Mae'n debygol nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl rhyw lawer am darddiad 'dathliadau' heddiw. Oes angen esgus i fwynhau ychydig o dân gwyllt, wedi'r cyfan? Eto i gyd, mae Guto Ffowc wedi dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd y ffilm V For Vendetta (2005). Portreadir Guto Ffowc yn y ffilm fel ffigwr chwyldroadol, sy'n bomio senedd San Steffan er mwyn dymchwel llywodraeth dotalitaraidd. Bellach, mae mygydau Guto Ffowc i'w gweld mewn nifer o brotestiadau gwrth-sefydliadol, megis rhai'r mudiadau Occupy ac Anonymous. Dywedir mai ef oedd y person olaf i fynd i Dŷ'r Cyffredin gyda chymhellion didwyll.
Teg dweud bod y fytholeg yma'n garedig iawn i'r ffigwr hanesyddol go iawn. Erbyn hyn, rydym wedi anghofio mai Pabydd adweithiol ffwndamentalaidd oedd Guto Ffowc (nes yn gymharol ddiweddar, dathliad Protestanaidd oedd Tachwedd y 5ed i ddiolch i Dduw am drechu'r ymdrech i'n troi i gyd yn Babyddion drachefn). Do, fe geisiodd ymosod ar gyfundrefn ormesol Brotestanaidd y brenin Iago, ond ei obaith oedd gosod llywodraeth Babyddol ormesol yn ei lle. Nid gormes oedd y broblem yn ei farn ef, ond y ffaith mai'r ochr anghywir oedd â'r grym. Roedd yn gobeithio cael gormesu eraill yn hytrach na chael ei ormesu ei hun. A dweud y gwir, nid oedd hyd yn oed wedi chwarae rhan arbennig o flaenllaw yn y cynllwyn. Robert Catesby oedd yr arweinydd; dim ond digwydd cael ei ddal tra'n goruchwylio'r powdwr gwn wnaeth Guto.
A yw hyn yn bwysig? Cyfyd cwestiynau diddorol, am wn i, am natur a tharddiad mytholeg a symbolau. Mae ffigurau hanesyddol yn aml yn dod i gynrychioli a symboleiddio gwerthoedd yn y dyfodol a fyddai, fwy na thebyg, wedi bod yn destun syndod iddynt (rwy'n fodlon mentro, er enghraifft, nad oedd Owain Glyndŵr yn ddyn arbennig o ddymunol mewn gwirionedd). Os oes gwers fan hyn, efallai mai honno yw nad yw chwyldro'n amcan ddefnyddiol ynddi'i hun. Rhaid cael syniad gwell i'w osod yn lle'r gyfundrefn bresennol. Mae chwyldro er mwyn chwyldro, er yn hwyl a chyffrous ar y pryd, yn gêm beryglus.
Eironi druenus i gloi. Mae protestwyr gwrth-gyfalafol yn gwario ffortiwn ar y mygydau Guto Ffowc yma. I ble aiff yr arian? I goffrau Time Warner, un o gwmnïau masnachol mwyaf y byd. Chwyldro yn wir.
No comments:
Post a Comment