sôn am balas! Ond a bod yn deg rydw i yn derbyn cyflog teg i fyw bywyd digon cyfforddus. Yn rhyfedd wrth i capeli gau ac yna'r adeiladau gael eu gwerthu mae modd i ni ail-fuddsoddi'r cyfalaf mewn i weinidogaethau newydd. Dwi'n meddwl fod traddodiadau eraill yn stryglo i ail-gylchu adnoddau gan eu bod wedi ei gloi mewn adeiladau ac i gynnal strwythurau. Fel eglwys heb heierarchiaeth does dim lot o wariant gyda ni ar gynnal strwythurau diolch byth.

      Delete
  2. Diolch am y sylwadau.

    Mae'n dibynnu ar dy ddiffiniad o grefydd am wn i, Rhys. Os oes rhaid mynychu addoldy a rhoi lle creiddiol i'r ffydd yn dy fywyd bob dydd, mae hynny'n amlwg yn mynd i gyfyngu ar y nifer o bobl sy'n ateb y gofynion. Fy marn bersonol yw bod unrhyw un sy'n credu mewn bod goruwchnaturiol personol yn grefyddol.

    Rwy'n credu ein bod yn gytûn, serch hynny, nad yw bod yn ddi-hid am y mater yn gwneud synnwyr y naill ffordd na'r llall. Os oes yna dduw sydd wedi'n creu ac sy'n disgwyl i ni ymddwyn mewn ffordd arbennig, yna dyna fyddai'r ffaith bwysicaf yn y byd, a dylai liwio popeth a wnawn. Mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd: os nad oes yna dduw, yna rydym ar ein pen ein hunain ac ein cyfrifoldeb ni yw gweithio allan sut i fyw yn foesol (ac mae hynny'n aml yn golygu gwrthwynebu athrawiaethau crefyddol). Beth bynnag dy safbwynt, rwy'n methu'n lân â deall pobl sy'n apathetig ynglŷn a'r pwnc.

    ReplyDelete
  3. Cytuno 100% Dylan, da ni'n dau yn y busnes o gael pobol off y ffens. Dim ond ein bod ni'n apelio o ddau ochr wahanol y ffens wrth gwrs! Mae dy ddehongliad o "berson crefyddol" yn gywir iawn a debyg fod hwnnw dal reit uchel. Roedd y nifer sylweddol is o dan 10% roeddwn i'n sôn amdano yn siarad yn benodol am grefydd argyhoeddiadol Gristnogol, rhagor na chrefydd fel syniad diwyllianol llac.

    ReplyDelete